Datganiad gan y Llywydd

– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 20 Ionawr 2021

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau bod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

Dwi hefyd eisiau hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi cael Cydsyniad Brenhinol heddiw.