Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch. Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 5 ac 8 gael eu grwpio. Mae'r holl fyrddau iechyd yn paratoi i ehangu capasiti’n sylweddol ym mis Ionawr, pan fydd brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn dechrau cael eu darparu. Mae ein cynlluniau’n dibynnu ar weld Cymru'n derbyn ei chyfran deg o’r brechlyn mewn da bryd. Mae'r cyflenwad y tu hwnt i'n rheolaeth, ond mae Gweinidog brechlynnau'r DU wedi ail-gadarnhau ei sylwadau blaenorol y bydd ei chyfran deg o'r cyflenwad o'r brechlyn yn cael ei darparu i Gymru ar amser.