12. Dadl: Adroddiad Effaith Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20

– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:32, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr rwy'n bwriadu trosglwyddo'r cadeirio yn ôl i David Melding ar gyfer eitem 12, sy'n ddadl ar adroddiad effaith pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2019-20. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig y cynnig—Jane Hutt.

Daeth David Melding i’r Gadair.

Cynnig NDM7496 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Effaith Cymru 2019-20 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:32, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar adroddiad effaith Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ar gyfer 2019-20. Mae hwn yn gyfnod digynsail ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU ac mae cymunedau wedi bod yn wynebu heriau eithriadol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod rhai pobl yn cael eu heffeithio'n anghymesur ac yn anffafriol yn fwy nag eraill. Hoffwn ddiolch i'r cadeiryddion dros dro, Dr Alison Parken a Martyn Jones, a staff a bwrdd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu gwaith parhaus yn tynnu sylw at anghydraddoldebau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac ar gyfer yr adroddiad effaith hwn.

Yn eu hadroddiad, tynnodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sylw fel un o'u meysydd blaenoriaeth at bwysigrwydd addysg wrth greu cymdeithas fwy cyfartal a theg. Yn y cwricwlwm newydd, bydd dysgwyr yn archwilio'r cyd-destun lleol, cenedlaethol a byd-eang i bob agwedd ar ddysgu. Byddan nhw'n dysgu sut i wneud cysylltiadau a datblygu dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol. Fis Gorffennaf diwethaf, penododd y Gweinidog Addysg yr Athro Charlotte Williams i gadeirio'r gweithgor cymunedau, cyfraniadau a chynefin pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd. Mae gwaith y gweithgor yn cynnwys—ond yn mynd y tu hwnt i—hanes pobl dduon, i ystyried amrywiaeth o ethnigrwydd lleiafrifol yn rhan o stori Cymru. Mae'r aelodau yn cynnwys ymarferwyr profiadol a chyfranwyr i hanes pobl dduon, Asiaidd a hanes lleiafrifoedd ethnig a Chymru.

Mae trafnidiaeth hefyd yn thema polisi allweddol. Mae'n hanfodol i gyflogaeth, addysg a'r cyfle i fanteisio ar wasanaethau, ac mae'n effeithio ar ein lles a'n hiechyd cymdeithasol a chymunedol. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddarparu cyngor a gwybodaeth amhrisiadwy i lywio datblygiad y strategaeth drafnidiaeth, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch profiadau pobl hŷn a phobl anabl o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ddoe, ond mae 'Llwybr Newydd' yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy.

Er bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sôn am gyfiawnder troseddol, mae hwn yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl, ond mae llawer o'r gwasanaethau sydd eu hangen i gefnogi troseddwyr, cyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu wedi'u datganoli, ac yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Y llynedd, cyhoeddodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ei adroddiad, 'Cyfiawnder yng Nghymru i Bobl Cymru', ac yn arbennig o berthnasol yw'r canfyddiad bod ariannu gwasanaethau cyngor cyfreithiol drwy gymorth cyfreithiol yn golygu nad yw'r cyfle i fanteisio ar gyfiawnder ar gael i bawb ledled Cymru. Tynnodd y comisiwn ar gyfiawnder sylw at heriau cyngor cynyddol mewn rhai meysydd, risgiau difrifol i gynaliadwyedd hirdymor llawer o bractisau cyfreithiol. Ond wrth gydnabod hyn, gall darparwyr cyngor a gweithwyr y sector cyhoeddus gael eu hyfforddi gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu fel y gallant ymateb yn well i anghenion eu cleientiaid.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r gronfa gynghori sengl i helpu i ateb y galw cynyddol am gyfle i fanteisio ar wasanaethau cynghori. Mae deg miliwn o bunnoedd o gyllid grant ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor o fis Ionawr y llynedd tan fis Mawrth eleni. Mae'n bwysig i ni gydnabod bod gwasanaethau cynghori wedi gorfod newid, gyda darparwyr y gronfa gynghori sengl yn trosglwyddo eu gwasanaethau cynghori wyneb yn wyneb i sianeli o bell—ffôn, e-bost, sgwrs ar y we—ymrwymiad enfawr gan y darparwyr i drosglwyddo eu gwasanaethau, ond estyn at gynifer.

