Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch, Weinidog, ac mae’n braf clywed y sicrwydd hwnnw, gan ein bod, wrth gwrs, wedi clywed gwahanol straeon dros yr ychydig ddyddiau diwethaf am heriau gyda'r cynhyrchiant a'r gadwyn gyflenwi, a dylem ragweld y bydd camgymeriadau bach wrth inni fynd yn ein blaenau; nid yw pethau'n mynd i fod yn berffaith. Yn gyntaf, clywsom am heriau gyda brechlyn Rhydychen-AstraZeneca, gan y bu oedi dros y penwythnos gydag un o’r pedwar swp o’r brechlyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru. Ac yna clywsom wrth gwrs am chwe Gweinidog iechyd yn yr UE yn ysgrifennu at y Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â’u pryderon difrifol ynghylch oedi yn y broses o gyflenwi brechlyn Pfizer-BioNTech. Felly, a allwch ddweud wrth y Senedd p'un a fydd y mathau hyn o heriau a fydd yn digwydd o bryd i'w gilydd gyda'r gadwyn gyflenwi a gweithgynhyrchu yn effeithio ar y gwaith o ddarparu’r brechlynnau yn ddiogel ac yn gyflym yng Nghymru a ledled y DU, neu a all y cynlluniau sydd gennych ar waith liniaru'r problemau hyn gyda chyflenwi a gweithgynhyrchu brechlynnau?