Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Ionawr 2021.
Wel, Llywydd, mae llawer iawn wedi digwydd ers i'r Aelod ofyn y cwestiwn hwnnw i mi, yn enwedig ymyrraeth argyfwng pandemig byd-eang. Yn yr argyfwng, mae'r Cabinet cyfan wedi cymryd diddordeb uniongyrchol mewn ymdrin â thlodi plant yma yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y camau ymarferol hynny y gallwn ni eu cymryd sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd a fyddai fel arall yn cael eu tynnu oddi wrthyn nhw neu i ychwanegu arian at eu hincwm wythnosol. Mae hwnnw yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth gyfan. Fe'i harweinir gan fy nghyd-Weinidog Julie James, ond ar draws y Llywodraeth gyfan rydym ni wedi neilltuo'r cyfrifoldebau sydd gennym ni a'r cyllidebau sydd gennym ni i gynnig y cymorth ymarferol y gallwn ni ei ddarparu yma yng Nghymru.