Bwriad y Llywodraeth hon o hyd yw cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a ddaw i rym erbyn 31 Mawrth. Bydd y ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus ystyried yr effaith economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol, ac rwy'n falch bod ein Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn. Ond rydym ni wedi gweithio'n agos gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i baratoi ar gyfer y cychwyn, ac i sicrhau bod y ddyletswydd yn cyflawni ei heffaith arfaethedig. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni wedi cymryd camau mewn nifer o feysydd eraill lle mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymgysylltu â ni: cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Cymru, y cynllun gweithredu LGBT+, ymchwil i effaith COVID-19 ar bobl anabl—rydym ni'n aros am adroddiad sydd wedi'i gomisiynu gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd ar y pwnc penodol hwnnw—ond hefyd, yn bwysig, ymchwil i gyfleoedd i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol nodi ein bod ni wedi gweithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Cymru sydd wedi'u cyd-ddatblygu, yn enwedig y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, sy'n cynnwys grwpiau ar lawr gwlad, pobl ifanc, pobl hŷn, ynghyd â rhwydweithiau staff Llywodraeth Cymru, gyda staff du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan yn y weledigaeth ar gyfer y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi chwarae rhan yn ein grŵp llywio, yn yr ymchwil i gyfleoedd i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Rydym ni wedi cael llawer o alwadau am weithredu i gryfhau a gwella ein cydraddoldeb a'n hawliau dynol yng Nghymru. Rydym ni wedi comisiynu ymchwil i lywio trafodaethau yn y dyfodol, a disgwylir adroddiad drafft fis nesaf.

Mae adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n cael ei drafod heddiw yn rhoi blas byr i ni o waith y comisiwn yng Nghymru, ac mae'n parhau i bwysleisio pwysigrwydd cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i fywyd Cymru, i wella bywydau a diogelu hawliau ac i helpu i greu Cymru fwy cyfartal. Diolch yn fawr.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:38, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma ar yr adolygiad blynyddol o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r adolygiad yn nodi pum nod blaenoriaeth ar gyfer cryfhau'r cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a'r pethau hynny yr hoffwn i fynd i'r afael â nhw yn fy sylwadau heddiw.

Eu nod cyntaf yw hyrwyddo cyfle cyfartal i fanteisio ar y farchnad lafur. Y ffaith drist yw bod menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y gweithlu. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gweithio mewn swyddi rhan-amser, ar gyflog isel, ac yn aml mae'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd ynghylch p'un ai gweithio neu ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ofalu am eu plant. O ganlyniad, mae cyfraddau tlodi yng Nghymru yn dal yn ystyfnig o uchel. Mae cysylltiad agos rhwng risg menywod o dlodi a'u sefyllfa yn y farchnad lafur ac o fewn aelwydydd. Fel ail enillwyr cyflog neu brif ofalwyr, mae llawer o fenywod nad oes ganddynt fawr o incwm annibynnol, gan eu gadael yn arbennig o agored i dlodi pe byddai eu perthynas yn chwalu. Mae gan hyn effaith uniongyrchol ar dâl a chynnydd ac mae'n cyfrannu at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan TUC Cymru ym mis Mawrth yn dangos bod bylchau cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 25 y cant mewn rhai rhannau o Gymru. Mae gan Chwarae Teg weledigaeth i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang ym maes cydraddoldeb rhywiol, lle gall pob menyw gyrraedd ei llawn botensial, ac rwyf i'n rhannu'r weledigaeth honno'n fawr. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nod blaenoriaeth arall—hybu cydraddoldeb yn y system addysg. Rwy'n pryderu bod cyngor gyrfaoedd, yn rhy aml o lawer, yn tueddu i arwain menywod tuag at brentisiaethau mewn sectorau lle mae cyflog yn llai nag yn y rhai sy'n cael eu dominyddu gan ddynion. Mae prentisiaethau'n aml yn llwybr at yrfaoedd mewn sectorau anhraddodiadol, ac mae'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau hyd yn oed yn fwy amlwg yma. Menywod oedd yn cyfrif am ddim ond 2.4 y cant o'r rhai a dechreuodd brentisiaethau ym maes adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu yn 2017-18. Fel y gwnaeth Ysgol Economeg Llundain ei ddarganfod, er mwyn atal anghydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy ysgolion, yn ogystal â mynd i'r afael â'i fodolaeth mewn cymdeithas yn gyffredinol, mae mentrau i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol mewn ysgolion a drwy ysgolion yn hanfodol. Mae gan ysgolion botensial enfawr i sicrhau newid mewn cysylltiadau, safbwyntiau ac arferion rhywedd. 

