– Senedd Cymru ar 20 Ionawr 2021.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 3 a 4 yn enwau Mark Reckless a Gareth Bennett. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliant 5 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio: mesurau yn y dyfodol i atal a mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19, a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig. David Rowlands.
Cynnig NDM7547 Caroline Jones
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y niwed a achosir gan fesurau a gymerwyd i atal feirws SARS-CoV-2 rhag lledaenu.
2. Yn credu bod mesurau lliniaru coronafeirws wedi arwain at ddifrod i economi Cymru ac wedi effeithio'n negyddol ar gyfleoedd bywyd cenedlaethau iau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu mai'r cyfyngiadau symud presennol yw'r rhai olaf, drwy sicrhau:
a) bod gan Gymru drefn brofi, olrhain ac ynysu ddigonol a'i bod yn darparu cyfleusterau i ganiatáu i unigolion ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth bob cyswllt wyneb yn wyneb;
b) bod gan GIG Cymru fwy o welyau gofal critigol, gyda nifer y gwelyau ICU y pen yn nes at y nifer o welyau sydd gan yr Almaen neu'r Unol Daleithiau, y le mae llai o farwolaethau y pen o'r boblogaeth na Chymru.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y loteri cod post cymorth busnes, gan sicrhau bod pob busnes yng Nghymru sy'n gorfod cau o ganlyniad i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cael ei ddigolledu'n ddigonol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ailddatgan fy niolch parhaus i bawb yn ein GIG a gwasanaethau hanfodol eraill, sy'n gweithio mor galed yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn. Rwyf hefyd am ddechrau fy nghyfraniad drwy ymddiheuro am y llu o ystadegau sydd ynddo, ond mae ystadegau'n cael eu defnyddio i orfodi'r cyfyngiadau symud, felly rhaid craffu ar yr ystadegau hyn a'u herio.
Yr hyn sy'n fy syfrdanu yw mai ymateb anochel Llywodraeth Cymru i'r cyfyngiadau a basiwyd gan Lywodraeth y DU yw'r cyfyngiadau presennol, ac eto mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r cyfyngiadau symud, heb gwestiynu'r polisïau a arweinir gan Lywodraeth y DU, a heb gwestiynu'r ffigurau y seiliwyd y polisïau hyn arnynt. Wrth gwrs, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio gyda'u dwylo wedi'u clymu am na allant feirniadu polisi Llywodraeth y DU. Felly, mae'r ddwy blaid yn cyfyngu eu beirniadaeth i sylw anffodus gan y Prif Weinidog am y cynllun brechu gwib, sy'n eithaf dealladwy o ystyried y pwysau sydd arno, a dull braidd yn araf Cymru o gyflwyno brechlynnau, y credaf fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi i'w gywiro'n gyflym. Mae'n ymddangos mai fy ngrŵp i'n unig a rhai aelodau annibynnol yw'r unig ddau wrthwynebiad i'r strategaeth cyfyngiadau symud.
Yn groes i honiadau'r Prif Weinidog mewn dadleuon blaenorol, mae fy ngrŵp a minnau'n cydnabod bod COVID-19 yn glefyd peryglus. Yr hyn rydym yn ei ddadlau yw nad yw'n fwy peryglus nag unrhyw haint COVID arall, a gadewch imi esbonio yma fod COVID yn derm generig ar lawer o heintiau'r llwybr anadlu, ac mae ffliw cyffredin yn un ohonynt, yn ogystal â'r feirws SARS yn 2003, a oedd, gyda llaw, â chyfradd marwolaeth o un o bob 10. Rydym yn dadlau felly bod y mesurau a fabwysiadwyd ar gyfer pob un—[Anghlywadwy.]—COVID-19 yn gwbl anghymesur â'r perygl y mae'n ei achosi i 99.9 y cant o'r boblogaeth. Cyfeirir at gyfradd yr haint fel y rheswm dros y mesurau llym y mae'r boblogaeth yn ddarostyngedig iddynt, ond mae'r drefn brofi a ddefnyddir i ganfod heintiau, y prawf adwaith cadwynol polymerasau, yn cael ei herio fwyfwy fel arf addas, neu ddibynadwy hyd yn oed. Yn wir, mae nifer o achosion llys ar gychwyn ym mhob rhan o'r byd i herio cyfreithlondeb cyfyngiadau symud yn seiliedig ar y profion hyn.
