Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 20 Ionawr 2021.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gweithio'n galed i sicrhau bod hawliau plant wedi bod wrth wraidd ein holl waith yn ystod y pumed Cynulliad hwn. Mae hawliau plant yn bwysig ym mhob dim a wnawn. Mae hyn wedi bod yn wir pan fyddwn yn craffu ar bolisi'r Llywodraeth ar wasanaethau ieuenctid neu iechyd meddwl pobl ifanc, pan fyddwn yn ystyried yr angen am ddeddfwriaeth ar gosbi plant yn gorfforol, neu pan fyddwn yn edrych ar ariannu ysgolion.
Ym mis Mehefin 2019, bron i ddegawd ers cyflwyno'r Mesur hawliau plant, roeddem yn teimlo ei bod yn bryd archwilio a yw'r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn gweithio'n effeithiol. Yn 2011, ystyrid bod y gyfraith hon yn torri tir newydd ac arweiniodd at gydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru, ond rhaid mesur ei llwyddiant yn ôl y graddau y mae wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Y peth cyntaf a wnaethom oedd edrych ar sut y mae'r gyfraith hon yn effeithio ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniadau. Roeddem hefyd yn awyddus i wybod a yw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei chyllid. Clywsom am rwystredigaethau amlwg rhanddeiliaid ynglŷn â pha mor gyflym y mae'r Mesur wedi dylanwadu ar bolisi a gwariant. Dywedasant wrthym nad oes digon o gyfeirio at hawliau plant mewn dogfennau strategol allweddol. Dywedasant wrthym hefyd nad oes digon o dystiolaeth fod y dyletswyddau yn y Mesur yn cael eu cyflawni ar draws Llywodraeth Cymru. Nid yw'n glir fod hawliau plant yn cael eu hystyried yn systematig ar draws y Llywodraeth. Er bod enghreifftiau da mewn rhai adrannau, rhaid gwneud mwy o gynnydd. Yn ogystal â'r enghreifftiau amlwg, megis addysg a gwasanaethau cymdeithasol, mae meysydd polisi fel tai, iechyd, cynllunio, yr economi, yr amgylchedd a thrafnidiaeth yn effeithio'n enfawr ar fywydau plant o ddydd i ddydd. Rhaid i hawliau plant effeithio ar benderfyniadau ar draws portffolio pob Gweinidog, a rhaid cael prawf mwy tryloyw fod hyn yn digwydd.
Wedyn, edrychwyd ar y dyletswyddau yn y ddeddfwriaeth newydd y bwriadwyd iddynt sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwireddu. Roeddem am wybod a yw'r mecanweithiau cywir ar waith i sicrhau newid. Clywsom fod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn arf pwysig i gynnal y gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth hon. Dylai'r asesiadau hyn ddadansoddi i ba raddau y bydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael effaith negyddol, niwtral neu gadarnhaol ar hawliau plant. Y bwriad yw sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau er mwyn llywio'r broses honno. Clywodd y pwyllgor bryderon fod yr asesiadau effaith hyn yn aml yn cael eu cynhyrchu'n rhy hwyr yn y broses o ddatblygu polisi. Mynegwyd pryderon hefyd eu bod weithiau'n cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n edrych fel pe baent yn esbonio penderfyniadau polisi sydd eisoes wedi'u gwneud, yn hytrach na llywio penderfyniadau sydd eto i'w gwneud. Mae hyn yn dangos inni nad hawliau plant sy'n sbarduno penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ôl bwriad y ddeddfwriaeth.
Yn fwy diweddar, mae'n braf clywed barn Comisiynydd Plant Cymru fod ansawdd a manylion rhai o'r asesiadau effaith hyn wedi gwella. Mae un enghraifft gadarnhaol yn ymwneud â lefel y manylder a'r dadansoddiad a gyhoeddwyd gan yr adran addysg am ddarpariaeth ysgolion yn ystod y pandemig.
Roedd deddfwriaeth 2011 hefyd yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Gwnaed hyn er mwyn i oedolion a phlant ddeall beth yw hawliau plant a pham y mae'r gyfraith mewn grym. Fodd bynnag, roedd llawer o'r plant a'r bobl ifanc y clywsom ganddynt yn dweud yn glir na fu dull systematig o'u hysbysu am eu hawliau. Dangosodd ein tystiolaeth hefyd fod bwlch gwirioneddol yn y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o hawliau plant ymysg y cyhoedd.
Yng ngoleuni hyn, 10 mlynedd ers i'r ddeddfwriaeth gael ei rhoi mewn grym, rydym yn casglu ei bod yn hen bryd cael strategaeth genedlaethol i godi ymwybyddiaeth. Rydym hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddweud wrth blant a phobl ifanc sut i gwyno os ydynt o'r farn nad yw'r gyfraith newydd hon yn gweithio'n dda. Rhaid rhoi'r wybodaeth hon iddynt mewn ffordd sy'n hawdd ei deall.
