Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 20 Ionawr 2021.
Yn dilyn cwestiwn Helen Mary Jones, a'r ateb, mewn gwirionedd, rydym yn amlwg yn gwybod o ganlyniad i'r pwysau helaeth—[Anghlywadwy.]—fod amseroedd aros yn eithriadol o hir a bod gwasanaethau dan bwysau. Nawr, mewn rhai ardaloedd nid oes llawer o gymorth ar gael, os o gwbl. Fodd bynnag, gwyddom hefyd fod yna gwnselwyr annibynnol ledled Cymru sy'n barod i helpu'r GIG i ymdrin â hyn nawr, ond bod angen eu talu i wneud hynny. Rwy'n sylweddoli bod gennym yr holl ddadleuon hyn ynglŷn â chynllunio'r gweithlu ac oedi ac yn y blaen, ond mae'r rhain yn bobl gymwysedig sydd bellach yn gweithio yn y sector annibynnol. Yn ogystal â hynny, mae llawer o bobl yn methu fforddio mynd yn breifat i gael y cymorth hwnnw. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â phob cwnselydd cymwysedig yng Nghymru a thalu cyfraddau'r GIG iddynt er mwyn sicrhau bod mwy o wasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl ar gael?