Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 19 Ionawr 2021.
Iawn. Mae'r rheoleiddiwr yn allweddol i'r diwygiad mawr sydd ei angen. Tynnodd adroddiad Hackitt sylw at y ffaith bod y drefn reoleiddio bresennol yn ddiffygiol, felly beth am fod yn feiddgar ac ymchwilio i'r dewis o un rheoleiddiwr cenedlaethol?
Croesawaf yr ymgynghoriad hwn, Gweinidog, a gobeithiaf y bydd cynnydd cyflym a phendant i gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd nesaf, pa un ai chi neu ein plaid ni fydd mewn grym. Diolch yn fawr.