Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Senedd am gymryd rhan heddiw, gan ddangos yn glir pam y mae'n bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i fod â phresenoldeb cryf a phendant yng Nghymru, gan dderbyn, wrth gwrs, heriau Mick Antoniw, o ran hynny, eu gallu i gyflawni o ran y cyfyngiadau nid yn unig ar eu cyllideb ond hefyd o ran eu perthynas a'n pwerau yma yng Nghymru o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Wrth gwrs, dyna y mae'r ymchwil yr ydym yn ei gwneud yn ein galluogi i edrych arno, i brofi o ran cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, er mwyn i ni ystyried a oes angen i ni ddeddfu yn y maes hwn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau sydd wedi'u gwneud yn y ddadl heddiw, ac yn enwedig Laura Anne Jones, y ffaith eich bod chi wedi canolbwyntio ar rywedd, hawliau menywod, mynediad cyfartal i'r farchnad lafur a'r anawsterau a'r rhwystrau y mae menywod yn dal i'w hwynebu. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol bod gennym y cynllun treialu cyllidebu ar sail rhywedd yn awr o ran cyfrifon dysgu personol, a thrafodwyd hynny gennym yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf, oherwydd mae hynny, mewn gwirionedd, yn nodi lle mae angen i ni dargedu a chanolbwyntio ar rwystrau penodol sy'n wynebu menywod, a'r gwahanu rhwng y rhywiau yn y farchnad lafur o hyd. Ond, wrth gwrs, mae adolygiad Chwarae Teg o gydraddoldeb rhywiol yn rhoi llwybr i ni barhau i fynd i'r afael â llawer o'r materion hynny.
Wrth gwrs, hefyd, mae Leanne yn siarad yn rymus iawn am bwysigrwydd dysgu ac ymgysylltu, fel y mae Martyn Jones wedi'i ddweud, o ran profiad byw y rhai sy'n wynebu anghydraddoldeb ac anfantais. Ac rwy'n credu mai un o'r pwyntiau yr hoffwn i ei wneud—fe wnes i roi ychydig o oleuni ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Dylai'r cynllun hwn ddangos ein hymrwymiad fel Llywodraeth wrth-hiliol a rhaid iddo wneud hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dysgu drwy brofiad byw y rhai sy'n ymgysylltu â ni, drwy gynlluniau mentora, er enghraifft, a grantiau i sefydliadau bach ar lawr gwlad, fel y dywedais i, ond hefyd yn cydnabod bod angen i ni wneud newid diwylliannol gwirioneddol er mwyn cyflawni'r amcanion hynny. Ac rydym wedi treialu llawer o ddulliau drwy'r cynllun gyda'r grŵp llywio, er enghraifft, dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna a'r Ysgrifennydd Parhaol, sydd, wrth gwrs, yn newid sylweddol iawn yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, mae Leanne ac, yn wir, Mick Antoniw yn gwbl glir ynglŷn â'r her sydd gennym o ran anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a ddaeth drwodd yn glir iawn o ran y gwaith a wnaed gan ein grŵp cynghori ar COVID-19 du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—bod angen i ni edrych ar effeithiau economaidd-gymdeithasol y coronafeirws ar bobl a chymunedau o ran y ffactorau economaidd-gymdeithasol ac nid ffactorau clinigol yn unig a allai fod yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly, unwaith eto, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yr ydym ni'n ei deddfu yn arwydd hollbwysig o ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddeddfu hynny.
Mae gennyf ddiddordeb hefyd fod llawer o alwadau yn Lloegr i hyn gael ei ddeddfu—Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn benderfynol o'i ddeddfu ac rwy'n credu bod cefnogaeth gref yn y Senedd hon hefyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gewch yn eich pwyllgorau. Unwaith eto, tynnwyd sylw'n glir at hynny yn y pwyllgor dan gadeiryddiaeth John Griffiths fel ffordd hollbwysig ymlaen o ran mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol o ran anghydraddoldeb.
Felly, o ran ymateb i adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr ydym wedi cael rhywfaint o fewnwelediad i'w gwaith a'u blaenoriaethau yng Nghymru, a hefyd yn cydnabod, fel yr wyf i wedi nodi, ffyrdd y gallwn gydweithio i gyflawni'r cyfleoedd y gallwn ni eu rhannu o ran cryfhau cydraddoldeb a hyrwyddo hawliau dynol. Ond o heddiw ymlaen, mae'n ymwneud â'r cyfle sydd gennym i gyflawni dros bobl Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, gan ganolbwyntio, fel yr ydym yn awr, ar effaith y coronafeirws ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Ac yn olaf, dweud, fel y gwyddoch chi ac fel y dywedwyd yn glir iawn gan Lywodraeth Cymru a chan y Prif Weinidog, ac, yn wir, y Cwnsler Cyffredinol o ran adferiad, bod cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd cynlluniau adfer a pharhad. Ac mae'n rhaid i'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, fel y gofynnodd Leanne Wood, arwain a llywio pob penderfyniad a wnawn yn Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.