2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael yng Ngorllewin De Cymru? OQ56150
Diolch yn fawr. Rydyn ni wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl fel gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n disgwyl i wasanaethau gael eu cynnal, er ein bod ni yn derbyn efallai fod angen addasu modelau cyflenwi o ganlyniad i’r cyfyngiadau.
Diolch am hynna.
Yn dilyn cwestiwn Helen Mary Jones, a'r ateb, mewn gwirionedd, rydym yn amlwg yn gwybod o ganlyniad i'r pwysau helaeth—[Anghlywadwy.]—fod amseroedd aros yn eithriadol o hir a bod gwasanaethau dan bwysau. Nawr, mewn rhai ardaloedd nid oes llawer o gymorth ar gael, os o gwbl. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod yna gwnselwyr annibynnol ledled Cymru sy'n barod i helpu'r GIG i ymdrin â hyn nawr, ond bod angen eu talu i wneud hynny. Rwy'n sylweddoli bod gennym yr holl ddadleuon hyn ynglŷn â chynllunio'r gweithlu ac oedi ac yn y blaen, ond mae'r rhain yn bobl gymwysedig sydd bellach yn gweithio yn y sector annibynnol. Yn ogystal â hynny, mae llawer o bobl yn methu fforddio mynd yn breifat i gael y cymorth hwnnw. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â phob cwnselydd cymwysedig yng Nghymru a thalu cyfraddau'r GIG iddynt er mwyn sicrhau bod mwy o wasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl ar gael?
Rwy'n credu y byddai'n anodd iawn i mi ymrwymo i gysylltu â'r holl bobl sydd ar gael yn y maes hwn, ond rwy'n sicr yn cydnabod bod cronfa o arbenigwyr y gallem fod yn eu defnyddio, ac rwy'n credu mai un o'r pethau rwy'n awyddus i'w wneud yw gweithio gyda'r byrddau iechyd ar y cyllid ychwanegol y byddwn yn ei roi yn ei le ar gyfer y cymorth lefel haen 0 hwnnw. Nid oes unrhyw reswm pam na all y byrddau iechyd benderfynu rhoi rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar gontract allanol, sef yr hyn y maent yn ei wneud drwy sefydliadau'r trydydd sector i bob pwrpas. A bod yn onest, byddai'n well gennyf weld hynny'n cael ei wneud drwy sefydliadau'r trydydd sector, ond rwy'n cydnabod bod prinder arbenigwyr ar hyn o bryd a bod angen inni ddefnyddio'r rhai sydd ar gael. Felly, gallwn gadw llygad ar hynny, ond wrth ymdrin â system sy'n gorfod darparu ar gyfer Cymru gyfan, mae angen systemau mawr ar waith, yn hytrach na system sy'n ceisio cysylltu pawb yn unigol.
A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i'r Gweinidog a fy nghred ym mhwysigrwydd cymorth iechyd meddwl, ac a gaf fi gytuno â'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd am ddefnyddio pawb a all helpu? Rwy'n credu y bydd eithrio unrhyw grŵp o bobl yn niweidiol i iechyd meddwl yng Nghymru. Fy nghwestiwn yw: o fy mhrofiad i, mae profedigaeth yn un o brif achosion dirywiad iechyd meddwl—pa gymorth profedigaeth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu?
Diolch yn fawr iawn, Mike. Mae cryn dipyn o gymorth profedigaeth ychwanegol ar gael, ac mae cydnabyddiaeth, yn enwedig ar ôl hunanladdiad, y gallai fod angen cymorth profedigaeth ychwanegol ar bobl yn y sefyllfaoedd hynny. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod degau o filoedd o bobl yng Nghymru bellach wedi colli anwyliaid yn ystod yr argyfwng hwn, ac mae angen inni sicrhau bod cymorth ar gael iddynt. Mae'r cymorth profedigaeth hwnnw ar waith. Os gwelwn fod angen mwy, byddwn yn ystyried hynny, ond yn sicr, un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf yw sicrhau bod pobl yn gwybod ble y gallant gael gafael ar gymorth yn hawdd, ac rwyf wedi bod yn pwyso'n arbennig ar fyrddau iechyd i'w gwneud yn hawdd i bobl ddod o hyd i gymorth, ac rwy'n gobeithio eich bod chi, ynghyd â holl Aelodau eraill y Senedd, wedi cael llythyr gennyf yr wythnos diwethaf, yn nodi ble y gall pobl fynd am help, ac rydym wedi sicrhau bod pob bwrdd iechyd wedi nodi'r wybodaeth honno'n glir ar eu tudalennau gwe erbyn hyn, sy'n rhywbeth a groesawyd yn fawr gan y comisiynydd plant. Gofynnodd i hynny gael ei wneud mewn ffordd lawer cliriach, fel ei bod yn haws i bobl ddod o hyd i'r wybodaeth.