– Senedd Cymru am 4:12 pm ar 19 Ionawr 2021.
Mae eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o siarad â'r Aelodau heddiw am lansio ein Papur Gwyn, sy'n cynnig cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd i Gymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, lansiwyd y Papur Gwyn yr wythnos diwethaf ochr yn ochr â datganiad ysgrifenedig, ond teimlwn hefyd ei bod hi'n bwysig eich annerch chi'n uniongyrchol a rhoi cyfle ar gyfer sylwadau a chwestiynau ar y maes pwysig hwn.
Gwn fod hwn yn fater o bwys mawr i'r Aelodau, fel y dengys y cwestiynau a'r dadleuon niferus a heriol a gawsom ni ar y pwnc hwn eisoes yn y fan yma. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno y dylai'r pwnc hwn fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth. Er mwyn inni gyflawni'r weledigaeth hon yn llwyddiannus yn gyflym, credaf yn wirioneddol fod yn rhaid i hon fod yn weledigaeth gyffredin sy'n croesi llinellau gwleidyddol pleidiol. Rwyf hefyd yn falch o gynnig sesiwn friffio dechnegol gan fy swyddogion i'r holl Aelodau gan fod hwn yn faes technegol a chymhleth ac rwyf eisiau sicrhau bod ein cynigion yn glir ac yn cael eu deall yn iawn.
Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig, mae'r newidiadau a nodwyd gennym ni yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen yn ein cynlluniau i wella diogelwch adeiladau. Mae cwmpas y gyfundrefn yn helaeth. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau sicrhau mai diogelwch yw'r brif ystyriaeth ar bob cam o gylch oes adeilad a bod yr holl adeiladau sydd â sawl preswylydd yn dod o dan y mesurau newydd y mae ein cyfundrefn yn bwriadu eu rhoi ar waith. Mae'r mesurau diogelwch y bwriadwn eu cyflwyno yn eang eu cwmpas, ond maen nhw hefyd yn gymesur, a chredwn eu bod wedi'u teilwra'n briodol i'r gwahanol gategorïau adeiladu a fydd yn dod o fewn y cwmpas.
Yn hollbwysig, rhaid i'r newidiadau hyn weithio i breswylwyr. Gan mai nhw yw y rhai a fydd yn elwa ar y diwygiadau hyn yn y pen draw, rwyf yn arbennig o awyddus i glywed eu barn. Rwyf wedi cyfarfod ac wedi gohebu â llawer o drigolion ar y materion sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd diffygion yn yr adeiladau presennol, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn ceisio eu barn ar newidiadau ar gyfer y dyfodol; mae profiad personol trigolion yn hanfodol i'n helpu i ddod o hyd i'r atebion cywir. Er mwyn helpu i sicrhau bod cymaint o breswylwyr â phosib yn ymateb i'n hymgynghoriad, rydym ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau a deunyddiau ategol, megis y fideo yr oeddwn yn gobeithio ei chwarae, Dirprwy Lywydd, ond nid yw hynny wedi bod yn bosib—byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau serch hynny—a fersiwn gryno a hawdd ei darllen o'r Papur Gwyn. Rwyf eisiau sicrhau bod pawb sydd â diddordeb neu y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnyn nhw yn gallu eu gweld a'u deall, a rhannu eu barn â ni.
Ailadroddaf fy nymuniad hefyd i weld cymaint â phosib o'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws y diwydiant a'r sector tai yn ymateb i'n hymgynghoriad. Bydd swyddogion yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ac yn siarad â phawb sydd â diddordeb am ein cynigion drwy gydol y cyfnod ymgynghori i'n helpu i gael cynifer o ymatebion â phosib. Rwy'n sylweddoli ei fod yn gyfnod prysur iawn i lawer, wrth i ni barhau i chwilio am ffordd drwy'r heriau a gyflwynir gan COVID-19, ond rhaid inni beidio â cholli golwg ar ein nodau hirdymor. Os yw'r rhain i gael eu gwireddu, mae gofyn i ni weithredu a'u hystyried nawr. Er bod cyhoeddi'r Papur Gwyn hwn yn garreg filltir bwysig, mae llawer mwy o waith i'w wneud ac mae angen cefnogaeth a mewnwelediad ein holl bleidiau arnom ni i'n helpu i ddod i'r ateb cywir ar gyfer Cymru a sicrhau bod ein cartrefi'n ddiogel. Diolch.
Hoffwn ddweud ar goedd ein bod ni, mewn egwyddor, yn cefnogi'n fawr y gwaith o gyflwyno Bil a fydd mewn gwirionedd yn sicrhau y gall ein trigolion deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac na fyddwn ni byth, byth yn dyst i ddim byd eto fel trychineb Grenfell. Fel y mae'r Fonesig Judith Hackitt wedi'i gwneud yn glir, mae angen ailfeddwl yn radical am y system gyfan a sut mae'n gweithio. Mae hi wedi disgrifio'r sefyllfa hon fel:
ras i'r gwaelod a achoswyd naill ai drwy anwybodaeth, difaterwch neu am nad yw'r system yn hwyluso arfer da.