A gaf fi droi yn awr at gywirdeb yr ystadegau marwolaethau COVID, sydd wrth gwrs yn ganolog i'r cyfyngiadau symud rydym yn ddarostyngedig iddynt? A phe bai'r gwir ffigurau'n cael eu rhoi, fe welid nad yw'r feirws fawr ddim peryclach, os o gwbl, na chlefydau heintus eraill sy'n gyffredin yn y boblogaeth bob blwyddyn. Rwy'n ailadrodd eto mai 92,000 oedd ffigur y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer marwolaethau o glefydau heintus yn 2018, ffigur y mae holl Lywodraethau'r DU yn dewis ei anwybyddu. Fodd bynnag, os derbyniwn fod y ffigur wedi'i ddatgan, dywedir wrthym fod 90,000 o farwolaethau COVID-19 wedi bod a bod 3.6 miliwn wedi profi'n bositif am y clefyd. Hyd yn oed yn ôl yr ystadegau hyn sydd wedi'u gorliwio, golyga mai 2.5 y cant yn unig yw'r gyfradd farwolaeth sydd gennym. Serch hynny, mae amcangyfrifon gan arbenigwyr yn ddiweddar yn dweud bod o leiaf un o bob wyth o'r boblogaeth â'r coronafeirws arnynt, neu wedi'i gael. Mewn poblogaeth o 68 miliwn, mae hynny ddwywaith y nifer sydd wedi cael prawf positif hyd yma, felly gellir cyfrifo bod y gyfradd farwolaethau ychydig dros 1 y cant.
Fodd bynnag, os edrychwn ymhellach ar yr ystadegau, nid yw'r ffigur o 90,000 yn gwahaniaethu ar gyfer marwolaethau lle roedd COVID yn achos gwaelodol, a lle ceir cyfeiriad yn unig at COVID ar y dystysgrif marwolaeth. Felly, gallwn allosod bod y marwolaethau gwirioneddol o ganlyniad uniongyrchol i COVID o'r ffigurau hyn yn debygol o fod tua 60,000, sy'n golygu bod cymhareb wirioneddol y marwolaethau o'r haint yn llai nag 1 y cant. Mae'r ffigur hwn yn cyd-fynd â gwyddonwyr yng Ngholeg Imperial Llundain ac yn cael ei adleisio gan lawer o sefydliadau amlwg eraill ledled y byd, sy'n amcangyfrif mai dim ond 0.66 y cant yw cymhareb y marwolaethau o COVID-19. Mae'r darlun ehangach yn dangos mai cyfanswm y ffigurau ar gyfer marwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn 2020 oedd 538,000. Y ffigur ar gyfer 2019 oedd 599,000 ac nid oedd y ffigur ar gyfer 2018 yn llawer is na 2020. Mae'r ffigurau hyn yn codi'r cwestiwn sylfaenol: a ydym yn wynebu pandemig marwol o'i gymharu â blynyddoedd eraill? Ac mae'n amlwg mai 'na' yw'r ateb. Yn ogystal, mae'r mwyafrif helaeth o'r marwolaethau o COVID ymysg pobl dros 75 oed. Yn erbyn hyn, mae Llywodraeth y DU ei hun wedi amcangyfrif y bydd o leiaf 200,000 o bobl, dros y blynyddoedd nesaf, yn marw o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau symud, a bydd llawer ohonynt yn llawer iau na 75. Mae'r ffigurau hyn—unwaith eto, i gyd yn seiliedig ar ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol—yn dangos nad oes pandemig go iawn yn bodoli a bod y niwed gormodol y mae'r cyfyngiadau symud yn ei gael ar fusnesau ac iechyd cyffredinol pobl yn gwbl anghymesur â bygythiad COVID-19. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid yw gwelliant 5 wedi'i ddethol. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith COVID-19 ar wasanaethau cyhoeddus a busnes yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru a chefnogi ymateb y sector cyhoeddus i'r pandemig, gan gynnwys:
a) £5.2 biliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru;
b) y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws;
c) y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig
d) cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws
e) y cynllun benthyciadau arfer;
f) caffael brechlynnau a cyfarpar diogelu personol yn y DU; a
g) defnyddio'r lluoedd arfog.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dyrannu'r adnoddau nas defnyddiwyd sy'n weddill a ddaeth i law wrth Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau Cymru;
b) rhoi terfyn ar ddosbarthu cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ar sail cyntaf i'r felin a chanolbwyntio adnoddau ar y rhai mwyaf anghenus;
c) gwarantu bod cymorth busnes ar gael ar unwaith pan gaiff cyfyngiadau eu cyflwyno; a
d) datblygu cynllun cynhwysfawr i sicrhau adferiad yn dilyn y pandemig gyda phrosiectau seilwaith arloesol ac amgylchedd croesawgar i fusnesau yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Hoffwn ddiolch i grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio am y ddadl heddiw. Mae'r cynnig yn eang iawn, ond rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar gymorth i fusnesau a'r economi. I wneud hynny, rwy'n credu y rhoddaf rywfaint o gyd-destun y cymorth y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi'i roi i Lywodraeth Cymru—hynny yw, £5.2 biliwn ychwanegol yn sgil symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU i Loegr. Mae hynny wedi arwain at £5.2 biliwn i Gymru i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl, a hynny ar ben £1.4 biliwn eisoes fel cyllideb ychwanegol, ac £1.3 biliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Rwy'n credu y dylid cytuno bod honno'n lefel ddigynsail o gymorth gan unrhyw Lywodraeth y DU i Gymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n mynd i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl yma yng Nghymru. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i sicrhau bod cymorth ariannol yn cael ei ddyrannu'n gyflym a phan fo angen i fusnesau.
Y bore yma, ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cafwyd peth trafodaeth ar y £1 biliwn nad yw wedi'i wario, felly gofynnais gwestiwn amlwg i Weinidog yr economi: 'A ydych wedi gofyn i'r Gweinidog cyllid yma yng Nghymru am gymorth ychwanegol i fusnesau?' Yr ateb oedd, 'Wel, mae'n rhaid inni roi cap ar yr hyn rydym yn gofyn amdano i bob pwrpas, am nad oes gennym gapasiti i lunio cynlluniau mewn pryd i gael yr arian hwnnw allan cyn diwedd y flwyddyn ariannol.' Mae'n siŵr na all hyn fod yn iawn. Rwy'n diolch i'r gweision sifil sy'n gweithio ar gymorth i fusnesau, ac yn diolch i holl staff Busnes Cymru. Mae angen eu cefnogi ymhellach. Mae'n amlwg fod angen rhywfaint o newid yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y capasiti cywir yno i allu cael arian allan i fusnesau cyn gynted â phosibl. Wrth gwrs, mae oedi'r cymorth ariannol hwnnw'n golygu y bydd busnesau'n cau. Yn sicr, dylai unrhyw fusnes a oedd yn hyfyw yn 2019 fod yn hyfyw, a chael ei gefnogi i fod yn hyfyw yn 2021.
Nawr, mae ein gwelliant yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid yn gyflym ac ar sail dreigl—mae hynny'n bwysig iawn yma—ar sail dreigl, oherwydd mae gennym y cyfyngiadau symud parhaus a phan gyflwynir cyfyngiadau, er mwyn cefnogi busnesau'n briodol. Mae angen blaenoriaethu busnesau hefyd. Rhaid inni gael arian wedi'i ddyrannu ar sail angen, yn hytrach nag ar sail y cyntaf i'r felin. Rwy'n cefnogi, ac wrth gwrs, rwyf am dynnu sylw at fy nghynllun fy hun, cynllun y Ceidwadwyr Cymreig, cronfa adfer COVID, y byddem yn ei hyrwyddo i sicrhau bod arian yn mynd allan i fusnesau a chymunedau y mae'r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt. Hoffwn ddweud llawer mwy, ond rwy'n ymwybodol fod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol. Weinidog.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod y mesurau angenrheidiol a gymerwyd i ddiogelu bywydau ac i atal y feirws SARS-COV-2 rhag lledaenu wedi cael effaith ddofn ar ein heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau.
2. Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi economi Cymru, a'i hymrwymiad i sicrhau nad yw ein pobl ifanc ar eu colled yn addysgol nac yn economaidd oherwydd effeithiau'r pandemig.
3. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyfyngiadau symud i ben cyn gynted ag y bo’n ddiogel gwneud hynny.
4. Yn nodi mai ein pecyn cymorth i fusnesau yw'r un mwyaf hael yn y DU a bod dros £1.67bn o gymorth ariannol Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ers dechrau mis Ebrill 2020.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn ei enw ef ac enw Gareth Bennett. Mark Reckless.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 3 a 4 yn ffurfiol.
A gaf fi longyfarch grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio ar sicrhau'r ddadl hon? Hoffwn ddiolch iddynt hefyd am ei ohirio am wythnos o'r wythnos diwethaf, a roddodd gyfle imi gael fy nadl fer ar ddatblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru ar amser brig, ac rwy'n ddiolchgar am hynny? Hoffwn ddweud hefyd ein bod yn cefnogi eu cynnig. Efallai y bydd eraill yn dod o hyd i resymau dros beidio â'i gefnogi, neu bleidleisio yn erbyn fel y gallant bleidleisio dros eu gwelliannau eu hunain, ond er ein gwelliannau diweddarach, rydym yn cefnogi'r cynnig, felly byddwn yn pleidleisio drosto.
Roeddwn wedi meddwl y gallem ychwanegu cyfeiriad ffafriol yn ein gwelliannau at werthoedd traddodiadol fel pwynt 5, oherwydd nid wyf yn credu bod y cynnig fel y mae yn ddadleuol a chredaf y gallwn i gyd gytuno â'i gynnwys at ei gilydd. Ond yr araith ragarweiniol gan David Rowlands, serch hynny—roedd rhannau sylweddol ohoni nad oeddwn yn cytuno â hwy o gwbl. Yn gyntaf, nid wyf yn credu bod y syniad nad yw'n bandemig go iawn—. Credaf fod hynny'n anghywir, ac os edrychwch ar y marwolaethau ychwanegol dros y flwyddyn ddiwethaf, maent yn sylweddol iawn—oddeutu 100,000. Ac os cymharwch â'r pum mlynedd diwethaf, fel y gwneir fel arfer, maent yn eithaf arwyddocaol—tua un ran o chwech yn uwch nag y byddent fel arfer. Nid wyf yn gwybod am—. Mae'n amlwg fod y coronafeirws—. Roedd gan SARS gyfradd farwolaethau uchel ac uwch na'r haint hwn ac rwy'n derbyn nad yw'r gyfradd farwolaethau hon yn cyrraedd y lefel honno, ond mae'n amlwg yn llawer gwaeth nag annwyd cyffredin, sy'n goronafeirws, ac yn fy marn i o leiaf, mae'n llawer gwaeth nag a welwn fel arfer gyda'r ffliw. Felly, i'r graddau hynny, rwyf wedi cefnogi cyfyngiadau lle maent yn ymwneud â gwastadu'r gromlin, ac roeddwn yn erbyn y strategaeth atal aflwyddiannus, yn enwedig pan oedd Llywodraeth Cymru yn cadw pethau dan gyfyngiadau am fwy o amser, i mewn i'r haf. Ond yn gyffredinol, rwy'n cefnogi'r cysyniad o wastadu'r gromlin i ddiogelu'r GIG a chadw o fewn y capasiti a gallu ymdopi â'r sefyllfa. Ac oes, mae problemau gyda chapasiti a gwelyau, ond hefyd rwy'n rhoi ffocws ar staffio, yn hytrach na'r gwelyau.
A'r un yw'r broblem gyda'r prawf PCR yn fy marn i. Pan oedd y cyfraddau'n is, efallai fod y canlyniadau positif ffug gyda'r PCR yn broblem a haeddai ei harchwilio, ond pan fo nifer yr achosion mor uchel â'r hyn ydyw ar hyn o bryd—mae hynny'n mynd yn broblem lawer llai nawr, pan fo llawer iawn mwy o bobl yn bositif. Felly, gallaf weld pam y gallem fod wedi siarad am hynny rai misoedd yn ôl, ond nid wyf yn ei weld fel mater perthnasol wrth asesu'r broblem gyffredinol nawr.
At ei gilydd, rwy'n credu bod y broblem gyda'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud a pham ein bod yn dweud ein bod am gael dull o weithredu ar draws y DU yn ymwneud yn gyntaf â chyfathrebu, oherwydd rwy'n credu ei bod yn llawer cliriach os oes gan bobl ddull cyson o weithredu, a chredaf y byddai lefelau cydymffurfiaeth â chyfyngiadau wedi bod yn uwch pe bai hynny'n wir. Yn ail, credaf fod problemau wedi bod—soniais am y strategaeth atal aflwyddiannus drwy'r haf, ond hyd yn oed yn fwy, rwy'n meddwl, pan gawsom y cyfnod atal byr o bythefnos yng Nghymru ac yna cafodd hwnnw ei godi, gyda chryn dipyn o hunanfoddhad ar ran Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut roeddent wedi'i wneud gymaint yn well nag yn Lloegr. Ac eto, gwnaethant godi'r cyfyngiadau teithio mewnol ac ar y pryd, fe'u beirniadais am gael ffin â Lloegr. Eu prif beth—gorfodi ffin â Lloegr a bydd popeth yn iawn—oedd caniatáu i bobl o Ferthyr yn fy etholaeth deithio i Drefynwy, o ardal haint uchel i ardal haint isel, ond eu rhwystro rhag teithio rhwng Trefynwy a Rhosan-ar-Wy. Nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr, ac yna gwelsom fod gan Gymru, rwy'n credu, y gyfradd uchaf o achosion yn y byd i bob pwrpas wrth ddod allan o'r cyfnod hwnnw. Felly, rwy'n credu y byddem wedi bod yn llawer iawn gwell gyda pholisi ar gyfer y DU gyfan, un gwasanaeth iechyd gwladol i fynd i'r afael â COVID ar draws y Deyrnas Unedig, gyda phobl yn dod at ei gilydd. Gan fod y brechiad wedi dod erbyn hyn, nid oes llawer o amser i fynd. Bwriwch ati i roi'r brechiad yng Nghymru. Gadewch inni godi'r cyfyngiadau cyn gynted â phosibl ac edrych ymlaen at weddill ein bywydau. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Rwy'n credu efallai mai dim ond un a hanner yw hynny mewn gwirionedd. Nid oeddwn yn cytuno â llawer o'r newyddion ffug a gwadu realiti a'r hyn a oedd yn agoriad anghyfrifol iawn gan David Rowlands yn fy marn i. Pan soniwn am 'y pandemig', mae'n real iawn. Mae gennym 16 y cant o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru, o'i gymharu â'r pum mlynedd blaenorol. Mae hyd yn oed yn waeth yn Lloegr—bron 20 y cant o farwolaethau ychwanegol. Ar draws y DU, mae gennym y cyfraddau marwolaethau ychwanegol uchaf ers yr ail ryfel byd. Ni allwch fychanu'r argyfwng rydym yn ei wynebu, y niwed sy'n cael ei wneud, a honni eich bod yn ymddwyn yn gyfrifol. Mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bywydau i gyd mewn cymaint o ffyrdd. Argyfwng iechyd cyhoeddus ydyw yn bennaf, wrth gwrs, ac i lawer, mae'n drasiedi bersonol. Mae arnaf ofn fod agoriad David Rowlands yn bychanu realiti'r drasiedi honno i filoedd o deuluoedd yma yng Nghymru.
Ond mae canlyniadau hefyd i'n heconomi, ein cymdeithas a'n cymunedau, ac mae'r canlyniadau hynny'n sylweddol. Er gwaethaf yr holl heriau hyn, mewn cynifer o achosion rydym wedi gweld y gorau gan ein pobl: unigolion yn cynnig helpu ei gilydd, sefydliadau'n uno i weithio'n gyflym mewn partneriaeth i ymateb i heriau'r pandemig. Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd, ac rydym wedi gweld niferoedd digynsail o wirfoddolwyr yn camu i'r adwy i gefnogi'r rhai sydd angen help. Yn amlwg, cafwyd nifer o ymyriadau gan Lywodraeth Cymru, i wneud ein rhan i helpu i gefnogi ein pobl drwy'r pandemig.
I droi at nifer o bwyntiau yn y cynnig, rydym yn cydnabod effaith y feirws ar barhad ac ansawdd dysgu wrth gwrs. Rydym bob amser wedi dweud yn glir fod cefnogi addysg yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi buddsoddi ac yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol mewn cysylltedd, technoleg ac adnoddau dysgu, yn ogystal â staff ychwanegol, i helpu i fynd i'r afael â cholli cyfle i ddysgu.
Gwnaethom weithredu'n gyflym ac yn bendant i helpu i ddiogelu busnesau Cymru. Gennym ni y mae'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU; mae'n werth dros £2 biliwn ers dechrau'r pandemig, ac mae £1.7 biliwn o'r adnodd hwnnw eisoes yng nghyfrifon busnesau. Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau Cymru drwy'r cyfnod hynod anodd hwn.
Wrth inni barhau i roi ymyriadau ar waith i gefnogi pobl, rydym yn gweithio'n galed ar yr ysgogiadau a fydd yn ein helpu i ddod allan yn y pen arall. Felly, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar gyflwyno'r rhaglen frechu. Mae bron i 176,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf, gyda miloedd yn fwy yn cael eu brechu bob dydd. Yn amodol ar gyflenwad, rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gwblhau'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror.
Mae ein buddsoddiad mewn rhaglenni profi, olrhain, diogelu—bydd hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i dymor y Senedd hon, ond mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda mwy na 2 filiwn o brofion wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru. Er gwaethaf y cynnydd yn nifer yr achosion, mae ein perfformiad gydag olrhain cysylltiadau yn parhau'n uchel, yn sylweddol well na pherfformiad ein cymheiriaid dros y ffin yn Lloegr. Cysylltwyd â 98 y cant o'r holl achosion i ofyn iddynt ddarparu eu manylion cyswllt ers inni ddechrau ym mis Mehefin; cyrhaeddwyd 92 y cant o'u cysylltiadau agos.
Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau gofal critigol yma yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod y pwysau aruthrol a fu arnynt ac sy'n dal i fod arnynt wrth inni siarad. Rydym wedi buddsoddi cyllid rheolaidd o £15 miliwn ers 2019-20 i weithredu i gryfhau agweddau ar ofal critigol ac i helpu i ailgynllunio'r ffordd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu. Bydd angen i hynny barhau yn y dyfodol.
