Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am ei adroddiad ar waith craffu'r pwyllgor, ac fel arfer, byddwn yn rhoi sylw, fel y nododd, i bob un o'r meysydd, i sicrhau y caiff y gyfraith ei datgan yn gywir. Fel y dywedais, rwy'n credu ei fod bob amser yn swyddogaeth ddefnyddiol, yn enwedig o ystyried ein bod yn gorfod deddfu'n rheolaidd drwy gydol y pandemig.
Hoffwn groesawu Angela Burns yn ôl i'w swydd yn Weinidog iechyd a gofal cymdeithasol yr wrthblaid. Ymdriniaf â'i chwestiynau—. Dechreuaf gyda theithio rhyngwladol, oherwydd bob wythnos rydym yn adolygu trefniadau teithio rhyngwladol ar sail pedair gwlad. Mae Gweinidogion o bob un o'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig, ynghyd â Gweinidogion y DU, swyddogion a'r prif swyddog meddygol, yn edrych ar y dystiolaeth o ran lle yr ydym ni arni, ac mae'r darlun newidiol nid yn unig o'r sefyllfa o'i chymharu â gwledydd eraill, ond yn enwedig o ran amrywiolion newydd, wedi arwain at newid sylweddol mewn trefniadau teithio rhyngwladol. Hoffwn allu rhoi rhybudd cynharach iddi ynghylch yr hyn sy'n debygol o godi, ond nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny gan fod hon yn dal i fod yn sefyllfa hynod ddeinamig. Rydym yn cyfarfod bob wythnos. Bron bob tro mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau gyda'r gwaith papur a ddarperir a'r sgyrsiau sy'n digwydd mewn cyfnod byr iawn. Felly, er fy mod yn deall y cais am wybodaeth ymlaen llaw, nid wyf yn credu, yn ymarferol, y gallwn wneud hynny, ac nid wyf yn credu y bydd unrhyw Weinidog arall, boed hynny yn Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau'r Alban neu Ogledd Iwerddon mewn sefyllfa i wneud hynny chwaith. Rydym ni'n gwneud dewisiadau. Rydym yn eu gwneud cyn gynted â phosibl. Yna darperir datganiadau rheolaidd, a byddwn yn parhau i'ch diweddaru, tra bo'n rhaid i ni ddiwygio'r rheoliadau mor aml.
O ran y cwestiwn ehangach a ofynnodd am y dyfalu ynghylch gwaharddiadau teithio a gwestai cwarantin ac ati, mae arnaf ofn na allaf fod yn gyfrifol am friffio gan Lywodraethau eraill yn y DU. Rwyf wedi gweld straeon yn y wasg ac rwyf wedi clywed sylwadau gan Weinidogion eraill mewn Llywodraethau eraill nad ydynt yn faterion y bu trafodaeth gyda mi yn eu cylch, ac nad ydynt yn faterion y mae swyddogion wedi cael eu briffio'n briodol yn eu cylch chwaith. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir fy mod eisiau i hynny gael ei wneud yn iawn, fel y dylai gael ei wneud, rhwng ein swyddogion, ac i'r sgwrs a fydd wedyn yn digwydd ar lefel weinidogol gael ei llywio gan gyfnewid gwybodaeth yn briodol rhwng swyddogion. Ar y naill law, oherwydd y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac y mae rhannau eraill o'r byd ynddi, nid yw teithio rhyngwladol yn sylweddol ar hyn o bryd beth bynnag. Fodd bynnag, ni fyddai ond yn cymryd ychydig o deithio i amrywiolion sy'n peri pryder ddod i'r wlad. Rydym ni wedi gweld hynny, er enghraifft, gyda'r nifer gymharol fach o bobl ag amrywiolyn De Affrica ledled y DU, ond mae hynny ynddo'i hun yn broblem, ac mae'n ein hatgoffa pam y mae angen inni barhau i siarad a gweithio cyn belled ag y bo modd ar sail pedair gwlad, a pham y mae angen inni gael perthynas briodol ac adeiladol â Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon hefyd.
O ran pwyntiau ehangach Rhun ap Iorwerth, o ran darpariaeth addysg o bell, credaf fod y Senedd newydd gael cyfle i gwestiynu a chael rhai atebion i gwestiynau gyda'r Gweinidog addysg, a chwestiynau ehangach am ddarparu dysgu o bell, oherwydd mae arnaf ofn ein bod yn annhebygol o weld tarfu ar ddysgu wyneb yn wyneb yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod adolygu hwn. Rydym ni wedi gwneud hynny'n glir iawn ymlaen llaw, ond wrth gwrs byddwn yn parhau i edrych ar yr hyn sy'n bosibl ei wneud o ran darpariaeth addysg o bell, tra byddwn yn chwilio am gyfnod pan ellir dychwelyd at rywfaint o ddysgu wyneb yn wyneb, ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt yr ydym yn gobeithio eu cwblhau gyda CLlLC ac arweinwyr undebau athrawon ac undebau addysg eraill yn hynny o beth.
O ran eich pwynt ehangach am y cyfyngiadau ehangach, nad wyf yn credu eu bod yn destun y pleidleisiau heddiw, ond, wrth gwrs, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau'r rheini ddydd Gwener yr wythnos hon unwaith y bydd y Cabinet wedi cwblhau'r rheini. Rydym bob amser yn edrych ar gyfleoedd i ystyried lle y gallem wneud newidiadau'n ddiogel, ond rwyf eisoes wedi dweud na ddylai neb ddisgwyl unrhyw newid sylweddol, o ystyried faint o bryder sydd yna, o ran faint o bwysau sydd ar ein GIG, gyda chapasiti o 140 y cant mewn gofal critigol heddiw, ond hefyd, er gwaethaf y newyddion da iawn bod pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn yr adroddiad heddiw, y sefyllfa o hyd yw tua 216 o achosion fesul 100,000, sy'n dal yn gymharol uchel. Felly, rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir ond mae angen cynnydd pellach arnom ni i gyd cyn y gallwn ni wneud dewisiadau mwy sylweddol ynghylch llacio llawer mwy sylweddol yn y dyfodol. Gyda hynny, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.