Nawr, mae angen i'r Senedd hon yng Nghymru ddarparu adeiladau diogel o'r ansawdd gorau posib er mwyn i'n trigolion deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi. Rwy'n sylweddoli nad yw hon yn dasg hawdd, fel y mae'r ddogfen ymgynghori gynhwysfawr yn dangos, ond diolchaf i'r Gweinidog am greu Papur Gwyn sy'n amlinellu ffordd ymlaen i Gymru. Er hynny daw'r Papur Gwyn 32 mis ar ôl adroddiad terfynol y Fonesig Hackitt, a thros dair blynedd a hanner ers trychineb Grenfell, sy'n rhwystredig iawn.
Yn y Papur Gwyn, Gweinidog, rydych chi wedi cynnig sefydlu tîm arolygu ar y cyd am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. Yn realistig, yn eich barn chi, faint o amser y dylai hi gymryd i sefydlu cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd i Gymru?
Mae llawer o bwyntiau yr wyf yn eu croesawu yn y cynigion, a dywedaf nawr, pan ddeuwn i graffu ar y Bil, mae'r hyn sy'n cael ei gyflwyno'n ddarn mor bwysig o ddeddfwriaeth fel bod yn rhaid i bob un ohonom ni weithio ar draws y pleidiau i sicrhau bod y Bil yn gwneud yn union yr hyn yr ydym ni i gyd yn gobeithio y bydd yn ei wneud.
Felly, croesawaf rai o'r cynigion, gan gynnwys dyletswydd gyffredinol newydd i gynnal adrannau mewn adeiladau; y nod o ddarparu eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch mewn adeiladau preswyl sydd â sawl preswylydd, nid yn unig yn ystod eu hadeiladu ond drwy gydol y cylch oes—rwy'n credu, yn rhy aml, yr ydym i gyd wedi bod yn ymwybodol o bawb yn ceisio gwadu cyfrifoldeb pan ddaw'n fater o ganfod pwy yw'r person cyfrifol, ac mae'n rhaid i hynny ddod i ben; gwneud awdurdodau tân ac achub yn gyrff ymgynghori penodol a chael un broses ar gyfer uwchgyfeirio pryderon at y rheoleiddiwr.
Byddai cwmpas y gyfundrefn arfaethedig yn cynnwys popeth o dŷ a drowyd yn ddwy fflat i floc fflatiau uchel. Rydych yn ystyried dau gategori; gallai categori 2 gwmpasu 37,000 eiddo a thua 130,000 o fflatiau. A yw'n rhesymol cael tŷ sy'n cael ei droi'n ddwy fflat yn yr un categori â bloc o fflatiau pwrpasol pum llawr?
Nawr, dylid ystyried rhannu categori 2 yn ddau. Er fy mod yn ymwybodol y gallech gyflwyno deddfwriaeth mewn ffordd a fyddai'n caniatáu diwygio dosbarthiadau categori drwy reoliadau, mae angen i ni wneud hyn yn gywir yn y lle cyntaf fel y bydd disgwyl i bob un, beth bynnag fo nifer y categorïau, gael asesiad risg tân blynyddol gan unigolyn â chymwysterau addas. Dyma'r hyn yr wyf yn poeni amdano, sef y gallai hyn, o bosib, fod yn fan gwan.
Mae eich tîm eisoes wedi dweud wrthyf nad oes amcangyfrifon eto ynghylch faint o bobl â chymwysterau addas sydd yng Nghymru ar hyn o bryd i asesu tua 37,000 eiddo bob blwyddyn, ac a fyddai'r gofyniad newydd mewn gwirionedd yn amlygu prinder enfawr o'r bobl gymwysedig hyn, ac a allai weld y gost a'r galw am y gwasanaeth yn cynyddu'n sylweddol. Mae angen comisiynu'r ymchwil honno, felly erfyniaf arnoch i wneud hyn yn gyflym a chysylltu â'ch Cabinet felly i ystyried rhoi hwb i hyn drwy addysg a dod â phrentisiaethau i fod yn rhan o hyn. Nawr, yn ôl adran 6 o'r awdurdod lleol, byddent yn darparu'r swyddogaeth rheoli adeiladu ar gyfer pob eiddo categori 1. Nodir, lle mae problemau capasiti mewn un awdurdod, y gallai'r gwasanaeth gael ei ddarparu gan un arall. Felly, a fyddai gan yr awdurdod arall adnoddau ariannol ar gyfer y gwasanaeth? Ac a wnewch chi roi rhagor o fanylion am yr ystyriaeth yr ydych chi eisoes wedi'i rhoi i faterion capasiti presennol mewn awdurdodau lleol? Gwyddom mai rhai o'r adrannau hyn a gafodd ergyd enfawr yn sgil rhai o'r problemau setliadau a gawson nhw o ganlyniad i setliadau lleol gwael, fy un fi wedi'i gynnwys yma.
