2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Ionawr 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf heddiw, llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mi gafodd adroddiad ei gyhoeddi ddoe a oedd yn dweud bod un o bob pedwar person ifanc wedi methu â dygymod efo heriau'r flwyddyn ddiwethaf yma. Mae'r rhesymau yn ddigon amlwg, ond os ydym ni am osgoi pandemig o broblemau iechyd meddwl mae'n rhaid rhoi gwasanaethau mewn lle rŵan i helpu'r bobl ifanc yma. Pa fuddsoddiadau mewn gwasanaethau ydych chi'n eu cynllunio?
Dwi'n cydnabod bod rhaid inni ymyrryd yn gynnar, achos o beth dwi'n ei ddeall, mae 80 y cant o broblemau iechyd meddwl yn dechrau pan mae pobl yn blant ifanc neu yn bobl ifanc. Felly, mae'n gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio unrhyw arian ychwanegol yn y maes yna. Dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n sicrhau bod £9.4 miliwn o arian ychwanegol yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu pobl ifanc. Bydd peth o hynny'n mynd drwy'r ysgolion, ond, wedyn, mae gwaith ychwanegol yn cael ei wneud i sicrhau ein bod ni yn cyflwyno nid yn unig CAMHS yn yr ysgolion—. Ar hyn o bryd maen nhw'n pilots, ond rydym ni'n gobeithio y byddwn ni, unwaith ein bod ni'n gwybod yn glir beth yw canlyniadau'r prosiect yna, yn gallu gweld hynny yn digwydd ar hyd Cymru. Felly, mae hwnna'n gam ymarferol rydym ni'n gwybod sy'n gweithio. Felly, byddwn ni eisiau gweld hwnna yn cael ei wneud o gwmpas Cymru. Ond hefyd, mae yna grŵp—y national early help and enhanced support framework—ac mae hwn yn rhywbeth rydym wedi gweld sydd wedi gweithio yn dda iawn yn ardal Gwent. Dwi'n awyddus iawn i weld y cynllun yna yn cael ei drosglwyddo drwy Gymru. Felly, dyna ddau beth yn uniongyrchol i helpu pobl ifanc.
Dwi'n edrych ymlaen at glywed rhywbeth ar sgêl llawer mwy ac â llawer mwy o frys. Rydym ni, dros gyfnod o flynyddoedd, mewn adroddiadau gan bwyllgorau yn y Senedd yma, gan randdeiliaid eraill, wedi gweld llu o dystiolaeth o ble dydyn ni ddim yn ei chael hi'n iawn yng Nghymru o ran helpu ein pobl ifanc ni efo problemau iechyd meddwl. Un o'r problemau ydy bod pobl sydd ddim yn ffitio rhyw fodel meddygol cul o broblem urgent—maen nhw'n methu â chael y gefnogaeth maen nhw ei eisiau. Maen nhw'n cael eu troi i ffwrdd o driniaeth neu, o bosib, mae eu triniaeth nhw yn cael ei orffen yn rhy fuan. Rydych chi wedi cyfeirio at ymyrryd yn gynharach, ac mae hynny'n gwbl allweddol, ond un peth arall sy'n gweithio—mae'r dystiolaeth yn dangos hynny, dwi'n credu—ydy pan mae person ifanc, ar ôl cael mynediad cynnar, yn gallu cadw'r cysylltiad yna, adeiladu'r berthynas yna efo cwnselydd dros amser hirach. Sut mae eich cynlluniau chi ar gyfer newid y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu darparu a'u cyllido yn mynd i ganiatáu ac, yn wir, hybu'r math yna o berthynas hirach rhwng y person ifanc a'r sawl sy'n trio ei helpu o neu hi?
Un peth dwi wedi ei ddysgu yn ystod y misoedd diwethaf yw bod yna lot o bobl sydd efallai ddim angen ymyrraeth meddygol, ond maen nhw angen lot o gefnogaeth, a'r bobl orau i roi'r gefnogaeth hynny yw pobl yn eu cymunedau nhw, pobl maen nhw'n dod ar eu traws bob amser—eu hathrawon nhw neu bobl yn eu cymunedau nhw. Felly, y syniad yma gyda'r model sydd yn gweithio yn arbennig o dda yn ardal Gwent yw eich bod chi yn hyfforddi pobl yn y cymunedau, yn hytrach na'ch bod chi'n disgwyl i arbenigwyr fod yna trwy'r amser. Felly, bydd y parhad yna wedyn ar gael ar gyfer y bobl ifanc yma, fel eu bod nhw'n gallu tapio i mewn iddo fe ac nad yw e jest yn un peth sydd yn digwydd unwaith ac wedyn yn cael ei dynnu i ffwrdd oddi wrthyn nhw. Ond mae yna lot o hyfforddiant sydd angen ei wneud yn y maes yma.
A dwi'n canmol y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent hefyd. Rwyf innau wedi bod yn cadw llygad ar y ddarpariaeth sydd yna, ar gael. Ond mae'n rhaid i'r ddarpariaeth fod ar gael ym mhob rhan o Gymru, wrth gwrs, a dwi'n cytuno'n llwyr efo chi am yr angen i sicrhau bod yna argaeledd yn ein cymunedau ni ar draws Cymru, ac mae yna frys i wneud hyn. Mi fyddwch chi wedi fy nghlywed i'n sôn am y one-stop shops rydw i a Phlaid Cymru wedi eu hargymell a fydd yn gallu helpu pobl efo problemau iechyd meddwl a phroblemau eraill mae pobl ifanc yn eu hwynebu hefyd, yn sgil diweithdra neu broblemau tai gwael, iechyd rhyw, ac yn y blaen. Mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n gallu cael ei sefydlu ar draws Cymru ar frys, ac mae'n fy nharo i, yn sgil y problemau sydd wedi codi yn ystod y pandemig yma, a'i effaith o ar bobl ifanc, mai rŵan ydy'r amser i wneud hyn. A wnewch chi felly greu'r math o wasanaethau rydyn ni'n galw amdanyn nhw fel arwydd clir i'r un person ifanc o bob pedwar yna nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio dros y flwyddyn ddiwethaf?
Wel, dwi wedi bod yn edrych ar y syniadau yna a dwi wedi bod yn edrych ar beth sy'n digwydd yn Seland Newydd. Dwi'n meddwl bod pethau y gallwn ni eu dysgu, ond hefyd mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad yw'r canolfannau hynny'n dod yn rhywle lle dyw pobl ddim eisiau cael eu gweld, ac felly mae stigma yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohono yma. Mae yna hubs ar gael mewn rhai llefydd ar draws Cymru eisoes, ac felly dwi'n meddwl mai ein diddordeb ni yw gwneud mwy o ran hubs iechyd, fel ei fod yn ehangach na jest rhywbeth sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. So, rŷn ni'n edrych ar beth sy'n bosibl, ond dwi'n meddwl bod hyd yn oed beth mae Plaid Cymru yn ei awgrymu—. Lefel fach iawn yw hi, yn ôl beth yw'r angen, dwi'n meddwl, o ran hubs. Felly, dwi'n meddwl y byddai'n well gyda fi i weld sut y gallwn ni gael y ddarpariaeth yna mewn hubs cymunedol ehangach sydd eisoes yn bodoli.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, mae nifer yr athrawon sy'n siarad neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau yn weddol sefydlog ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Mae Estyn yn disgrifio ceisiadau eleni am hyfforddiant i athrawon cychwynnol fel ymchwydd, er bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn llai hyperbolic ac yn dipyn bach mwy realistig na hynny. Pam na wnaeth mwy o'r cohort newydd gais i ddysgu Cymraeg neu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg? A ydych chi wedi cyrraedd y targed ar nifer y bobl sy'n cael eu hyfforddi trwy'r Gymraeg?
Wel, fel rŷch chi'n ymwybodol, Suzy, rŷn ni wedi bod yn trio gwneud lot o waith yn y maes yma. Mae targedau gyda ni ac, a bod yn onest, rŷn ni'n cael trafferth i gyrraedd y targedau hynny pan fydd hi'n dod i gynyddu nifer yr athrawon, o ran ein targed ni yn arbennig mewn ysgolion uwchradd. Dyna pam rŷn ni wedi rhoi £5,000 yn ychwanegol i bobl sydd yn hyfforddi i fod yn athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg, i geisio cael mwy ohonyn nhw i ymddiddori mewn rhoi'r gwasanaeth yna. Rŷn ni wedi rhoi £150,000 yn ychwanegol i weld a allwn ni gael mwy o blant i ymddiddori mewn cymryd lefel A trwy gyfrwng y Gymraeg. A hefyd, wrth gwrs, mae'n bosibl nawr i bobl hyfforddi i fod yn athrawon o bell, a dwi yn gobeithio y bydd hwnna'n rhywbeth—. Mae'n gam newydd sydd ar gael nawr, fel bod pobl, er enghraifft, sydd yn byw yng Ngheredigion ddim yn gorfod mynd i ffwrdd i goleg ond eu bod nhw'n gallu dysgu i fod yn athro o bell. Felly, rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n gallu. Rwy'n gofyn byth a hefyd a oes syniadau ychwanegol gan bobl ynglŷn â beth allwn ni ei wneud ac, felly, os oes syniadau ychwanegol gan bobl, rwy'n fwy na pharod i wrando achos rŷn ni'n cael trafferth yn y maes yma.
Diolch am hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ond roeddwn i'n meddwl a oes gyda chi unrhyw ddiddordeb mewn prentisiaethau safon gradd, er enghraifft, i athrawon sy'n dod o gefndiroedd galwedigaethol gwahanol yn hytrach na thrwy'r system rŷm ni'n ei gweld ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried.
Hoffwn symud ymlaen nawr at rywbeth arall. Bron yn syth ar ôl dechrau'r cyfnod clo, clywom ni fod y galw am gyrsiau blasu ar-lein gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cynyddu, a newyddion da iawn oedd hynny. Rwy'n deall bod oedi ar ddata ar draws eich meysydd cyflawni polisi, ond efallai y gallwch chi gadarnhau eich bod chi wedi llwyddo i ddal lan tipyn bach â hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o ddiddordeb cynnar yn y cyrsiau sydd wedi parhau, a beth sy'n newid, beth sy'n gweithio, i gadw'r dysgwyr hynny i lynu ato am gyfnod hirach?
