Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 20 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Rwy'n credu efallai mai dim ond un a hanner yw hynny mewn gwirionedd. Nid oeddwn yn cytuno â llawer o'r newyddion ffug a gwadu realiti a'r hyn a oedd yn agoriad anghyfrifol iawn gan David Rowlands yn fy marn i. Pan soniwn am 'y pandemig', mae'n real iawn. Mae gennym 16 y cant o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru, o'i gymharu â'r pum mlynedd blaenorol. Mae hyd yn oed yn waeth yn Lloegr—bron 20 y cant o farwolaethau ychwanegol. Ar draws y DU, mae gennym y cyfraddau marwolaethau ychwanegol uchaf ers yr ail ryfel byd. Ni allwch fychanu'r argyfwng rydym yn ei wynebu, y niwed sy'n cael ei wneud, a honni eich bod yn ymddwyn yn gyfrifol. Mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau i gyd mewn cymaint o ffyrdd. Argyfwng iechyd cyhoeddus ydyw yn bennaf, wrth gwrs, ac i lawer, mae'n drasiedi bersonol. Mae arnaf ofn fod agoriad David Rowlands yn bychanu realiti'r drasiedi honno i filoedd o deuluoedd yma yng Nghymru.
Ond mae canlyniadau hefyd i'n heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau, ac mae'r canlyniadau hynny'n sylweddol. Er gwaethaf yr holl heriau hyn, mewn cynifer o achosion rydym wedi gweld y gorau gan ein pobl: unigolion yn cynnig helpu ei gilydd, sefydliadau'n uno i weithio'n gyflym mewn partneriaeth i ymateb i heriau'r pandemig. Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd, ac rydym wedi gweld niferoedd digynsail o wirfoddolwyr yn camu i'r adwy i gefnogi'r rhai sydd angen help. Yn amlwg, cafwyd nifer o ymyriadau gan Lywodraeth Cymru, i wneud ein rhan i helpu i gefnogi ein pobl drwy'r pandemig.
I droi at nifer o bwyntiau yn y cynnig, rydym yn cydnabod effaith y feirws ar barhad ac ansawdd dysgu wrth gwrs. Rydym bob amser wedi dweud yn glir fod cefnogi addysg yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi buddsoddi ac yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn cysylltedd, technoleg ac adnoddau dysgu, yn ogystal â staff ychwanegol, i helpu i fynd i'r afael â cholli cyfle i ddysgu.
Gwnaethom weithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i ddiogelu busnesau Cymru. Gennym ni y mae'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU; mae'n werth dros £2 biliwn ers dechrau'r pandemig, ac mae £1.7 biliwn o'r adnodd hwnnw eisoes yng nghyfrifon busnesau. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.
Wrth inni barhau i roi ymyriadau ar waith i gefnogi pobl, rydym yn gweithio'n galed ar yr ysgogiadau a fydd yn ein helpu i ddod allan yn y pen arall. Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar gyflwyno'r rhaglen frechu. Mae bron i 176,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf, gyda miloedd yn fwy yn cael eu brechu bob dydd. Yn amodol ar gyflenwad, rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gwblhau'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror.
Mae ein buddsoddiad mewn rhaglenni profi, olrhain, diogelu—bydd hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i dymor y Senedd hon, ond mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda mwy na 2 filiwn o brofion wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru. Er gwaethaf y cynnydd yn nifer yr achosion, mae ein perfformiad gydag olrhain cysylltiadau yn parhau'n uchel, yn sylweddol well na pherfformiad ein cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr. Cysylltwyd â 98 y cant o'r holl achosion i ofyn iddynt ddarparu eu manylion cyswllt ers inni ddechrau ym mis Mehefin; cyrhaeddwyd 92 y cant o'u cysylltiadau agos.
Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau gofal critigol yma yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod y pwysau aruthrol a fu arnynt ac sy'n dal i fod arnynt wrth inni siarad. Rydym wedi buddsoddi cyllid rheolaidd o £15 miliwn ers 2019-20 i weithredu i gryfhau agweddau ar ofal critigol ac i helpu i ailgynllunio'r ffordd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu. Bydd angen i hynny barhau yn y dyfodol.
Felly, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i roi'r holl fesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu bywydau ac atal COVID rhag lledaenu. Dyna pam y mae Cymru ar lefel rhybudd 4 a bydd yn parhau i fod ar lefel rhybudd 4 hyd nes y gallwn fod yn hyderus fod cyfraddau heintio dan reolaeth ac nad yw ein GIG mewn perygl o gael ei lethu.
Er hynny, mae'r straeniau newydd o feirysau yn ychwanegu dimensiwn newydd a pheryglus at y pandemig, gan gynyddu'r risg y bydd pobl yn dal neu'n lledaenu'r feirws pryd bynnag y byddant mewn cysylltiad agos â'i gilydd. Dyna pam ein bod mewn cyfnod 'aros gartref', nid 'aros yn lleol'. Gofyniad y gyfraith yw aros gartref oni bai bod gennych resymau hanfodol neu resymau a ganiateir dros adael y cartref.
Cynhelir yr adolygiad nesaf a drefnwyd o'n rheoliadau ar 29 Ionawr. Os bydd pethau dros y pythefnos nesaf yn parhau i fynd i'r cyfeiriad cywir, bydd rhaid i'r Cabinet benderfynu wedyn a oes unrhyw le i ddechrau'r broses o lacio'r cyfyngiadau. Fodd bynnag, fel y dywedais yn gynharach heddiw, ni ddylai neb ddisgwyl i gyfyngiadau gael eu llacio'n sylweddol ddiwedd y mis hwn. Rhaid inni fod yn sicr fod gwelliant yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy inni ddechrau'r daith o godi'r cyfyngiadau a pheidio ag achosi mwy o niwed drwy eu llacio'n rhy fuan. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant 2, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad y ddadl heddiw a'r pleidleisiau i ddilyn.