Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 20 Ionawr 2021.
Weinidog, er fy mod yn deall ei bod yn cymryd amser i goladu ffigurau hunanladdiad oherwydd yr angen i gynnal ymchwiliadau a chwestau, hoffwn dynnu eich sylw at sylwadau crwner gogledd Cymru, John Gittins, ym mis Rhagfyr, a fu'n llywyddu dros saith achos o hunanladdiad dros yr haf yn yr un wythnos. Nododd effeithiau'r cyfyngiadau symud fel ffactor cyfrannol ym mhob un o'r achosion hynny. Ymddengys i mi fod cyfyngiadau symud parhaus, hinsawdd o ofn, ac effeithiau'r gaeaf yn destun pryder mawr. A allwch amlinellu pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd iawn?