Diolch. Rŷn ni wedi gweld bod yna gynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y bobl a oedd yn ymddiddori mewn dysgu Cymraeg, ac nid oedd hynny jest wedi digwydd trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Byddwch chi'n ymwybodol bod Duolingo a Say Something in Welsh, a'r rheini i gyd, wedi gweld cynnydd, felly mae'r rheini i gyd yn bethau rŷn ni'n eu croesawu. Wrth gwrs, y cwestiwn yw, fel ŷch chi'n gofyn, ydy pobl yn mynd i barhau i ddysgu wrth i'r pandemig yma ddod i ben, a hwnna yw'r sialens. Dŷn ni ddim yn gwybod eto, ond, yn sicr, rŷn ni wedi gweld y cynnydd yn dal i fod yna. Ond dyw'r data diweddaraf ddim gyda fi i weld a yw pobl wedi dal ati yn ystod y cyfnod, ac felly, wrth gwrs, gallaf i ddod nôl atoch chi gyda manylion ar hynny pe byddai hwnna'n helpu.
Diolch am hynny. Gobeithio y byddwch chi'n gallu rhannu unrhyw ddata newydd sy'n dangos cynnydd cyflawniad ar bolisi 2050, gan gynnwys unrhyw syniadau newydd sy'n gweithio nad ydym ni wedi'u hystyried o'r blaen.
Nawr, hoffwn i glywed yn arbennig am unrhyw gynnydd ar brentisiaethau iaith Gymraeg, a sut i brif-ffrydio mwy o sgiliau Cymraeg mewn prentisiaethau cyfrwng Saesneg. Byddwn ni yn canolbwyntio, yn amlwg iawn, ar y llwybrau galwedigaethol i ragoriaeth ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, achos rydym yn gweld hon fel strategaeth a all helpu gyda nod 2050 trwy greu gofod cynhwysol a phwrpasol ar gyfer tyfu defnydd bob dydd o'r Gymraeg sy'n berthnasol i waith, hefyd.
Rwy'n siŵr eich bod chi wedi edrych ar gynllun ieithoedd swyddogol y Senedd, achos mae yna syniadau da iawn yn fanna hefyd. Ond ydy e'n bosibl i ddweud faint o brentisiaethau Cymraeg neu ddwyieithog rydyn ni wedi eu colli oherwydd COVID? Beth ydych chi'n gwneud i ledu sectorau'r prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y pen draw, y tu hwnt i'r Mudiad Meithrin a'r Urdd, gan gadw'r rhain hefyd, wrth gwrs?
Diolch. Dwi'n meddwl bod yna le i ni weld beth mwy y gallwn ni ei wneud i gael pobl i flasu beth mae hi fel i ddysgu, a dyna pam dwi'n gwerthfawrogi'r hyn y mae rhai ysgolion yn ei wneud, lle maen nhw'n gofyn i gynorthwywyr ysgol i ddechrau. Mae projectau, er enghraifft, mewn rhai ysgolion lle maen nhw'n gofyn i bobl a oedd yn y chweched dosbarth ddod nôl yn y flwyddyn ganlynol i ddysgu am flwyddyn, i gael blas ar ddysgu. Gobeithio y bydd hwnna yn helpu cael mwy o bobl i ymddiddori mewn ymgymryd â hyfforddi i fod yn athrawon Cymraeg.
Wrth gwrs, o ran y prentisiaethau, ar hyn o bryd—ac rydyn ni'n dal i fod yn y dyddiau cynnar ar hyn—trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, beth rŷn ni wedi'i wneud hyd yn hyn yw canolbwyntio ar jest ychydig o lefydd. Un yw gofal plant a'r llall yw gofal henoed. Mae'n darpariaeth ni ar hyn o bryd wedi ffocysu ar hynny.
O ran prentisiaethau Cymraeg, un o'r problemau a oedd gyda ni oedd bod lot o brentisiaethau Cymraeg wedi dod trwy'r Urdd, ac, wrth gwrs, mae'r Urdd wedi cael ergyd aruthrol yn ystod y pandemig yma ac mae hi wedi bod yn anodd iawn iddyn nhw, o ran prentisiaethau chwaraeon yn arbennig. Mae wedi bod yn drasiedi i weld hwnna, ac rŷn ni'n siarad â'r Urdd yn gyson i weld beth allwn ni ei wneud i'w helpu nhw, achos yn y gorffennol roedden nhw'n gallu defnyddio'r arian a oedd yn dod o'r gwersylloedd i'w helpu nhw i dalu am y core funding ar gyfer prentisiaethau. So, rŷm ni'n dal i fod mewn trafodaethau gyda'r Urdd ynglŷn ag a oes yna bosibilrwydd i ni wneud mwy yn y maes yna, achos maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel.