Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 19 Ionawr 2021.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Ac yn ogystal â hynny hoffwn i fynegi fy niolch innau i Arglwydd Burns a'r comisiynwyr am eu hargymhellion. Ac fe hoffwn i ddiolch hefyd i Arglwydd Burns a Peter McDonald o ysgrifenyddiaeth y comisiwn am fod yn bresennol yn y pwyllgor Economi, Seilwaith, a Sgiliau yr wythnos diwethaf, a oedd, yn fy marn i, yn arbennig o fuddiol.
Fel rwyf i'n ei gweld hi, Dirprwy Weinidog, mae cyfradd y traffig yng Nghymru yn cynyddu'n flynyddol yn gyffredinol. Mae fy mhlaid i a minnau'n croesawu'r argymhellion a nodir yn adroddiad y comisiwn; rwyf am fynegi fy marn i'n glir iawn ynglŷn â hynny nawr hefyd. Ond rwy'n credu, wrth gwrs, nad yw'r argymhellion yn disodli ffordd liniaru i'r M4—i fod yn glir ynglŷn â hynny hefyd. Yn fy marn i, yn bennaf, ni ddylid cyflawni'r argymhellion hyn ar eu pen eu hun; fe ddylid eu cyflawni yn gyfochrog â llunio ffordd liniaru i'r M4.
Mewn tystiolaeth yr wythnos diwethaf, fe glywodd y pwyllgor gan Arglwydd Burns, ac fe gyfeiriodd ef—pan ofynnwyd iddo—at rywfaint o amheuaeth ymysg rhanddeiliaid ynghylch a fyddai unrhyw un o'r argymhellion yn gweld golau dydd. Nawr, rwy'n deall pam y gallai amheuaeth fodoli. A ydych chi'n deall pam mae yna amheuaeth, ac a oes yna unrhyw un wedi mynegi'r amheuaeth honno i chi hefyd? A beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y rhai sy'n rhannu'r amheuaeth honno?
O ran yr argymhellion, rydych chi wedi nodi yn eich datganiad heddiw y bydd yr uned gyflawni yn edrych yn fanwl ar y rhain ac yn dod yn ôl atoch chi o ran y blaenoriaethau. Rwy'n deall hynny'n burion, ond efallai y gallech chithau nodi'r hyn yr ydych chi'n teimlo fydd yr argymhellion cynnar cychwynnol y credwch y dylid eu mabwysiadu a gweithio arnyn nhw eich hun, cyn cael barn gan yr uned gyflawni. Roedd yna lawer o sôn am yr uned gyflawni a'r grŵp llywio hefyd. Rwy'n credu eich bod chi wedi bod yn eithaf eglur ynglŷn â hynny, ond fe hoffwn ichi fod ychydig yn fwy eglur o ran pwy ydych chi'n ystyried sy'n gyfrifol am weithredu'r argymhellion. Mae sôn am y ddau grŵp; pwy fydd yn cysylltu â'r rhanddeiliaid yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am lywodraethu'r uned gyflawni hefyd—fe wn ichi gyfeirio at benodi'r cadeirydd—ychydig mwy am lywodraethu, ariannu'r uned gyflawni honno a'i chylch gwaith—a fydd ganddyn nhw lythyr cylch gwaith? Oherwydd, yn amlwg, mae'n debyg y bydd yr uned gyflawni yn gorff a fydd yn weithredol am bump i 10 mlynedd eto. A hefyd, efallai, sut ydych chi am fwrw ymlaen â'r argymhellion ar newid ymddygiad yn benodol, ochr yn ochr neu'n gyfochrog â'r argymhellion ar seilwaith?
Ac yna nod Llywodraeth Cymru o 30 y cant yn gweithio o gartref; yn amlwg, fe fu yna newid mewn patrymau teithio yn ystod 2020, felly sut wnaeth y comisiwn roi ystyriaeth i'r rhain yn ei waith, yn eich barn chi? Ni ddylai'r cynnydd mewn gweithio o gartref yn ystod y pandemig gael ei ystyried yn esgus, yn fy marn i, i ohirio gweithredu'r argymhellion hyn, ac fe fyddwn i'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â hynny. Ond rwy'n cytuno ag Arglwydd Burns pan ddywed ef fod yna amser i anadlu nawr yn sgil y pandemig, oherwydd nid yw'r ffordd mor brysur ag y bu, ac felly mae'n golygu defnyddio'r amser hwn i anadlu mewn modd priodol, mewn ffordd briodol, ac felly efallai y gwnewch chi ddweud wrthyf a ydych chi'n cytuno â'r safbwynt hwnnw.
Mae'n hanfodol cynyddu'r newid mewn ymddygiad, a'r argymhelliad sy'n peri'r pryder mwyaf i mi yw'r ardoll ar barcio sy'n cael ei grybwyll. Er mai'r cyflogwyr, nid y gweithwyr, fyddai'n gyfrifol am dalu'r ardoll hon, rwy'n pryderu am effaith ganlyniadol hyn ar y gweithwyr a fyddai, i bob pwrpas, yn talu am yr ardollau hynny eu hunain. Fe fyddwn i'n croesawu rhagor o sylwadau am hynny.
Ac yn olaf, o ran yr effeithiau ariannol, roedd y Prif Weinidog yn nodi o'r blaen mai'r alwad gyntaf ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y £1 biliwn hwnnw fyddai gwneud gwelliannau o'r mathau hyn. Mae llawer wedi digwydd ers hynny, wrth gwrs, ac fe nododd y Prif Weinidog hefyd fod costau yn ystyriaeth bwysig o ran yr argymhellion. Mae'r comisiwn wedi dweud y byddai costau'r argymhellion yn rhywbeth rhwng £600 miliwn a £800 miliwn o wariant dros 10 mlynedd. A ydych chi'n credu bod hynny'n cynrychioli gwerth da am arian? Sut wnaiff hynny roi ystyriaeth i anghenion eraill gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran ymdrin â'r pandemig?