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun hawliau plant newydd ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. Cynllun sy'n rhaid iddi ei chael yn ôl y gyfraith yw hwn, un sy'n nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni'r ddeddfwriaeth yn ymarferol. Rydym yn falch o weld bod strategaeth codi ymwybyddiaeth a phroses gwyno sy'n ystyriol o blant wedi'u cynnwys yn y cynllun newydd. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei weld nesaf yw'r manylion sy'n sail iddo ac ymrwymiad ynglŷn â pha bryd y caiff y camau hyn eu cyflawni.
Un agwedd bwysig arall ar ein hymchwiliad oedd edrych ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu erthygl 12 y Confensiwn. Mae'n dweud bod gan blant hawl i leisio barn pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt ac i'w barn gael ei hystyried. Mae'n hanfodol fod plant a phobl ifanc yn cael dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, nid yn unig am fod ganddynt hawl gyfreithiol i wneud hynny, ond yn bwysicach, am fod hynny'n arwain at well penderfyniadau a chanlyniadau gwell. Gwnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi strategaeth glir yn ei chynllun hawliau plant diwygiedig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar benderfyniadau'r Llywodraeth sy'n effeithio arnynt hwy. Rydym yn croesawu'r ffaith bod hyn wedi'i gynnwys yn y drafft newydd o'r cynllun hawliau plant. Byddwn yn monitro sut y mae'n mynd rhagddo yn y misoedd sy'n weddill cyn yr etholiad.
Mae'r argymhelliad olaf yr hoffwn ganolbwyntio arno heddiw yn ymwneud â chryfhau sefyllfa gyfreithiol hawliau plant. Nid yw graddau dylanwad awdurdodau lleol ar fywydau beunyddiol plant erioed wedi bod yn fwy gweladwy. Ac eto, er bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys byrddau iechyd, yn chwarae rhan ganolog yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, ac yn cael symiau sylweddol o arian cyhoeddus, nid yw'r Mesur hawliau plant yn gosod dyletswydd arnynt. Clywsom felly nad yw Llywodraeth Cymru bob amser yn gallu sicrhau bod hawliau plant yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael, na'r penderfyniadau y mae'r cyrff cyhoeddus hyn yn eu gwneud. Cawsom ein darbwyllo gan y dystiolaeth a ddaeth i law y bydd ymestyn y dyletswyddau yn y Mesur i gynnwys cyrff fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn helpu i gyflawni'r newid hwn.
Wrth dynnu fy sylwadau agoriadol i ben, rwyf eisoes wedi dweud bod pandemig COVID-19 wedi golygu nad yw'r Mesur hawliau plant erioed wedi bod mor bwysig. Ond mae'n rhaid inni gofio bod gweithredu'r ddeddfwriaeth hon yn briodol bob amser wedi bod yn bwysig. Fel pwyllgor, credwn fod yn rhaid cael pwyslais o'r newydd ar sicrhau bod y Mesur yn cael ei weithredu'n iawn. Nodwn hefyd fod y Cenhedloedd Unedig yn craffu ar gynnydd o ran gweithredu'r Confensiwn ledled y DU yn 2021.
Cyn y pandemig, clywsom gan blant a phobl ifanc am yr hawliau sy'n bwysig iddynt hwy a'r hyn a all ddigwydd pan nad ydynt yn cael eu gwireddu. Roedd yn wych clywed gan bron i 1,000 o bobl ifanc o bob un o bum rhanbarth y Senedd. Roedd hefyd yn wych cyfarfod â'r plant o brosiectau Lleisiau Bach yng ngogledd a de Cymru. Rhoesant groeso cynnes iawn i ni ac roeddent yn awyddus i ddweud wrthym beth oedd hawliau plant yn ei olygu i'w bywydau. Un o'r hawliau a oedd yn amlwg yn bwysig i'r bobl ifanc y buom yn siarad â hwy oedd yr hawl i fod yn ddiogel: yr hawl i fod yn ddiogel gartref; yr hawl i fod yn ddiogel yn eu cymunedau; yr hawl fod yn ddiogel ar-lein. Roedd yn ein hatgoffa'n glir, os oedd angen gwneud hynny, sut fywydau y mae rhai plant a phobl ifanc yng Nghymru yn eu byw. Roedd yn ein hatgoffa beth y mae hawliau plant yn ei olygu mewn gwirionedd.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu gyda'r gwaith hwn. Mae'r mewnbwn manwl gan randdeiliaid a barn plant a phobl ifanc wedi bod yn amhrisiadwy i'n gwaith craffu. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'r rhai sydd wedi aros yn amyneddgar am ein hadroddiad, a ohiriwyd gennym i'n galluogi i ganolbwyntio pob ymdrech ar ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i'r pandemig, ac i'r rhai a roddodd adborth i ni ar ymateb Llywodraeth Cymru, er mwyn llywio'r ddadl heddiw. Gyda'u cymorth hwy, rydym wedi gwneud cyfres o argymhellion ymarferol sydd â photensial yn ein barn ni i wneud hawliau'n realiti i holl blant a phobl ifanc Cymru. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw rhoi pwyslais o'r newydd ar gael hyn yn iawn. Diolch yn fawr.