Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 20 Ionawr 2021.
Weinidog, mae gennyf bryderon dybryd ynglŷn â diogelwch pobl sy'n byw â chymorth, yn enwedig oedolion ag anawsterau dysgu. Yn ddealladwy, mae'r pandemig wedi rhoi systemau iechyd a gofal dan straen aruthrol, ond ni allwn esgeuluso'r bobl fwyaf agored i niwed na'u rhoi mewn mwy o berygl. Mae etholwyr wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon am aelodau o'r teulu sy'n wynebu perygl mwy o ddal COVID gan y gweithwyr gofal cartref sy'n dod i mewn i'w cartrefi. Felly, Weinidog, a fydd pobl sy’n byw â chymorth yn cael y brechlyn ar yr un pryd â'r rheini sy'n byw mewn cartrefi gofal, os gwelwch yn dda?