Llywydd dros dro, hoffwn i ddweud ychydig eiriau am y nod blaenoriaeth o gefnogi cynhwysiant economaidd a chymdeithasol pobl anabl a phobl hŷn drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, nid oes gan 21 y cant o orsafoedd rheilffordd Cymru fynediad heb risiau o hyd, sy'n golygu nad ydyn nhw'n hygyrch i deithwyr hŷn ac anabl. Roedd pob trên yn y DU i fod yn gwbl hygyrch erbyn mis Ionawr 2020, ond nid yw rhai cerbydau'n cydymffurfio â'r gyfraith o hyd, ac mae gan nifer o orsafoedd risiau serth a dim lifftiau na rampiau i bobl gael mynediad i lwyfannau. Mae'r elusen Leonard Cheshire wedi honni bod bywydau pobl anabl yn cael eu difetha gan orsafoedd lleol anhygyrch, ac nad yw trenau'n addas i'r diben. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom ni nodi diwrnod rhyngwladol pobl anabl. Roedd hyn yn gyfle i ni ailadrodd ein hymrwymiad i greu cymunedau cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i'r anabl yma yng Nghymru. Bydd mynd i'r afael â phroblem hygyrchedd trafnidiaeth i'n pobl anabl a'n pobl hŷn yn ein galluogi i wneud hynny. 

Llywydd dros dro, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r nodau y mae'n eu nodi i ddileu rhwystrau i gyfle cyfartal wrth i ni symud ymlaen i greu Cymru deg, gyfartal a chynhwysol. Diolch.  

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:42, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon gyda dyfyniad gan gadeirydd pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Martyn Jones: 'Y tu ôl i'r ystadegau mae pobl go iawn sydd â phrofiadau byw o wahaniaethu ac anghydraddoldeb. Mae angen i ni daflu goleuni ar y cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bob grŵp mewn cymdeithas o ddydd i ddydd. Rhaid inni newid y naratif o un o faich a negyddoldeb i un sy'n grymuso unigolion i fod yr hyn y maent am fod waeth beth fo'u hoedran, eu rhyw neu eu cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin ag urddas a pharch.'

Byddem ni ym Mhlaid Cymru yn cytuno. Rydym ni eisiau i Gymru fod yn gymdeithas deg a chyfiawn lle mae pawb yn cael eu trin yn gyfartal ac yn mwynhau'r un hawliau, waeth beth fo'u rhywedd, ethnigrwydd, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae'n rhaid cydnabod profiadau byw go iawn o wahaniaethu ac anghydraddoldeb wrth lunio polisïau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth. Dyna pam rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym ym mis Mawrth 2021, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddull traws-Lywodraeth o leihau anghydraddoldeb a thlodi drwy fodel canlyniadau cenedlaethol. Mae'r cynnydd da hwn yn wahanol i'r Torïaid yn San Steffan, sy'n ymddangos yn benderfynol o danseilio hawliau dynol, ac mae honno'n ddadl gref o blaid ceisio'r cyfrifoldeb dros ddatganoli deddfwriaeth cydraddoldeb i Gymru.

Er i'r rhan fwyaf o'r gwaith sydd wedi'i amlygu yn yr adroddiad hwn gael ei wneud cyn pandemig y coronafeirws, ni allwn ni anwybyddu'r cyd-destun presennol o safbwynt cydraddoldeb. Mae COVID wedi effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn a phobl anabl, ac mae'r effeithiau yn cynnwys marwolaethau, bod wedi'u hynysu o deulu a ffrindiau, yn ogystal ag effeithiau sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae llai o ofal ar gael ac mae cyflwyno mesurau ynysu wedi arwain at bron i 200,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl ers dechrau'r pandemig.

Mae tua chwarter poblogaeth oedolion Cymru—700,000 o bobl—yn gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind ar hyn o bryd. Rwyf i eisiau gweld y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i roi cydraddoldeb wrth wraidd gwaith cynllunio adfer o'r pandemig Llywodraeth Cymru, datblygu polisi a gweithredu, gan gynnwys asesu'r effaith ar gydraddoldeb a chyhoeddi'r asesiadau hyn. Dylai cymunedau a grwpiau sydd wedi'u heffeithio gael eu hannog a'u galluogi i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae gennym ni gyfle i gydraddoli ar ôl COVID. Gadewch i ni wneud yr hyn a allwn ni i gyflawni hynny.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:45, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r adroddiad a'r ddadl rydym ni'n ei chael yn y Senedd heddiw. Mae'n ddadl braidd yn rhyfedd, oherwydd mae'n ymwneud â sefydliad yn y DU, ar swyddogaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli, sydd wedi adrodd i'r Senedd hon, y byddwn ni'n pleidleisio arno, ac ychydig iawn o lais sydd gennym ni yn y mandad a'r fframwaith y mae'n gweithredu oddi mewn iddyn nhw. Felly, hoffwn i fynegi fy anfodlonrwydd â'r hyn sydd, yn fy marn i, yn adroddiad dihyder a'i gynnwys, ac, yn wir, cyflwr hawliau dynol yng Nghymru a'r DU, sydd, yn fy marn i, yn ganlyniad uniongyrchol i weithredoedd y Llywodraeth Dorïaidd hon yn San Steffan.

