Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 20 Ionawr 2021.
Bydd y rheini sy'n byw mewn lleoliadau byw â chymorth yn cael y brechlyn yn rhan o'r gyfran gyffredinol gyntaf y gobeithiwn ei chwblhau erbyn canol mis Chwefror. Ond rwy'n derbyn eu bod mewn sefyllfa fregus iawn, ac fel y gŵyr yr Aelod, mae gweithwyr gofal cartref bellach yn cael eu profi hefyd, sy'n eu galluogi i roi cymorth cynyddol. Ond rwy'n deall bod perthnasau’n bryderus iawn am rai o'u hanwyliaid sy'n byw yn y sefyllfaoedd hyn, ac mae llawer ohonynt wedi cysylltu â minnau hefyd. Felly, yn sicr, rydych yn gwneud pwynt dilys, ond rydym yn gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r bobl hynny.