10. & 11. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:57, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi blino ar ddweud a chlywed y gair 'digynsail', ond mae'n wir serch hynny bod pandemig y coronafeirws yn parhau i'n hwynebu gyda dewisiadau a phenderfyniadau na fyddem, mewn amgylchiadau eraill, yn sicr wedi'u hystyried ac y byddem wedi gorfod dod i arfer â byw gyda'r ansicrwydd hwnnw.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai. Rwyf eisiau bod yn gwbl glir mai polisi'r Llywodraeth yw y dylai ddigwydd fel y trefnwyd ac rwyf eisiau i bawb sy'n ymwneud â'r etholiad baratoi ar y sail honno. Mae ar y Senedd angen Llywodraeth sydd â mandad newydd ar frys, yn enwedig i sefyll gydag awdurdod newydd yn erbyn ymdrechion digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio datganoli. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ymdrechion enfawr sy'n cael eu gwneud gan swyddogion canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i sicrhau y gellir cynnal y bleidlais yn ddiogel ym mis Mai, a hoffwn fynegi fy niolch iddyn nhw. Serch hynny, er gwaethaf y ffaith bod lefelau'r haint yn dechrau gostwng, ni allwn ni heddiw fod yn sicr y bydd modd cynnal pleidlais ym mis Mai. Mae'r pandemig yn peri risg a allai atal pleidleiswyr rhag pleidleisio, boed hynny oherwydd salwch neu'r angen i gydymffurfio â'r gofynion i hunanynysu, neu oherwydd yr ofnau sydd ganddyn nhw ynghylch diogelwch mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio'n bersonol. Yn yr un ffordd, mae lefelau uchel o salwch hefyd yn peri'r risg o beidio â chael digon o staff ar gael i weinyddu'r bleidlais, gyda hynny yn ei dro yn peryglu uniondeb yr etholiad ei hun.

Dirprwy Lywydd, dyna pam y gwnaethom ni sefydlu'r grŵp cynllunio etholiadau, a adroddodd ym mis Tachwedd yn cynnig addasiadau i ymateb i effeithiau'r feirws. Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau y gweithredir y rhain a mesurau eraill i wneud etholiadau'n fwy diogel. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno dulliau cadw pellter cymdeithasol a hylendid mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ogystal ag annog cofrestru ar gyfer pleidleisio absennol fel nad oes angen i bleidleiswyr fod yn bresennol yn bersonol os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Ond gan fod y rheolau ar gyfer ein hetholiadau wedi'u nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod angen i ni roi deddfwriaeth ar waith a fydd yn galluogi gohirio'r etholiad os—a dim ond os—yw'r Senedd yn cytuno bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud hi'n amhosibl bwrw ymlaen.

Mae'r Bil hwn, os caiff ei basio, yn galluogi cytuno ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer gohirio'r etholiad pan fetho popeth arall pe bai'r pandemig yn fygythiad difrifol i gynnal yr etholiad yn ddiogel ac yn deg. Mater i'r Llywydd fydd cynnig dyddiad ar gyfer y bleidlais os bydd cynnig gan y Prif Weinidog i'w ohirio. Rhaid i'r dyddiad newydd a bennir ar gyfer yr etholiad fod o fewn chwe mis i 6 Mai ac mae angen cymeradwyaeth y Senedd drwy fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd. Fel amddiffyniad pellach, mae'r Bil yn cynnig swyddogaeth i'r Comisiwn Etholiadol mewn cysylltiad â gohirio. Os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn, rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor iddyn nhw ar fater gohirio.

Felly, mae'r Bil hwn yn cynnwys llawer o fesurau diogelu i sicrhau bod gohirio nid yn unig yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau gwirioneddol ddigynsail, ond os na fyddwn yn cyflwyno'r darpariaethau hyn, byddwn yn colli dewis wrth gefn pwysig wrth ymateb i'r pandemig. Rwyf i a'm cyd-Weinidogion yn credu'n gryf mewn gwneud pleidleisio'n haws ac yn fwy hyblyg, a byddwn wedi hoffi cyflwyno darpariaethau ar gyfer pleidleisio cynnar er mwyn rhoi mwy o ddewis i bobl o ran pryd i bleidleisio'n bersonol, ond rydym wedi derbyn cyngor y gymuned etholiadol y bydd etholiad y Senedd, fel y mae pethau, ac o dan yr amgylchiadau lle bydd etholiad y Senedd yn digwydd ar yr un pryd ag etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu, sy'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, ni ellir cyflawni hyn ar gyfer 6 Mai. Byddwn yn parhau i adolygu pleidleisio cynnar os caiff yr etholiad ei ohirio. Mewn amgylchiadau eithriadol o'r fath, rhaid inni ystyried pob dewis i alluogi pleidleiswyr i gymryd rhan yn yr etholiad. Felly, efallai y byddwn yn dychwelyd at hyn yng Nghyfnod 2.

Er bod y pwyslais yn y cyfryngau wedi bod ar ddyddiad yr etholiad ei hun, mae'r Bil hwn hefyd yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol pwysig eraill a fydd yn cynyddu'r hyblygrwydd ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy ac yn darparu amser ychwanegol o fewn yr amserlen ar ôl yr etholiad os bydd oedi yn y cyfrif.

Mae'r Bil yn byrhau cyfnod y diddymiad er mwyn sicrhau y gellir galw'r Senedd yn ôl hyd yn oed ar ôl i'r ymgyrch etholiadol ddechrau os yw'n hanfodol iddi gyfarfod i ystyried busnes iechyd cyhoeddus brys ynglŷn â'r coronafeirws neu bennu'r dyddiad ar gyfer yr etholiad os bydd yn rhaid gohirio'r etholiad yn y pen draw. Mae diddymiad byrrach yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau ar ohirio yn nes at ddyddiad yr etholiad arfaethedig ac y gall y Senedd barhau i ymateb i'r pandemig, os bydd amgylchiadau'n mynnu bod hynny'n digwydd. Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â natur anrhagweladwy'r pandemig sy'n datblygu. Byddwn yn trafod gyda'r Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer busnes y Senedd yn ystod y cyfnod pan fyddai'r Senedd fel arfer yn cael ei diddymu, ond byddwn yn rhagweld na fyddem yn cyfarfod ar gyfer busnes arall ac eithrio gohirio'r etholiad nac ystyried newidiadau brys i ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â COVID.

Hyd yma, mae'r pandemig wedi gofyn am ddull cyflym a phragmatig, a fydd yn gofyn i ni gyd yn gynrychiolwyr etholedig ganolbwyntio'n fanwl er mwyn ymdrin â'r sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Dyna pam yr ydym ni hefyd yn cynnig bod darpariaethau, wrth gefn, yn cael eu cynnwys i ohirio isetholiadau llywodraeth leol ymhellach.

Natur anrhagweladwy'r pandemig sy'n fy arwain i alw arnoch i gytuno i'r cynnig hwn heddiw a chaniatáu inni fwrw ymlaen â'r Bil hwn o dan weithdrefn y Bil brys. Fel Llywodraeth, byddai'n well gennym allu defnyddio proses arferol y Bil i ganiatáu i'r Senedd graffu'n llawn ar y Bil hwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol yn yr amser sydd ar gael.

Gyda'r etholiad yn prysur agosáu, mae'n well rhoi unrhyw newidiadau i gyfraith etholiadol ar waith ymhell cyn y diwrnod pleidleisio. Mae hyn yn bwysig o ran cynorthwyo gweinyddwyr etholiadol i baratoi ar gyfer yr etholiad a rhoi eglurder iddyn nhw gyflawni eu swyddogaeth hanfodol. Er ein bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, rhaid inni ganiatáu cymaint o amser ag y gallwn iddyn nhw wneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol. Nid yw'r amser a adawyd rhwng nawr a'r diwrnod pleidleisio ym mis Mai yn ddigon i ganiatáu ar gyfer y broses graffu lawn ac i weinyddwyr wneud paratoadau.

Nod y Bil hwn yw cyflwyno newidiadau dros dro mewn ymateb i'r heriau uniongyrchol a gyflwynir gan y pandemig, ac ni fwriedir iddo wneud newidiadau parhaol i'n cyfreithiau etholiadol. Dim ond yn 2021 y bydd y darpariaethau yn y Bil yn berthnasol ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar etholiadau yn y dyfodol. Mae cyfraith etholiadol yn bwnc cymhleth, ac fe ddylid craffu'n drwyadl ar newidiadau parhaol yn y maes hwn.

Ein hamserlen arfaethedig ar gyfer y Bil yw ei gyflwyno yfory, ac yna dadl Cyfnod 1 yr wythnos ganlynol. Bydd Cyfnod 2 a Chyfnodau 3 a 4 yn cael eu cynnal ar ddiwrnodau olynol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 8 Chwefror. O dan yr amserlen hon, gellir cael Cydsyniad Brenhinol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 15 Chwefror. Felly, anogaf yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn a chaniatáu inni ddefnyddio proses y Bil brys ar gyfer y Bil hwn. Diolch, Dirprwy Lywydd.