Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 19 Ionawr 2021.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Fel y dywedodd Russell George, roedd yn fuddiol iawn cael Arglwydd Burns yn bresennol yn y pwyllgor ac fe gawsom ni, aelodau'r pwyllgor, gyfle felly i archwilio rhai o'r syniadau gydag ef yn uniongyrchol. Rwy'n dymuno rhoi i'r Dirprwy Weinidog gefnogaeth Plaid Cymru i'r dull hwn, a dweud ein bod ni'n falch ei fod wedi gallu derbyn yr argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r ymateb fesul llinell, oherwydd mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod cystal â minnau nad yw derbyn mewn egwyddor bob amser yn golygu y gallwn ni wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, fe fydd angen inni edrych ar hynny gyda rhywfaint o ofal rwy'n credu, ond rwyf i'n croesawu'r dull yn fawr iawn.
A gaf i ofyn ychydig mwy am gyflawni hyn? Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog yn llygad ei le pan fo'n sôn am annog y galw, ac fe wyddom ni, pe bai'r ffordd hon wedi cael ei hadeiladu, fe fyddai'n orlawn ymhen ychydig flynyddoedd, ond yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yw newid tymor hwy. Mae yna heriau yn hyn o beth. Rwy'n credu y byddem ni'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am yr angen, pan fydd dewisiadau amgen da ar waith, i weld anghymhellion yn dod i rym o ran pobl yn gallu parhau i ddefnyddio ceir preifat, er fy mod i'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud bod angen i ni ddechrau gyda'r cymhellion cadarnhaol drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, gan wneud i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus deimlo'n fwy diogel, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ei defnyddio.
Rwy'n pryderu mai un o'r heriau mawr o ran cyflawni fydd y sefyllfa gyda rhannau o'r rhwydwaith rheilffyrdd nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Nawr, efallai nad y drafodaeth y prynhawn yma yw'r cyfle priodol i gael y drafodaeth am y cyfle a gollwyd pan allai Llywodraeth Cymru fod wedi gofyn am ddatganoli llawn ond ni wnaeth felly, ond, yng nghyd-destun y drafodaeth heddiw, mae hyn yn cyflwyno rhai heriau gwirioneddol. Mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i ddweud bod Cymru wedi cael bargen wael ofnadwy o ran gwariant cyfalaf gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn iawn pan ddywedodd ef wrthym yn gynharach y prynhawn yma na allwn ni ymddiried yn y Torïaid. Ond, o ran cyflawni'r gyfres benodol hon o ganlyniadau, fe hoffwn i ofyn i'r Dirprwy Weinidog y prynhawn yma pa lwyddiant sydd wedi bod gyda'r trafodaethau cychwynnol hynny y mae ef a'i swyddogion wedi bod yn eu cael gyda Llywodraeth y DU. Mae'n gynnar iawn i ddweud, wrth gwrs, ond a yw'n teimlo eu bod nhw'n deall pwysigrwydd a gwir frys yr angen i gyflawni ar gyfer pobl y de-ddwyrain, ac, yn wir, y tu hwnt i hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae tagfeydd yn y de-ddwyrain yn cael effaith y tu hwnt i'r de-ddwyrain ei hun? Felly, a yw ef yn credu y bydd diffyg pŵer dros seilwaith y rheilffyrdd yn broblem o ran cyflawni'r gyfres hon o argymhellion?
O ran gwaith yn y tymor byrrach y mae ef wedi sôn amdano o ran teithio llesol a'r rhwydwaith bysiau, a yw ef yn hyderus bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer i allu sicrhau bod hyn yn digwydd gyda bysiau? Wrth gwrs, gyda Newport Bus eu hunain, maen nhw'n parhau i gael eu rheoli, yn ôl a ddeallaf i, gan yr awdurdod lleol, ac felly fe fydd hynny'n gymharol syml. Ond mae yna wasanaethau bws eraill sy'n mynd i mewn ac allan o Gasnewydd, yn enwedig y gwasanaethau bysiau hynny sy'n gwasanaethu cymunedau'r Cymoedd—nid ydyn nhw i gyd dan reolaeth uniongyrchol awdurdodau lleol. Felly, tybed: a yw'r Dirprwy Weinidog yn teimlo y gallai fod angen i'r Llywodraeth nesaf fynd yn ôl at y ddeddfwriaeth bysiau, ac efallai y bydd angen iddi fynd â'r ddeddfwriaeth bysiau honno ymhellach efallai nag a gynlluniwyd yn y drafft yr oeddem ni'n ei ystyried cyn i COVID daro, ar gyfer sicrhau fod yna ddigon o bwerau ar gael?
Ac fe soniodd y Dirprwy Weinidog am lywodraethu mewn ymateb i Russell George, ac yn wir fe soniodd am hynny yn y datganiad ei hunan. A yw ef wedi ystyried beth fydd swyddogaeth Llywodraeth y DU gyda'r mecanweithiau llywodraethu hynny, wrth iddo ddechrau cyflwyno'r prosiectau seilwaith mwy o gwmpas y rheilffyrdd? Oherwydd mae'n ymddangos i mi ei bod yn bwysig iawn fod yna ryw fecanwaith i allu monitro'r cytundebau hynny, pan fydd y cytundebau wedi eu gwneud. Ac a yw ef yn gweld hynny'n dod o fewn cylch gwaith yr uned y mae ef yn sôn amdani yn ogystal â'r cadeirydd annibynnol?
Ac yn olaf, a wnaiff ef roi ryw syniad i ni'r prynhawn yma o ba bryd y bydd pobl yn ardal Casnewydd yn dechrau gweld rhai o'r newidiadau hyn, yn ei farn ef? Rwy'n llawer llai amheus na Russell George i bob golwg, ac rwy'n credu bod y bwriadau hyn yn rhai cadarn, ac mae gennym ni dystiolaeth dda gan gomisiwn Burns o'r rhesymau pam y dylid cyflwyno'r newidiadau hyn. Ond fe wn i fod y Dirprwy Weinidog yn deall rhwystredigaethau'r bobl sy'n cael eu heffeithio'n fwyaf uniongyrchol, ac yn wir y cymunedau cyfagos y mae'r sgil-effeithiau yn effeithio arnyn nhw. Felly, a all ef roi rhyw syniad inni pryd y mae'n credu y bydd pobl yn dechrau teimlo rhai newidiadau ar lawr gwlad o ganlyniad i'r gwaith hwn, gan ddeall, wrth gwrs, y bydd y gwaith seilwaith mwy yn cymryd rhagor o amser?