Felly, bydd y Llywodraeth hon yn parhau i roi'r holl fesurau angenrheidiol ar waith i ddiogelu bywydau ac atal COVID rhag lledaenu. Dyna pam y mae Cymru ar lefel rhybudd 4 a bydd yn parhau i fod ar lefel rhybudd 4 hyd nes y gallwn fod yn hyderus fod cyfraddau heintio dan reolaeth ac nad yw ein GIG mewn perygl o gael ei lethu.
Er hynny, mae'r straeniau newydd o feirysau yn ychwanegu dimensiwn newydd a pheryglus at y pandemig, gan gynyddu'r risg y bydd pobl yn dal neu'n lledaenu'r feirws pryd bynnag y byddant mewn cysylltiad agos â'i gilydd. Dyna pam ein bod mewn cyfnod 'aros gartref', nid 'aros yn lleol'. Gofyniad y gyfraith yw aros gartref oni bai bod gennych resymau hanfodol neu resymau a ganiateir dros adael y cartref.
Cynhelir yr adolygiad nesaf a drefnwyd o'n rheoliadau ar 29 Ionawr. Os bydd pethau dros y pythefnos nesaf yn parhau i fynd i'r cyfeiriad cywir, bydd rhaid i'r Cabinet benderfynu wedyn a oes unrhyw le i ddechrau'r broses o lacio'r cyfyngiadau. Fodd bynnag, fel y dywedais yn gynharach heddiw, ni ddylai neb ddisgwyl i gyfyngiadau gael eu llacio'n sylweddol ddiwedd y mis hwn. Rhaid inni fod yn sicr fod gwelliant yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy inni ddechrau'r daith o godi'r cyfyngiadau a pheidio ag achosi mwy o niwed drwy eu llacio'n rhy fuan. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant 2, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad y ddadl heddiw a'r pleidleisiau i ddilyn.
Diolch. Rwyf wedi cael hysbysiad fod Rhun ap Iorwerth angen siarad, ac mae'n ddrwg gennyf, nid oedd ar y rhestr, felly rwy'n deall eich bod yn mynd i wneud ymyriad. Rhun.
Diolch yn fawr iawn i chi, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn. Roeddwn i wedi rhoi i fyny ar y gobaith o gael dweud ychydig o eiriau. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn hir, beth bynnag, jest i ddweud rydym ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig yma. Roeddwn i'n meddwl mai jest problem efo tôn y cynnig oedd o yn bennaf, ond ar ôl gwrando ar David Rowlands, mae'n amlwg bod yna broblem ddyfnach na hynny a bod gennym ni blaid o COVID deniers yma yn y Senedd, ac roeddwn i'n siomedig iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, o glywed hynny. Ac mae unrhyw blaid sy'n gofyn am guarantee na fydd yna gyfnod clo arall, er fy mod i'n gobeithio'n fawr na fydd yna un, yn amlwg ddim wedi bod yn cymryd sylw o hynt a helynt y pandemig dros y flwyddyn ddiweddaf. Does yna ddim guarantees efo'r pandemig yma, gymaint ag y buasem ni'n hoffi hynny.
Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr. Dwi ddim yn gweld arian sy'n dod gan Lywodraeth Prydain i Gymru fel act o altrwistiaeth; dwi'n gweld Llywodraeth Prydain yn gorfod gwneud beth mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud o dan reolau'r undeb yma. Ac o ran gwelliannau 3 a 4, beth sydd gennym ni yn fan hyn ydy criw o Aelodau'r Senedd sydd â chyn lleied o feddwl o bobl Cymru eu bod nhw am i bobl Cymru gael cyn lleied o ddylanwad dros eu dyfodol eu hunain â phosibl. A gwelliant y Llywodraeth: cyfres o ddatganiadau, ddim yma nac acw. Mi fyddwn ni'n atal ein pleidlais ar hynny. A, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn ichi.
