Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 20 Ionawr 2021

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mi gafodd adroddiad ei gyhoeddi ddoe a oedd yn dweud bod un o bob pedwar person ifanc wedi methu â dygymod efo heriau'r flwyddyn ddiwethaf yma. Mae'r rhesymau yn ddigon amlwg, ond os ydym ni am osgoi pandemig o broblemau iechyd meddwl mae'n rhaid rhoi gwasanaethau mewn lle rŵan i helpu'r bobl ifanc yma. Pa fuddsoddiadau mewn gwasanaethau ydych chi'n eu cynllunio?