Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 20 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:47, 20 Ionawr 2021

Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, mae nifer yr athrawon sy'n siarad neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau yn weddol sefydlog ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Mae Estyn yn disgrifio ceisiadau eleni am hyfforddiant i athrawon cychwynnol fel ymchwydd, er bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn llai hyperbolic ac yn dipyn bach mwy realistig na hynny. Pam na wnaeth mwy o'r cohort newydd gais i ddysgu Cymraeg neu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg? A ydych chi wedi cyrraedd y targed ar nifer y bobl sy'n cael eu hyfforddi trwy'r Gymraeg?