Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 26 Ionawr 2021.
Pan fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno Bil brys ar y sail bod angen ei ddeddfu'n gyflymach nag y mae proses ddeddfwriaethol arferol y Senedd yn ei ganiatáu, mae hyn yn ei hanfod yn symleiddio prosesau deddfu ac atebolrwydd y Senedd. Felly, dim ond pan fydd argyfwng gwirioneddol ac anrhagweladwy y dylid ei defnyddio.
Dim ond dwywaith o'r blaen y mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r dull hwn o ddeddfu, gyda Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018. Gellid dadlau bod eu cymhellion yn wleidyddol ar y ddau achlysur, ac ni ddylai hyn fod yn wir yn achos Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) y maen nhw bellach yn ceisio caniatâd gan y Senedd i'w gyflwyno.
Cyflwynwyd Bil Etholiad Cyffredinol yr Alban (Coronafeirws), sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth yr Alban i ohirio etholiad cyffredinol yr Alban y tu hwnt i 6 Mai, yn amodol ar bleidlais o Senedd gyfan yr Alban, yn Senedd yr Alban am y tro cyntaf ar 16 Tachwedd 2020. Er iddo gael ei basio drwy amserlen ar garlam, roedd gan Aelodau Senedd yr Alban dros bum wythnos o hyd i ystyried y Bil. Bydd amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn, mewn cyferbyniad, yn rhoi ychydig dros bythefnos o graffu i Aelodau'r Senedd tan Gyfnod 3.
Er bod yr argyfwng pandemig wedi bod yma ers mis Mawrth 2020 ac y buom yn ymwybodol o'r dyddiad ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru ers pum mlynedd, ni wnaeth y Prif Weinidog awgrymu newid mewn rheoliadau tan fis Tachwedd. Felly, rhaid i ni ofyn pam y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa lle mae angen iddi fod yn defnyddio gweithdrefnau brys o'r fath. Ble mae'r rhagwelediad, pan roedd hi'n amlwg y byddai'r pandemig yn dal i fod ar frig yr agenda? Gallai rhai ddweud y gallai'r gostyngiad yn ffydd y cyhoedd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig fod wedi dylanwadu ar eu cymhellion dros geisio'r Bil brys hwn nawr, ond does dim dichon i mi wneud sylw. Er y byddwn yn pleidleisio heddiw i gytuno y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil brys yn y Senedd, gan gydnabod yr angen posibl am oedi yn seiliedig ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n dirywio'n gyflym, dim ond rhoi benthyg ein pleidlais a wnawn. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y mae angen i'r pandemig fod ynddi cyn gofyn am oedi yn yr etholiad, a byddai ein cefnogaeth barhaus yn ei gwneud hi'n ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi beth fyddai'r sefyllfa honno a fyddai'n peri i'r Prif Weinidog ofyn yn ffurfiol am oedi. Nodwn hefyd y byddai mwy o gynnwys yn y Bil, ac rydym yn cydnabod bod rhinwedd i rywfaint o hyn, gan gynnwys y gostyngiad yn y diddymiad i saith diwrnod calendr cyn etholiad. Fodd bynnag, rydym yn pryderu mai dim ond yn ddiweddarach y gellir cyflwyno rhywfaint o gynnwys arfaethedig fel gwelliannau Llywodraeth Cymru.
Fe wnaethom ni gymryd rhan yng ngrŵp cynllunio etholiadau Llywodraeth Cymru yr haf diwethaf, ac mae gennym ni nifer o bryderon o hyd o'r grŵp cynllunio hwnnw, gan gynnwys ymestyn pleidleisio dros nifer o ddiwrnodau, pan fydd pleidleiswyr yn cael eu difreinio pe baen nhw'n credu y byddai pleidleisio ar ddiwrnod arall i Senedd Cymru yn dal yn eu galluogi i bleidleisio dros y comisiynydd heddlu a throseddu; ymestyn oriau pleidleisio o 6.00 a.m. hyd 11:00 p.m. pan na chredir y byddai hyn yn cynyddu nifer y pleidleiswyr; a chynyddu nifer y pleidleisiau dirprwyol, lle na fyddem ni eisiau gweld unrhyw newidiadau a fyddai'n caniatáu i unigolyn weithredu fel dirprwy ar gyfer aelwyd gyfan lle nad ydyn nhw'n perthyn i'w gilydd.
Byddai oedi etholiad cyffredinol Cymru sydd wedi'i amserlennu ar gyfer 6 Mai yn arwain at oblygiadau enfawr, gyda llawer yn teimlo eu bod wedi'u difreinio, yn enwedig gan fod y pandemig wedi taflu goleuni mor ddisglair ar Lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Cynhaliwyd etholiadau mewn nifer o wledydd yn ystod y pandemig, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Sbaen, Ffrainc, Canada, Seland Newydd a De Corea. Fel y dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol polisi iechyd cyhoeddus De Corea wedi hynny, ni nodwyd yr un achos yn ymwneud â'r etholiad yn ystod cyfnod magu'r clefyd o 14 diwrnod. Ac er bod Mr Trump yn honni bod hyn wedi caniatáu i bleidleisiau'r UD gael eu camgyfrif, nid yw hon yn farn eang yn y fan yma. Er nad yw'r Bil arfaethedig yn cynnwys llawer am bleidleisio drwy'r post, byddem yn croesawu rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd pobl yn cael eu hannog i gofrestru.
O ystyried bod etholiadau seneddol yr Alban, etholiadau maerol, etholiadau cynghorau Lloegr ac etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu hefyd i fod i gael eu cynnal y gwanwyn hwn, a wnaiff y Gweinidog ddweud hefyd a oes trafodaethau parhaus ynghylch dull cydgysylltiedig ledled y DU o ymdrin â'r etholiadau hyn? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig bob amser wedi honni y dylai etholiadau Senedd Cymru gael eu cynnal ar 6 Mai 2021 ac eithrio mewn amgylchiadau brys eithriadol. Diolch.