Nawr, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y tri phorth a nodaf y byddai'r un olaf yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r prif gontractwr gyflwyno datganiad terfynol yn cadarnhau bod yr adeilad yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau adeiladu. Felly, mater i'r awdurdod lleol fyddai penderfynu a ddylid derbyn y datganiad hwnnw, a gwyddom nawr, fel gyda COVID, ein bod ar ei hôl hi gyda chaniatâd cynllunio. Rydym ar ei hôl hi o ran gorfodaeth gynllunio, naill ai oherwydd COVID neu oherwydd ddiffyg adnoddau. Gwyddom—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn. Mae'r rheoleiddiwr yn allweddol i'r diwygiad mawr sydd ei angen. Tynnodd adroddiad Hackitt sylw at y ffaith bod y drefn reoleiddio bresennol yn ddiffygiol, felly beth am fod yn feiddgar ac ymchwilio i'r dewis o un rheoleiddiwr cenedlaethol?
Croesawaf yr ymgynghoriad hwn, Gweinidog, a gobeithiaf y bydd cynnydd cyflym a phendant i gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd nesaf, pa un ai chi neu ein plaid ni fydd mewn grym. Diolch yn fawr.
Wel, diolch am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau, Janet, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu cael cymaint o fanylion o'r briff technegol a gynigiwyd gennym ni i chi. Mewn gwirionedd, mae hynny'n gyfle da i ddangos pa mor werthfawr ydoedd i Aelodau eraill a allai fod eisiau cymryd rhan ynddo hefyd.
Dirprwy Lywydd, nid wyf yn bwriadu mynd drwy'r rhestr o faterion technegol a gododd Janet yn y fan yna, oherwydd nid wyf yn credu mai dyma'r lle i wneud hynny. Maen nhw i gyd yn ddiddorol iawn. Mae nifer o faterion yn codi o'r ymgynghoriad, a holl ddiben yr ymgynghoriad yw mynd at wraidd yr hyn y mae pobl yn ei ystyried fyddai'r canlyniad gorau. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn, Janet, pe baech chi ac eraill yn cyflwyno eich ymatebion. Fe wnaethoch chi grybwyll nifer o faterion.
Mae'r mater o gapasiti'n un diddorol, serch hynny, oherwydd, yn amlwg, mae awdurdodau lleol wedi cael 10 mlynedd o gyni a orfodwyd gan y Torïaid, ac felly maen nhw wedi gorfod cwtogi ar nifer fawr o wasanaethau. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod eu hymateb rhagorol i COVID, ac maen nhw wedi datblygu galluoedd amrywiol iawn er mwyn ei gwneud hi'n bosib rhannu staff a chyd-gymorth ac, wrth gwrs, ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), rydym ni wedi rhoi trefniant rhanbarthol ar waith sy'n eu galluogi i gyflogi staff yn rhanbarthol pan fo staff yn brin, ac mae'n caniatáu i lwybr gyrfa gwahanol ddatblygu. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar faterion capasiti. Ond, yn amlwg, ni ddylai'r rheini ein rhwystro rhag rhoi trefn ragorol ar waith.
Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y byddai unrhyw Lywodraeth ar ôl yr etholiad—a oedd yn cynnwys eich plaid eich hun—eisiau datblygu'r Bil hwn. Hoffwn yn fawr glywed hynny gan bob plaid yn y Senedd, oherwydd mae angen inni anfon neges gadarn i'r diwydiant adeiladu bod hyn ar ei ffordd ac y dylen nhw gymryd eu dyletswydd o ddifrif i weithredu nawr yn hytrach nag ein bod yn cael ein hunain yn y sefyllfa lle maen nhw'n cael caniatâd cynllunio sy'n mynd ymlaen ac ymlaen i'r dyfodol, ac rydym wrthi'n ceisio'r gallu i gyflwyno'r rheoliadau yr eiliad y cânt eu pasio gan y Senedd heb orfod aros tan fydd y broses caniatâd cynllunio yn mynd yn ei blaen ac ati. Felly, byddwn yn gweithredu ar yr agwedd yna yn benodol.
Ond nid af drwy'r atebion technegol i'r holl gwestiynau a ofynnwyd gennych chi, Dirprwy Lywydd, ond byddwn i'n gofyn i Aelodau sydd â sylwadau manwl fel yna i'w gwneud, i'w hanfon atom ni yn ysgrifenedig cyn gynted â phosib fel y gallwn ni eu hystyried yn yr ymgynghoriad.
Wel, yn gyffredinol mae Plaid Cymru'n croesawu'r Papur Gwyn hwn. Ein dealltwriaeth ni yw bydd e'n weithredol ar gyfer adeiladau newydd yn unig a ddim yn ôl-weithredol ar gyfer hen adeiladau. So, allwn ni ei gael e ar y record, plîs, bod y Llywodraeth hefyd eisiau taclo problemau mewn ffordd ôl-weithredol gan fod llawer o bobl yn byw mewn fflatiau sydd ddim yn ddiogel? A dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn teimlo'r un peth am hyn, ac mae'r bobl hynny yn methu gwerthu y fflatiau yna oherwydd methiannau gwarthus yn y system gynllunio dros y degawdau diwethaf. Rŷn ni'n gorfod gorfodi datblygwyr i gymryd cyfrifoldeb. A dwi'n gwybod, eto, bod y Gweinidog yn cytuno â hwnna. Buaswn i'n hoffi clywed beth mae'r Llywodraeth yn gobeithio gwneud yn ôl-weithredol.
Wnewch chi roi mwy o fanylion am sut dŷch chi'n gwneud ychydig mwy o bethau, plîs? Yn fwy penodol, roeddwn i eisiau gofyn cwestiynau ynghylch y person atebol. Beth fydd yn digwydd pan fo'r person atebol yn codi pryderon ond eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu? Mae'r mesurau i warchod whistleblowers yn annigonol, ac, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y bobl ddim eisiau rhoi eu swydd dan fygythiad. Beth fydd yn digwydd pan fo'r person atebol yn gadael y rôl? A fydd y person atebol newydd yn gyfrifol am benderfyniadau oedd yn cael eu cymryd cyn iddyn nhw gymryd y rôl ymlaen?
Gan symud, yn olaf, at y gofynion o ran ymgysylltu a datrys cwynion, mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd gan y rheoleiddiwr rôl pan nad oes modd datrys problemau. Allech chi fod yn fwy penodol, plîs, ac amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu adfer hyder yn y cyrff swyddogol sydd yn caniatáu i nifer o sefyllfaoedd annerbyniol ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf? Maen nhw wedi dros y blynyddoedd diwethaf. Wedi'r cwbl, fe gafodd trigolion Grenfell eu hanwybyddu am flynyddoedd ac fe gafodd eu cwynion nhw eu trin mewn modd rhagfarnllyd. Felly, pa gamau gall y Llywodraeth eu cymryd i wneud yn siŵr bod pethau fel yna ddim yn digwydd? Diolch.
Diolch, Delyth, am y sylwadau yna, ac rwy'n gwybod y cawsoch chi'r cyfle i gael y briff technegol hefyd. Gwn y bydd y pwyllgor yn clywed y briff hefyd, ond rwy'n argymell bod Aelodau eraill yn cael y briff technegol, oherwydd mae hwn yn faes hynod o gymhleth ac, fel y dywedwch yn gywir, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud pethau'n iawn a'i fod yn gweithio i—ei fod yn diogelu dyfodol y diwydiant adeiladu cyfan. Mae'n gwbl gywilyddus ein ni bod ni wedi hyd yn oed cyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd am amrywiaeth o resymau hanesyddol nad wyf yn credu eu bod yn destun balchder i neb.
Dim ond i ddweud bod dau Fil ar waith yma—dyna'r Bil y byddwn yn ei gyflwyno drwy'r Senedd ar gyfer materion sy'n ymwneud â chyfundrefn arbennig yng Nghymru, ond rydym ni hefyd wedi gweithio gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU gyda'u Bil diogelwch adeiladu i ddatblygu rhai mesurau cyn gynted â phosib, oherwydd ni fyddai wedi bod yn bosib fel arall i ni ddeddfu yn yr amser a oedd ar gael. Felly, yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei wneud yw, yn amlwg, cael y gorau o'r ddau fyd. Felly, bydd gennym ni system sy'n gweddu'n arbennig i strwythurau Cymru mewn llywodraeth leol a meysydd eraill, ond byddwn hefyd yn manteisio ar Fil y DU ar ddiogelwch adeiladu, a bydd hynny'n ein helpu gyda'r diwydiant. Yn amlwg, mae gennym ni nifer fawr o adeiladwyr yn arbennig sy'n gweithredu, a datblygwyr sy'n gweithredu, ledled y DU ac mewn gwirionedd, ar draws gogledd Ewrop. Felly, mae hynny'n ddefnyddiol iawn.
Bydd cam meddiannu'r cynigion yr ydym ni'n eu cyflwyno wrth gwrs yn berthnasol i bob adeilad yng Nghymru, ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Felly, byddant yn berthnasol i adeiladau sy'n bodoli eisoes yn ogystal ag adeiladau newydd. Felly, bydd holl ddyletswyddau pwy bynnag sy'n gyfrifol am sicrhau diogelwch tân ac ati yn berthnasol i bob adeilad. Yn amlwg nid yw'r cam cynllunio, adeiladu a datblygu yn berthnasol yn ôl-weithredol. Nid yw'r ddadl hon heddiw'n ymwneud â'r mesurau yr ydym ni eisiau eu gweithredu ar gyfer adeiladau sy'n bodoli eisoes. Mae ystod eang o faterion yn berthnasol yn hynny o beth, ac rydym yn sgwrsio â Llywodraeth y DU, yswirwyr ac adeiladwyr a datblygwyr ac ati, ac rydym ni hefyd yn cael cyngor cyfreithiol arbenigol ar yr hyn sy'n bosib i helpu'r trigolion niferus iawn. Mae rhywun yn cydymdeimlo’n fawr â'r sefyllfa y mae pobl ynddi. Felly, mae'n faes hynod o gymhleth i weithio drwyddo. Felly, rydym yn y broses o wneud hynny hefyd.
Yr hyn y mae'r Papur Gwyn hwn yn ei gynnig yw cyfundrefn drylwyr na fydd byth yn caniatáu i hyn ddigwydd eto, er mwyn bod yn gwbl sicr bod yr hyn a adeiladwn ni ar gyfer y dyfodol yn addas i'r diben a bod ganddo gyfundrefn drylwyr sy'n dwyn y bobl briodol i gyfrif. A bydd yn manteisio ar lawer iawn o dechnoleg newydd hefyd. Felly, ni fyddem yn cael hapwiriadau mwyach a byddai cynllunio integredig ac ati. Bydd yn rhaid i ni weithio'n galed iawn gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod gennym yr orfodaeth ddigonol a'r trefniadau yswiriant cywir ar waith a bod gennym ni'r gwarantau gwasanaeth cyhoeddus cywir sy'n cefnogi'r holl bethau yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw, Delyth, o ran pobl atebol ac ati. Felly, mae llawer iawn o waith i'w wneud.
Mae'r Papur Gwyn ar gael i sicrhau, yn benodol, fel y dywedais yn fy natganiad, ein bod yn ystyried profiad personol trigolion yn y system newydd fel ein bod yn deall eu safbwyntiau ac yn sicrhau y caiff y problemau y maen nhw wedi'u profi eu cynnwys yn y system newydd. Ond rwy'n falch iawn o glywed gennych chi, fel y gwyddwn y byddwn i, fod eich plaid chithau hefyd yn benderfynol o sicrhau y caiff y drefn hon ei rhoi gweithredu cyn gynted â phosib yng Nghymru.
Efallai fy mod wedi fy nhawelu. Na. Mae'n ddrwg gennyf. Diolch—cymerodd ychydig mwy o amser i ddad-dawelu nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl.
Cytunaf â'r Gweinidog y dylai'r pwnc hwn fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth; mae yn flaenoriaeth ar gyfer llawer iawn o'm hetholwyr sy'n byw i lawr yn SA1. Er mwyn inni gyflawni'r weledigaeth yn llwyddiannus ac ar fyrder, credaf hefyd fod angen gweledigaeth gyffredin sy'n croesi llinellau gwleidyddol pleidiol. Rwy'n falch iawn o glywed y sylwadau a gawsoch chi gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru heddiw. Rwy'n cytuno bod y newidiadau a nodwyd yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen mewn cynlluniau i wella diogelwch adeiladau; mae cwmpas y gyfundrefn yn helaeth. Credaf hefyd fod yn rhaid i'r newidiadau hyn weithio i breswylwyr. A gaf i droi at yr hyn sy'n digwydd nawr? Mae gennyf etholwyr yng Nghei'r De ac Altamar yn SA1 sy'n wynebu costau sylweddol. Gan ddyfynnu etholwr, 'Rydym yn berchnogion yng Nghei'r De. Rydym wedi derbyn llythyr sy'n awgrymu bod pob un o'r perchnogion yn debygol o wynebu bil o ddegau o filoedd o bunnau i roi rhywbeth yn lle'r cladin ar y tŵr. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn golygu, i lawer, y byddant yn colli gwerth eu heiddo i lawr i ffracsiwn o'i werth blaenorol, gyda'r holl ganlyniadau cysylltiedig.' A dywedant, 'Gadewch i mi gael y newyddion diweddaraf wrth i ddatblygiadau ddigwydd, yn enwedig o ran ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru', yn ôl eu deall nhw, 'i dalu am gostau ail-orchuddio.' Mae hyn yn rhywbeth sy'n achosi llawer iawn o bryder, ac mae'n achosi nosweithiau di-gwsg i bobl sy'n byw yn y datblygiadau hyn. Diolch.
Ie, yn hollol, Mike. Fel y dywedais, rydych chi'n cydymdeimlo â'r bobl sy'n teimlo'n gaeth yn sgil cyfundrefn nad yw wedi bod yn addas i'r diben. Holl ddiben y drefn newydd hon yw tynnu llinell derfyn a'i gwneud hi'n llawer haws i ddatblygwyr ac adeiladwyr wneud pethau'n iawn y tro cyntaf ac yn llawer anoddach gwneud pethau'n anghywir. Felly, wyddoch chi, mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Ac yna mae system orfodi gyfan a chyfrifoldeb terfynol am wahanol bethau, nad yw'n glir o gwbl yn y drefn bresennol. Byddwch yn ymwybodol bod gan fy etholaeth i hefyd nifer fawr o adeiladau sy'n dioddef o'r un trafferthion, ac mae nifer fawr o bobl—Aelodau'r Senedd—wedi ysgrifennu ataf am etholwyr yn eu hardaloedd eu hunain sydd â phob math o broblemau gyda hynny. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn yn wir i geisio gweithio ein ffordd drwy'r materion cyfreithiol gwirioneddol gymhleth sy'n codi ynghylch hawliau cytundebol, yswiriant, honiadau croes ynghylch pwy sy'n gyfrifol am hyn a'r llall ac ati. Ac mae cymhlethdodau lu o ran cwmnïau sydd wedi mynd yn fethdalwyr neu o ran cymalau yswiriant ac ati y byddaf yn hapus iawn eu trafod gyda'ch trigolion.
Yr hyn y bu'n rhaid ei wneud oedd cyfarfod â grwpiau o breswylwyr mewn blociau penodol, oherwydd mae gan bob bloc gyfres unigryw o anawsterau cyfreithiol, oherwydd maen nhw i gyd wedi'u strwythuro ychydig yn wahanol ac ati. Felly, mae hyd yn oed yn anodd creu cynllun cyffredinol sy'n addas i bawb ar eu cyfer. Ond rydym yn hapus iawn i wneud hynny, Mike. Felly, os hoffech chi fy ngwahodd i gyfarfod â'r trigolion, yna gallaf yn sicr geisio datrys eu problemau presennol, ond, yn amlwg, yr hyn sydd o'n blaenau heddiw yw sicrhau nad yw'r problemau hynny'n codi yn y dyfodol.
Gweinidog, rwyf hefyd eisiau siarad ar ran y lesddeiliaid. Roedden nhw'n gweithredu diwydrwydd dyladwy, ac, oherwydd methiant trychinebus rheoliadau adeiladau, arolygu ac, mae'n rhaid dweud, ansawdd yr adeiladu, maen nhw bellach mewn eiddo diffygiol. Mae llawer ohonyn nhw'n ifanc, maen nhw eisiau dechrau teulu, ni allan nhw symud, ac maen nhw mewn eiddo sy'n anaddas i fagu plant. Nawr, dim ond un ffordd allan o'r llanastr trychinebus hwn sydd, a hynny yw i'r Llywodraeth arwain—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru—gyda'r datblygwyr a'r adeiladwyr a'r lesddeiliaid, gan gydweithio. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio, bron, ers Grenfell—mae angen ateb arnom ni. Rhaid i'n Llywodraeth arwain, rhaid iddi ddarparu adnoddau. Mae wedi darparu peth arian i gael gwared ar gladin, ond nid dyna'r holl broblem o bell ffordd, ac mae ganddi'r pŵer i ddod â'r adeiladwyr a'r datblygwyr cyfeiliornus hynny i gyfrif—y rhai sy'n dal mewn busnes, hynny yw. Ni ddylem fod yn rhoi'r cyfrifoldeb ar lesddeiliaid, fel yr ydym ni ar hyn o bryd, i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmnïau a allai fod yn fethdalwyr, neu sy'n amhosibl eu holrhain oherwydd y cwmnïau cregyn y maen nhw'n eu defnyddio i guddio eu harferion gwael. Mae'r lesddeiliaid hyn angen camau gweithredu nawr—cyfarfyddwch â Llywodraeth y DU a sonwich am ein pryderon.
Diolch yn fawr iawn, David Melding. Gwyddoch fy mod yn rhannu eich pryder a'ch dicter ar ran eich etholwyr. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried nifer o fesurau yn y Bil diogelwch adeiladau, yn enwedig ymestyn y cyfnod rhwymedigaeth gytundebol ar gyfer datblygwyr ac isgontractwyr, sy'n achosi cymaint o broblem gyfreithiol i bobl yn yr adeiladau hyn lle mae eu cyfnod cytundebol wedi dod i ben, ac mae hynny'n broblem gyffredin iawn, ac yn un enghraifft yn unig. Cytunaf â chi fod Llywodraeth y DU—wel, mewn gwirionedd, barn bersonol yw hyn, ond fy marn i yw mai'r unig beth i'w wneud yw rhoi treth annisgwyl ar y datblygwyr i wneud y gronfa'n ddigon mawr i dalu am yr holl broblemau, oherwydd nid yw'r arian presennol sydd ar gael yn ddigonol o bell ffordd.
Hefyd, rydych wedi nodi'r broblem fod cael gwared ar y cladin dim ond yn amlygu'r problemau eraill sydd gan y rhan fwyaf o'r adeiladau, ac felly rydym ni wrthi'n archwilio gyda'r gronfa i Gymru yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau y bydd yr ystod o broblemau adeiladau'n cael eu datrys, y rhannu i adrannau yw'r un mwyaf ohonyn nhw, ac, wrth gwrs, y ffordd y caiff y cladin ei ddal ar yr adeilad. Rydym wedi ariannu'r gwaith o ddileu a disodli'r holl gladin a systemau yn y tai rhent cymdeithasol yma, ac rydym yn chwilio am ffordd o wneud hynny yng nghanol cymhlethdodau megis pwy sy'n gyfrifol am beth yn yr adeiladau y gwyddom yr effeithir arnyn nhw yng Nghymru. Ond rydym ni, gallwch fod yn dawel eich meddwl, wedi lobïo Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd wedi gofyn i nifer o Aelodau Seneddol Cymru wneud yr un peth, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai Aelodau'r Senedd yn gwneud hynny hefyd, wrth i Fil diogelwch adeiladau'r DU fynd ar ei hynt drwy'r Senedd.
Gadewch imi ddatgan buddiant yn gyntaf, gan fy mod yn byw, ar adegau arferol, yn un o'r blociau sy'n destun yr adolygiad o ddiogelwch adeiladau yng Nghaerdydd. Gweinidog, croesawaf newyddion am y Papur Gwyn heddiw, tua thair blynedd a hanner ar ôl y golygfeydd ofnadwy hynny yn Llundain. Sylwaf fod nifer yr anheddau o'r fath yng Nghymru yn llawer llai. Fodd bynnag, dylid rhoi'r un amddiffyniad i holl drigolion y blociau hyn, ble bynnag y bônt. Felly, croesawaf eich bwriad datganedig i gyd-fynd â deddfwriaeth a bwriadau'r DU pan fo'n briodol gwneud hynny.
Gwelaf fod llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran unioni rhai o'r materion sy'n weddill gydag adeiladau sy'n bodoli eisoes a bod cynlluniau ar waith i rai, er budd trigolion sy'n teimlo nad ydyn nhw'n gwbl saff a diogel. Pryd ydych chi'n rhagweld y bydd yr holl waith perthnasol yn cael ei gwblhau? Rwyf hefyd yn ymwybodol o breswylwyr mewn blociau lle yr ymdriniwyd â materion, ond lle mae tystysgrifau diogelwch tân yn ddiffygiol mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu nad oes modd diogelu eu heiddo, ac maen nhw'n gaeth, yn llythrennol heb unrhyw ffordd o symud ymlaen gyda'u bywydau na'u cynlluniau. Felly, sut yr ymdrinnir â hyn?
O ystyried yr amser sydd ar ôl i ni yn nhymor y Senedd, mae'n iawn ei bod hi'n dal yn ofynnol i Lywodraeth nesaf Cymru roi mesurau ar waith i sicrhau bod pob adeilad yn ddiogel i'w breswylwyr, felly edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn hwn ac ymgorffori arferion diogelwch adeiladau y gallwn ymfalchïo ynddyn nhw wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch, Mandy Jones. Mae'r materion yn gymhleth iawn, ac, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau blaenorol, rydych chi yn cydymdeimlo'n llwyr â phobl sydd wedi'u dal yn gaeth, yn arbennig, gyda phrydlesi na allant eu gwerthu na'u hailforgeisio na dim byd arall. Ond y cymhlethdod yw nad lesddeiliaid bach yn unig sy'n berchen ar brydlesi yn yr adeilad hwn. Yn anffodus, mae cwmnïau eiddo hefyd yn prynu'r prydlesau am bris rhad yn y gobaith y bydd y Llywodraeth yn pennu'r ecwiti. Felly, bydd drysni ac anialwch o'n blaenau o ran pwy sy'n gallu hawlio am beth yn y maes hwn. Holl ddiben y Papur Gwyn o'n blaenau yw ei gwneud hi'n berffaith glir yn y dyfodol pwy sy'n gyfrifol am hynny, ac, fel y dywedais mewn ymateb i Mike Hedges, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i chi edrych ar bob adeilad unigol i geisio canfod pwy sy'n gyfrifol, ac nid yw hynny'n ddigon da. Felly, mae'r Papur Gwyn hwn yn cynnig cyfundrefn sy'n gwneud y cyfrifoldeb hwnnw'n berffaith glir; bydd yn ei gwneud hi'n berffaith glir pwy sy'n gyfrifol am sicrhau hynny. Fel y dywedais, bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf ac yn llawer anoddach gwneud pethau'n anghywir, a bydd yn egluro'r holl bethau hynny. Ac, a dweud y gwir, bydd yn codi adeiladau sy'n addas i bobl fyw ynddyn nhw a buddsoddi yn hirdymor ynddyn nhw, sef yr hyn y mae ar ein model tai ei angen.
O ran y sector cymdeithasol, rydym ni wedi sicrhau bod £10.5 miliwn ar gael eto ar gyfer gwaith adfer yn y sector cymdeithasol, lle mae gennym ni dai rhent cymdeithasol. Gallwn wneud hynny drwy strwythurau sy'n bodoli eisoes yn ein strwythur grantiau. Nid yw hynny'n bosib yn y sector preifat, felly rydym yn ceisio rhoi cronfa ar waith a fyddai'n cynorthwyo pobl. Ond, fel y dywedais, mae'n gymhleth iawn deall sut i strwythuro'r gronfa honno fel y gall y bobl briodol hawlio ac nad ydym yn gwobrwyo buddsoddiadau hapfasnachwyr, er enghraifft. Dim ond un enghraifft yw honno, serch hynny, ac nid yw hynny'n tynnu oddi ar y ffaith fy mod yn deall yn llwyr drafferthion y lesddeiliaid unigol a faint o arian y gofynnir iddyn nhw ei dalu bob dydd.
Diolch. Ac yn olaf, John Griffiths.
A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, croesawaf yn fawr ddatganiad y Gweinidog heddiw, ynghyd â chyhoeddi'r Papur Gwyn yr wythnos diwethaf. Mae'r pwyllgor wedi cymryd diddordeb mawr ym mhob mater sy'n ymwneud â diogelwch tân ers y digwyddiadau erchyll a thrasig hynny yn Grenfell yn 2017, ac yn arbennig rydym ni wedi bod yn pwyso am gyflwyno'r newid deddfwriaethol angenrheidiol yn gyflym, gan gydnabod hefyd gymhlethdod y materion a'r angen am ddull mwy cydlynol sy'n ystyried y system gyfan. Mae cyhoeddi'r Papur Gwyn hwn, yn fy marn i, yn gam pwysig iawn yn y gwaith parhaus hwn a fydd yn gwella diogelwch adeiladau ledled Cymru. Ac, fel pwyllgor, byddwn yn ystyried y Papur Gwyn yn fanylach yn ystod yr wythnosau nesaf ac, yn rhan o hynny, yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys ymgysylltu â dinasyddion fel y gall y rhai y mae'r sefyllfa sydd ohoni yn effeithio arnyn nhw—trigolion a lesddeiliaid—roi eu barn inni'n uniongyrchol. Byddwn ni, y pwyllgor, wedyn yn ymateb yn ffurfiol i'r Papur Gwyn. A gaf i ddweud hefyd fy mod yn croesawu ffordd hirben Llywodraeth Cymru o fynd ynghylch hyn, megis defnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU, fel y gallwn ni, gobeithio, wneud rhywfaint o gynnydd buan o ran y materion hyn?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol ein bod ni'r pwyllgor wedi codi materion yn ymwneud â chost gwaith adfer ac, yn amlwg, fel eraill, rydym ni'n pryderu'n fawr am y straen a'r ansicrwydd anhygoel sydd ar hyn o bryd ar lesddeiliaid, ac mae angen mynd i'r afael â hynny ar frys, fel y clywsom ni. Dydw i ddim yn gwybod a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud, Gweinidog, o ran eich trafodaethau gyda datblygwyr a sut y maen nhw'n symud ymlaen a pha mor agos ydym ni at ryw fath o gynnydd o ran datblygwyr, er ein bod ni wedi clywed am ffyrdd posib eraill o fynd i'r afael â'r materion hyn.
Rydym ni hefyd wedi clywed materion yn ymwneud â rheoli adeiladu ar lefel awdurdod lleol ac, unwaith eto, roeddem yn pryderu'n fawr am lefel y toriadau i wasanaethau rheoleiddio dros nifer o flynyddoedd a'r effaith a gafodd hynny ar awdurdodau lleol. Tybed a oes unrhyw beth arall y gallech ei ddweud heddiw, Gweinidog, o ran astudiaeth gynhwysfawr efallai ar adnoddau a chapasiti a sut y gellid bwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n falch iawn—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd. Iawn, mae'r pwyllgor felly yn edrych ymlaen yn fawr at edrych ar y Papur Gwyn yn fanylach dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn croesawu ei gyhoeddi'n fawr iawn. Diolch yn fawr.
Diolch, John Griffiths. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith y pwyllgor, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi. Rwy'n credu y bydd gennych chi sesiwn friffio dechnegol ar 28 Ionawr. Byddai'n ddefnyddiol iawn i chi gynorthwyo preswylwyr i sôn am eu profiad personol eu hunain ac yna dod â'r cwbl at ei gilydd mewn adroddiad i ni, a byddwn yn edrych ymlaen yn fawr at ei dderbyn gennych.
Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod profiad personol pobl o'r anawsterau yn cael ei ystyried wrth ddylunio'r drefn newydd. Byddwn hefyd yn gweithio, fel y dywedais wrth ateb Aelodau blaenorol, gydag awdurdodau lleol i edrych ar y materion staffio ac agweddau eraill sydd ganddyn nhw o ran gallu a chapasiti. Rydym ni, wrth gwrs, yn rhan o'n hadferiad o COVID-19, mewn gwirionedd, yn trafod gyda'r awdurdodau lleol ynghylch cael ton newydd o brentisiaid sector cyhoeddus awdurdodau lleol ym mhob un o'r proffesiynau sydd gan awdurdodau lleol. Felly, rydym ni eisoes yn dechrau ystyried ailhyfforddi ar gyfer nifer fawr o'r proffesiynau y gwyddom eu bod bellach yn brin ar ôl 10 mlynedd o gyni'r Torïaid, yn enwedig swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd bellach wedi profi eu gwerth gymaint yn ystod COVID-19 a oedd o'r blaen yn cael eu hystyried yn staff cefn swyddfa nad oeddent yn cael eu hystyried yn weithwyr rheng flaen. Mae'n dangos i chi nad yw'r math hwnnw o ddisgrifiad difrïol o staff byth yn un y dylech fod yn gyfforddus yn ei gylch. A dyma un arall: mae swyddogion rheoli adeiladu bellach yn gwbl hanfodol yn y frwydr i sicrhau bod ein hadeiladau wedi'u hadeiladu'n gywir. Felly, byddaf yn croesawu gweithio gyda'r pwyllgor, John, ac edrychaf ymlaen yn fawr at hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.