Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Cynigiaf y cynnig ger ein bron ar y ddwy gyfres o reoliadau diwygio sydd ger ein bron heddiw, a'r cyntaf ohonyn nhw yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021. Mae'r rhain yn diwygio rheoliadau'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol a'r cyfyngiadau coronafeirws mwy cyffredinol, sef rheoliadau Rhif 5. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod amrywiolyn newydd o COVID-19 wedi'i ganfod yn ddiweddar ym Mrasil. Mae hyn yn dilyn darganfyddiad cynharach o amrywiolyn newydd o straen o'r feirws yn Ne Affrica. Mae'r mathau hyn yn wahanol i amrywiolyn Caint y DU, ond gallant rannu nodweddion tebyg o ran bod yn fwy trosglwyddadwy. Er mwyn helpu i atal y mathau newydd hyn rhag dod i'r DU, mae'r rheoliadau diwygio hyn yn atal pob coridor teithio.
Bydd angen i'r rhai sy'n dymuno teithio i Gymru nawr ddarparu prawf negyddol cyn teithio, a bod o dan gwarantin am 10 diwrnod. Mae hyn yn cyd-fynd â'r camau tebyg sy'n cael eu cymryd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Frasil gysylltiadau teithio cryf â nifer o wledydd o bob rhan o dde America, gan gynnwys Wrwgwái, Paragwâi, yr Ariannin, Bolifia, Periw, Colombia, Chile, Swrinam a Gaiana Ffrengig. Mae'r rheoliadau hefyd yn dileu'r eithriadau sectoraidd i deithwyr sy'n cyrraedd o'r gwledydd hynny. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol ynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y gall rywun roi'r gorau i ynysu. Bydd y gofynion ynysu tynnach hyn hefyd yn berthnasol i bob aelod o aelwyd teithiwr. Ni fydd awyrennau uniongyrchol o'r gwledydd hyn yn gallu glanio yng Nghymru mwyach.
Yr ail reoliad yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae'r rhain yn sicrhau ei bod yn ofynnol nawr i fanwerthwyr gymryd camau i wneud eu hadeiladau mor ddiogel â phosibl i siopwyr a'u gweithwyr fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys cael mesurau ar waith ar gyfer rheoli mynediad a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd ar y safle, sicrhau bod cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo ar gael i gwsmeriaid, ac atgoffa cwsmeriaid o'r angen i gadw pellter o 2m a gwisgo gorchudd wyneb. Er bod y mesurau hyn eisoes yn ymddangos mewn canllawiau, bydd eu cynnwys ar wyneb y rheoliadau yn atgyfnerthu eu pwysigrwydd ac yn eu gwneud yn haws eu gorfodi. Mae llawer, wrth gwrs, eisoes yn gweithredu yn unol â'r safonau uchel hyn, ond mae angen inni godi'r safon ar gyfer y rhai a allai ac a ddylai wella.
Gwn y bydd Aelodau ar draws y Siambr wedi cael enghreifftiau anecdotaidd gan eu hetholwyr eu hunain yn codi pryderon am yr union faterion hyn. Mae hefyd yn ofynnol i bob busnes ac adeilad gynnal asesiad risg COVID penodol ac i hynny gynnwys ymgynghori â staff a chynrychiolwyr, a bod ar gael i staff. Bydd hyn yn ategu'r cyfreithiau iechyd a diogelwch galwedigaethol presennol. Mae'r rheoliadau diwygio hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i berchenogion pob ysgol a sefydliad addysg bellach beidio â chaniatáu i ddysgwyr fynychu'r safle o 20 Ionawr. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau'n caniatáu i ddisgyblion barhau i fynychu ysgolion a sefydliadau addysg bellach mewn rhai amgylchiadau. Bydd gosod y gofyniad hwn ar sail statudol yn sicrhau cysondeb ac eglurder ledled Cymru. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, y mae'r Llywodraeth yn credu eu bod yn rhan hanfodol o'r ffordd y gallwn ni helpu i gadw Cymru'n ddiogel.