Cymorth Iechyd Meddwl yng Ngorllewin De Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:02, 20 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i'r Gweinidog a fy nghred ym mhwysigrwydd cymorth iechyd meddwl, ac a gaf fi gytuno â'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd am ddefnyddio pawb a all helpu? Rwy'n credu y bydd eithrio unrhyw grŵp o bobl yn niweidiol i iechyd meddwl yng Nghymru. Fy nghwestiwn yw: o fy mhrofiad i, mae profedigaeth yn un o brif achosion dirywiad iechyd meddwl—pa gymorth profedigaeth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu?