Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 19 Ionawr 2021.
Hoffwn innau ddymuno'n dda iawn i Meilyr Rowlands ar ei ymddeoliad a diolch am bob cydweithrediad dros y blynyddoedd diweddar. Mae Meilyr wedi bod yn llais cryf dros ysgolion cymunedol, ac mae gan y weledigaeth honno le pwysig, dwi'n credu, wrth i ni adlewyrchu ar yr hyn sydd angen newid yn y blynyddoedd a ddaw.
O'r arolygiadau y llwyddodd Estyn i'w cynnal—tua 60 y cant o'r hyn a gynlluniwyd—rydym ni'n gweld darlun tebyg i flynyddoedd blaenorol. Mae'r safonau yn rhagorol neu'n dda mewn tua 80 y cant o ysgolion cynradd, ond dim ond mewn tua hanner o ysgolion uwchradd. O roi hynny ffordd arall, mae yna le i bryderu am 20 y cant o'n hysgolion cynradd, a lle i bryderu am hanner ein hysgolion uwchradd ni, a dwi'n credu roedd Suzy Davies yn iawn i dynnu sylw at y broblem barhaus hon, sydd yn mynd tu hwnt i COVID.
Mae'r arolygydd o'r farn y gallai'r profiadau a'r gwersi sy'n cael eu dysgu wrth ddelio efo'r pandemig helpu i gryfhau addysg yng Nghymru yn y tymor hir. Wel, amser a ddengys ydy hynny, wrth gwrs. Mae'n dibynnu ar lefel y buddsoddiad, byddwn i'n dadlau. Mae'r arolygydd yn pryderu bod sgiliau craidd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd wedi dirywio'n gyffredinol oherwydd y tarfu ar addysg, ac mae o'n sôn bod helpu dysgwyr, yn enwedig y rhai agored i niwed a'r rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddal i fyny yn dasg fawr—ei eiriau o ydy'r rheini—sydd angen ei gwneud yn y dyfodol.
Dwi wedi bod yn galw am i chi a'ch Llywodraeth gyhoeddi cynllun adfer addysg ôl-COVID, a gwneud pob ymdrech i sicrhau arian sylweddol i gefnogi hwnnw. Dwi'n meddwl bod dyletswydd arnoch chi i greu cynllun uchelgeisiol o'r hyn sydd angen ei wneud, ac wedyn gwneud y ddadl am lefel y buddsoddiad sydd ei angen. Fel dwi'n ei ddweud, 'tasg fawr' meddai'r arolygydd, ac mae pob tasg fawr angen buddsoddiad y tu cefn iddi hi. Mae'r £29 miliwn wedi'i ddyrannu gan eich Llywodraeth chi eisoes, ac mae pawb yn falch iawn o hynny, ond tu draw i'r arian hwnnw, beth ydy'ch cynllun buddsoddi er mwyn adfer yn y tymor hir? Ac yn benodol, beth ydy'ch bwriad i fuddsoddi i helpu'r dysgwyr sy'n agored i niwed a'r rhai difreintiedig?
Efo'r mwyafrif o ddisgyblion yn dysgu o gartref, mae dysgu digidol yn ffactor allweddol. Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith bod ymgysylltiad disgyblion efo dysgu o bell yn amrywio gryn dipyn o ryw 95 y cant o ymgysylltu yn yr achosion gorau i gyn lleied ag 20 y cant mewn rhai darparwyr sydd efo'r heriau mwyaf. Felly, hoffwn wybod sut y mae'ch Llywodraeth chi yn mynd i gefnogi'r ysgolion a'r colegau sydd wedi wynebu'r heriau mwyaf—y rhai yn y categori 20 y cant yma. Sut ydych chi'n mynd i'w helpu nhw i symud ymlaen o ran y diffyg ymgysylltu sydd wedi bod efo disgyblion?
Y pwynt olaf y buaswn i'n hoffi ei wneud ydy bod Estyn wedi canfod bod bron pob ysgol wedi darparu cefnogaeth i staff ac mae'r arweinwyr yn pryderu'n fawr am les eu staff o ran cynaliadwyedd y trefniadau cyfredol a'r effaith hirdymor. Mae yna sawl ffactor, wrth gwrs, wedi effeithio'n andwyol ar les penaethiaid ac uwch arweinwyr, yn ogystal â staff gweddill yr ysgolion, yn cynnwys ymateb i ganllawiau sydd yn newid, pryderon am les cydweithwyr a disgyblion, a'r llwyth gwaith ychwanegol sy'n cael ei achosi ar faterion gweithredol, yn aml iawn. Felly, beth ydy'ch cynllun chi ar gyfer delio â'r pwysau sylweddol sy'n wynebu staff yn ein hysgolion ni? Rydych chi wedi sôn am roi grant i Education Support, sy'n elusen lles sy'n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, dwi'n credu, ac maen nhw'n gweithio ar becyn o gymorth i'r gweithlu ysgol yng Nghymru. Faint o grant sydd wedi cael ei roi i'r elusen yma, os gwelwch yn dda, ac oes modd gweld yn union pa fath o gymorth y gallem ni fod yn ei ddisgwyl?
Ac yn olaf, fedrwch chi roi eglurder am beth fydd yn digwydd efo arolygiadau Estyn ar ôl mis Medi? Maen nhw i fod i ailgychwyn ym mis Medi, dwi'n credu, ar ôl hoe oherwydd y cyfnod a oedd i fod wedi'i neilltuo ar gyfer darparu ar gyfer y cwricwlwm. Fydd hi'n deg disgwyl i ysgolion ymdopi efo arolygiadau unwaith eto ar ôl yr haf, o gofio'r holl heriau, a hefyd o gofio'ch awydd chi i yrru ymlaen efo gweithredu'r cwricwlwm newydd—gwaith sydd wedi mynd ar ei hôl hi, mae'n debyg?