Nawr, nid wyf i'n beirniadu staff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ond rwy'n beirniadu cyfeiriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sydd, ers 2010, wedi'i israddio flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn 2007, pan gafodd ei sefydlu, roedd ganddo gyllideb o £70 miliwn. Eleni, tua 13 mlynedd yn ddiweddarach, mae ganddo gyllideb o £17 miliwn. Felly, nid yw'n syndod ei fod mor gyfyngedig yn yr hyn y gall ei wneud ac, o fy amcangyfrif i, mae wedi cael rhywbeth tebyg i doriad o 500 y cant a mwy yn ei adnoddau. Ni ddylai hynny fod yn syndod i ni, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi israddio hawliau dynol yn union fel y mae wedi israddio, er enghraifft, yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch. Mae'r cyrff hyn a ddylai fod ar flaen y gad o ran hawliau dynol a hawliau diogelwch gweithwyr wedi'u gwanhau yn fwriadol i bob pwrpas. Mae Prif Weinidog y DU a'i ragflaenwyr, o'r diwrnod cyntaf, wedi ymosod ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ac, fel y gwyddom ni i gyd, hyd yn oed wedi ceisio pasio deddfau i ganiatáu i Lywodraeth y DU dorri cyfraith ryngwladol, ac mae Ceidwadwyr Cymru wedi cydweithio yn yr agenda honno.

Gan droi at yr adroddiad ei hun, yn fy marn i, mae'n gwbl annigonol a siomedig. Mae'r manylion yn gyfyngedig ac nid yw'n adrodd ar rai o'r heriau mawr sy'n wynebu Cymru. Yn wir, mae mwy o fanylion yn adroddiad y DU sy'n ymwneud â Chymru nag sydd yn adroddiad Cymru. Nid yw'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â lleihau’r cyfle i fanteisio ar gyfiawnder yng Nghymru, y llysoedd yn cael eu cau. Nid yw'n cyfeirio mewn unrhyw ffordd at y ffordd y mae nawr gan ein cymunedau cyfleoedd cyfyngedig o ran manteisio ar gyfiawnder ac, mewn gwirionedd, oni bai am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i rwydweithiau cyngor ar bopeth i ddinasyddion, ni fyddai braidd dim cyfle i fanteisio ar gyfiawnder i gynifer o bobl yng Nghymru. Nid yw'n gwneud unrhyw sylw defnyddiol ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar anghydraddoldeb a thlodi, ac nid oes sôn hyd yn oed am gyflwyniad trychinebus credyd cynhwysol. Rhan o'r broblem yw bod ei mandad yn awr gan Lywodraeth y DU wedi'i leihau gymaint fel ei bod bron yn anweledig. Rwy'n credu ei bod yn bryd datganoli swyddogaethau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn llawn, ac rwy'n dweud yr un peth o ran yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch. Ni allaf i weld sut y gall y cyrff hyn weithredu'n effeithiol mwyach nes bod eu sefydliad a'u mandad wedi'u datganoli a'u bod yn dod yn gwbl atebol i'r Senedd hon a thrwy hynny i bobl Cymru. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:48, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

