7. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 19 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:36, 19 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 wedi'u llunio i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn o'r pandemig. Mae'r rheoliadau'n atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodedig, swyddogion gorfodi'r Uchel Lys neu feilïaid rhag mynd i dŷ annedd at ddibenion gweithredu gwrit neu warant o feddiant, gweithredu gwrit neu warant adferiad, neu gyflwyno hysbysiad o droi allan. Mae'r amgylchiadau penodedig yn cynnwys, er enghraifft, pan wneir yr hawliad yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Daw'r rheoliadau i ben ar 31 Mawrth 2021, ond byddant yn ddarostyngedig i gylch adolygu yn ystod y cyfnod y maen nhw mewn grym i sicrhau bod y cyfyngiadau a'r gofynion yn parhau i fod yn gymesur. Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf yn y cyfnod cyn 28 Ionawr 2021. Yna, rhaid eu hadolygu o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o dair wythnos. Bydd hyn yn galluogi'r adolygiadau i gyd-fynd â'r amser adolygu sydd yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Mae'r rheoliadau, i bob diben, yn barhad o'r amddiffyniadau a roddwyd ar waith gan Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020, a oedd yn atal gorfodi troi allan dros gyfnod y Nadolig ac a ddaethant i ben ar 11 Ionawr. O ystyried y dirywiad yn y pandemig yn yr wythnosau diwethaf a chyflwyno'r rheoliadau lefel rhybudd 4 ar 20 Rhagfyr, credaf ei bod hi'n hanfodol bod tenantiaid, am y tro, yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag y perygl o gael eu troi allan. Mae'r rhai sy'n cael eu troi allan mewn llawer mwy o berygl o gael eu gwneud yn ddigartref ar hyn o bryd. Gall hygyrchedd gwasanaethau, cyngor a chymorth leihau'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig a'r pwysau a roddwyd ar wasanaethau cyhoeddus. Yn yr un modd, mae'r broses o gael gafael ar lety amgen yn debygol o fod yn llawer mwy cyfyngedig. Mae person sy'n ddigartref, wrth gwrs, mewn mwy o berygl o ddal COVID-19 a'i drosglwyddo i eraill. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd ati i osgoi troi allan gan arwain at ddigartrefedd oherwydd y risg y mae hyn yn ei achosi i bobl ddigartref ac iechyd y cyhoedd yn ehangach. Os bydd y sefyllfa'n gwella a bod y cyfyngiadau diogelu iechyd ehangach yn cael eu lleddfu, bydd yr adolygiadau rheolaidd yn ein galluogi i ystyried a yw'r rheoliadau hyn yn parhau i fod yn angenrheidiol. Cymeradwyaf y cynnig i'w gymeradwyo gan Aelodau.