Coronafeirws ac Iechyd Meddwl

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:21, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jack. Rydym yn parhau i fonitro effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles drwy ystod o arolygon a thystiolaeth arall. At ei gilydd, mae lefelau gorbryder yn parhau i fod yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig oherwydd amrywiaeth o bryderon, gan gynnwys iechyd personol, iechyd anwyliaid, a materion ariannol wrth gwrs.