Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch. Ar 11 Ionawr, cyhoeddais y cynllun brechu cenedlaethol, a oedd yn adlewyrchu misoedd o waith cynllunio manwl gan y GIG. Roedd y strategaeth yn nodi nifer o gerrig milltir allweddol y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â hwy. Mae bwrdd iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu poblogaeth Sir Gaerfyrddin, yn cadarnhau y bydd yr holl bractisau meddyg teulu yn cymryd rhan, ac yn cynyddu nifer eu canolfannau brechu torfol o gyfanswm o ddwy i o leiaf un ar gyfer pob sir.