Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 20 Ionawr 2021.
Wel, fel y gŵyr David Melding, mae mwyafrif llethol y darparwyr gofal cartref yn y sector annibynnol, ac felly, yn amlwg, eu cyflogwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddynt yr amodau gwaith cywir a'r gefnogaeth gywir. Ond wrth gwrs, os oes rhaid iddynt ynysu, byddant yn derbyn yr un budd-daliadau â'r bobl yn y sector cyhoeddus a fydd yn cael arian ychwanegol at eu cyflog, ac edrychir ar eu holau yn yr un math o ffordd. Gan fod y sector mor dameidiog, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i geisio eu cyrraedd, a dyma un o'r pwyntiau allweddol yn y Papur Gwyn rydym wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar.