10. & 11. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:08, 26 Ionawr 2021

Mae etholiadau teg a rhydd yn sylfaen unrhyw ddemocratiaeth iach, ac mae'n hen bryd, i siarad yn blaen, i bobl Cymru gael y cyfle i roi chwistrelliad o egni newydd i'r Senedd yma ac i ddewis Llywodraeth newydd ar ôl tymor pum mlynedd o hyd, sy'n barod yn dymor hir iawn mewn termau cymharol—rhy hir yn fy marn i, ond nid yma i drafod hynny ydw i heddiw. Nid ar chwarae bach, felly, mae'r Senedd yma yn cael cais i gydsynio i'r Llywodraeth gyflwyno darn o ddeddfwriaeth fyddai'n galluogi oedi dyddiad etholiadau y Senedd. Wrth drafod adroddiad y grŵp cynllunio etholiadau yn ôl ym mis Tachwedd, mi ddywedodd Adam Price,

'mae'n anodd rhagweld sefyllfa lle byddai'n rhaid gohirio etholiadau'r Senedd erbyn hyn.'

Er hynny, mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos i ni na allwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol, ac mae hynny mor wir. Ers hynny, mi gafodd amrywiolyn newydd o'r feirws ei ganfod, rydym ni'n ôl mewn cyfnod clo llym, a thra bod yr ymdrech frechu'n cynnig gobaith, mae yna gryn ffordd i fynd. Ac er ein bod ni wir eisiau i'r etholiad yma all cael ei chynnal ar 6 Mai, yn sydyn reit mae 6 Mai yn teimlo yn agos iawn. Rydym ni yn cefnogi cais y Llywodraeth i'r Senedd drin y Bil arfaethedig dan y weithdrefn frys, ond nid yn ddiamod. Er gwaethaf yr amserlen dynn, mae'n bwysig bod y craffu ar y Bil yn gadarn a chynhwysfawr. Mae eisiau i'r ddeddfwriaeth ddrafft gael ei chyhoeddi ar y cyfle cynharaf. Mae'r Aelod sydd yng ngofal y Bil eisoes wedi estyn allan at y gwrthbleidiau. Rydym ni'n disgwyl i hynny barhau, ac efo Comisiwn y Senedd hefyd, er mwyn llawn cydnabod y ffaith nad Bil arferol yw hwn a bod angen gwneud popeth i warchod integriti'r broses ddemocrataidd. Iechyd cyhoeddus ac iechyd ein democratiaeth fydd flaenaf yn ein meddyliau ni fel plaid a phob plaid arall, gobeithio, wrth ymdrin â hyn.

Roeddwn i'n sylwi bod datganiad y Llywodraeth sydd ynghlwm â'r cynnig yma yn dweud bod y pandemig yn cynrychioli dau risg i integriti yr etholiad: un i allu etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad ei hun; yr ail i weinyddwyr allu cynnal yr etholiad. Dwi'n meddwl bod yna drydydd risg mawr: nid dyddiad 6 Mai sydd yn bwysig mewn gwirionedd, ond y cyfnod cyn hynny o ymgysylltu â phobl Cymru. Rydyn ni'n sôn am ethol Llywodraeth genedlaethol fydd yn ein tywys ni fel gwlad yn y cyfnod ar ôl COVID. Mae angen cael y drafodaeth honno yn llawn. Ar wahân i'r ffaith mai'r etholiad, tybiwn i, ydy'r peth olaf ar feddyliau llawer o bobl—rhai yn sâl, yn dioddef yn economaidd, rhai wedi colli anwyliaid hyd yn oed—mae yna ystyriaethau ymarferol iawn yn deillio o'r diffyg democrataidd, gwendid cymharol y wasg yng Nghymru, a'r diffyg gallu, hyd yn oed, i ddosbarthu taflenni yn rhannu gwybodaeth am yr etholiad, sy'n beth pwysig iawn mewn etholiad yng Nghymru oherwydd y diffyg yna yn y wasg.

Mae angen eglurder ar y pwynt olaf hwnnw. Mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig gan Siân Gwenllian, mi ddywedodd y Prif Weinidog bod dosbarthu taflenni etholiad yn anghyfreithlon dan reoliadau cyfyngiadau lefel 4. Mi glywais i sôn, rhywun yn dweud, 'Allwch chi rannu faint fynnir o bamffledi gwerthu pitsa ond dim taflenni yn ymwneud â phroses ddemocrataidd mor bwysig.' Ar y llaw arall, mae un o heddluoedd Cymru, dwi'n meddwl, wedi dweud y dylid ei ganiatáu, oherwydd bod rhannu taflenni yn waith na ellir ei wneud o gartref. Felly, mae eisiau eglurder ar hynny. Dwi'n deall bod gwledydd sydd wedi cynnal etholiadau yn y pandemig, fel America, hyd yn oed wedi caniatáu peth ymgyrchu drws i ddrws. Felly, mae eisiau gwybod yn union beth fyddai'n gallu cael ei ganiatáu.

Rŵan, tra bod y cyfryngau cymdeithasol yn opsiwn, dydy pawb ddim yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol—mae'n bwysig iawn cofio hynny. Mae'r post brenhinol yn ddrud iawn. Yn Arfon ar hyn o bryd dwi'n meddwl bod pobl wedi bod heb bost oherwydd COVID yn taro gweithwyr post. Ac o ran y gost, mi oedd y Siartwyr, wrth gwrs, o flaen eu hamser ar un adeg, ar flaen y gad yn eu galwad am wneud etholiadau yn rhydd ym mhob hanfod, nid dim ond i'r cyfoethog. Felly, er gwaethaf cyfyngiadau dealladwy iawn y pandemig, mae'n rhaid diogelu yr egwyddor hwnnw.

Rŵan, i gloi, yn aros efo'r thema tegwch ac integriti'r etholiad, mae yna degwch cynhennid, allwch chi ddadlau, yn y cyfnod diddymu er mwyn diogelu adnoddau cyhoeddus rhag y canfyddiad o gamddefnydd ac i beidio â ffafrio rhai ymgeiswyr dros y lleill. Mi fyddwn ni'n craffu'n ofalus ar y bwriad i gwtogi'r cyfnod diddymu o 21 diwrnod i saith, gan ystyried goblygiadau hynny i ganllawiau purdah y gwasanaeth sifil, trefniadau'r darlledwyr ac ati, ond, yn bwysicach na dim, wrth gwrs, y gafael ar ledaeniad yr haint. Y gwaethaf o'r ddau fyddai Llywodraeth a Senedd sy'n delio â'r don waethaf eto o'r pandemig ar y naill law ond ym merw ymgyrch etholiad ar y llall. Fel dwi'n dweud, mae'n hen bryd cael etholiad. Mi ddylai fo fod ar 6 Mai. Ein dymuniad ni fyddai iddo fo fod bryd hynny, ond, wrth gwrs, mae'r feirws yma wedi profi dros y flwyddyn ddiwethaf ei fod o'n gryn feistr arnom ni—