Diolch. Galwaf yn awr ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl. David.
Wel, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ond fel arfer, wrth gwrs, anwybyddwyd y gwir ffeithiau a'r ffigurau, yn enwedig gan y Gweinidog iechyd. Rwyf wedi rhoi'r ffeithiau a'r ffigurau, ac maent yn ddiamheuol.
Mae'r cyfyngiadau symud yn deillio o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi camreoli bygythiad COVID-19 yn llwyr. Yn 2003, ataliwyd SARS, clefyd llawer mwy marwol a pheryglus, rhag lledaenu drwy wahardd pobl ar unwaith rhag dod i mewn i'r DU o ardaloedd a heintiwyd ac ynysu'r rhai a heintiwyd. Nawr, ar yr unfed awr ar ddeg, y gwelwn y cyfyngiadau hynny'n cael eu rhoi ar waith—achos clasurol o godi pais ar ôl piso.
Fodd bynnag, yr hyn a wnaeth y camreoli oedd amlygu'r gwendidau cynhenid yn y GIG ar draws holl wledydd y DU. Er bod biliynau'n cael eu harllwys i mewn i'r gwasanaeth, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae COVID-19 wedi amlygu pa mor gyfan gwbl annigonol yw nifer y gwelyau a'r cyfleusterau gofal critigol. Cyn belled yn ôl â 2000, ac eto yn 2007, mynegodd adroddiadau bryder ynglŷn â'r nifer gwbl annigonol o welyau o'r fath yng Nghymru. O gofio ein bod bellach yn gweld ein GIG yn cael ei lethu gan ddim ond 200 a mwy o gleifion critigol yng Nghymru gyfan, mae'n amlwg nad yw'r diffyg a nodwyd yn 2000 a 2007 wedi cael sylw. Ceir ffigurau damniol tebyg ar gyfer Lloegr.
Felly, mae'n rhaid gofyn: a yw'r cyfyngiadau symud yn fesurau a roddwyd ar waith i guddio methiannau'r ddwy Lywodraeth i fynd i'r afael â'r materion hyn? Rhaid gofyn hefyd: o ystyried bod y cynnydd sydyn yn nifer y dioddefwyr coronafeirws yn ystod misoedd y gaeaf wedi'i ragweld ers y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth, pam na wnaed dim yn y misoedd ers hynny i ddarparu ar gyfer cynnydd o'r fath? Nid ystadegau yw'r marwolaethau hyn, mae pob un yn drasiedi i bawb a oedd yn caru neu'n gofalu am y rhai a fu farw. Ond yn anffodus, mae marwolaeth yn rhan o fywyd. Mae llawer mwy o berygl y bydd y cyfyngiadau COVID presennol yn arwain at golli bywydau nag at eu hachub.
Lywydd, fe ddechreuaf fy sylwadau clo drwy dynnu sylw at y niwed aruthrol y mae cyfyngiadau symud yn ei wneud i economi ac iechyd y genedl, yn enwedig o ran lles meddyliol, fel y gwelwyd yn y cynnydd sydyn yn nifer y bobl sy'n cyflawni hunanladdiad. Mae hyn i gyd yn dynodi bod yn rhaid i'r cyfyngiadau llym hyn ddod i ben cyn gynted â phosibl.
Fy sylwadau olaf yw i annog pawb i ufuddhau i reolau'r cyfyngiadau symud yn eu cyfanrwydd hyd nes y cânt eu codi, a chael eu brechu cyn gynted ag y caiff ei gynnig. Dyna'r unig ffordd y gwelwn ddiwedd ar gyfyngiadau symud. Daw'r post-mortem ar weithredoedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ddiweddarach. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly fe ohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n atal y cyfarfod cyn bwrw ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r cyfarfod wedi'i atal.