A'r Gweinidog i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:49, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Senedd am gymryd rhan heddiw, gan ddangos yn glir pam y mae'n bwysig bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i fod â phresenoldeb cryf a phendant yng Nghymru, gan dderbyn, wrth gwrs, heriau Mick Antoniw, o ran hynny, eu gallu i gyflawni o ran y cyfyngiadau nid yn unig ar eu cyllideb ond hefyd o ran eu perthynas a'n pwerau yma yng Nghymru o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Wrth gwrs, dyna y mae'r ymchwil yr ydym yn ei gwneud yn ein galluogi i edrych arno, i brofi o ran cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol, er mwyn i ni ystyried a oes angen i ni ddeddfu yn y maes hwn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniadau sydd wedi'u gwneud yn y ddadl heddiw, ac yn enwedig Laura Anne Jones, y ffaith eich bod chi wedi canolbwyntio ar rywedd, hawliau menywod, mynediad cyfartal i'r farchnad lafur a'r anawsterau a'r rhwystrau y mae menywod yn dal i'w hwynebu. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol bod gennym y cynllun treialu cyllidebu ar sail rhywedd yn awr o ran cyfrifon dysgu personol, a thrafodwyd hynny gennym yn y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf, oherwydd mae hynny, mewn gwirionedd, yn nodi lle mae angen i ni dargedu a chanolbwyntio ar rwystrau penodol sy'n wynebu menywod, a'r gwahanu rhwng y rhywiau yn y farchnad lafur o hyd. Ond, wrth gwrs, mae adolygiad Chwarae Teg o gydraddoldeb rhywiol yn rhoi llwybr i ni barhau i fynd i'r afael â llawer o'r materion hynny.

Wrth gwrs, hefyd, mae Leanne yn siarad yn rymus iawn am bwysigrwydd dysgu ac ymgysylltu, fel y mae Martyn Jones wedi'i ddweud, o ran profiad byw y rhai sy'n wynebu anghydraddoldeb ac anfantais. Ac rwy'n credu mai un o'r pwyntiau yr hoffwn i ei wneud—fe wnes i roi ychydig o oleuni ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol. Dylai'r cynllun hwn ddangos ein hymrwymiad fel Llywodraeth wrth-hiliol a rhaid iddo wneud hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dysgu drwy brofiad byw y rhai sy'n ymgysylltu â ni, drwy gynlluniau mentora, er enghraifft, a grantiau i sefydliadau bach ar lawr gwlad, fel y dywedais i, ond hefyd yn cydnabod bod angen i ni wneud newid diwylliannol gwirioneddol er mwyn cyflawni'r amcanion hynny. Ac rydym wedi treialu llawer o ddulliau drwy'r cynllun gyda'r grŵp llywio, er enghraifft, dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna a'r Ysgrifennydd Parhaol, sydd, wrth gwrs, yn newid sylweddol iawn yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, mae Leanne ac, yn wir, Mick Antoniw yn gwbl glir ynglŷn â'r her sydd gennym o ran anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, a ddaeth drwodd yn glir iawn o ran y gwaith a wnaed gan ein grŵp cynghori ar COVID-19 du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—bod angen i ni edrych ar effeithiau economaidd-gymdeithasol y coronafeirws ar bobl a chymunedau o ran y ffactorau economaidd-gymdeithasol ac nid ffactorau clinigol yn unig a allai fod yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly, unwaith eto, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yr ydym ni'n ei deddfu yn arwydd hollbwysig o ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddeddfu hynny.

Mae gennyf ddiddordeb hefyd fod llawer o alwadau yn Lloegr i hyn gael ei ddeddfu—Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn benderfynol o'i ddeddfu ac rwy'n credu bod cefnogaeth gref yn y Senedd hon hefyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gewch yn eich pwyllgorau. Unwaith eto, tynnwyd sylw'n glir at hynny yn y pwyllgor dan gadeiryddiaeth John Griffiths fel ffordd hollbwysig ymlaen o ran mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol o ran anghydraddoldeb.

Felly, o ran ymateb i adroddiad effaith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr ydym wedi cael rhywfaint o fewnwelediad i'w gwaith a'u blaenoriaethau yng Nghymru, a hefyd yn cydnabod, fel yr wyf i wedi nodi, ffyrdd y gallwn gydweithio i gyflawni'r cyfleoedd y gallwn ni eu rhannu o ran cryfhau cydraddoldeb a hyrwyddo hawliau dynol. Ond o heddiw ymlaen, mae'n ymwneud â'r cyfle sydd gennym i gyflawni dros bobl Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, gan ganolbwyntio, fel yr ydym yn awr, ar effaith y coronafeirws ar gydraddoldeb a hawliau dynol.

Ac yn olaf, dweud, fel y gwyddoch chi ac fel y dywedwyd yn glir iawn gan Lywodraeth Cymru a chan y Prif Weinidog, ac, yn wir, y Cwnsler Cyffredinol o ran adferiad, bod cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd cynlluniau adfer a pharhad. Ac mae'n rhaid i'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, fel y gofynnodd Leanne Wood, arwain a llywio pob penderfyniad a wnawn yn Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:54, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n credu bod gwrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:54, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod cyn i ni symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:55.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:59, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.