1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Ionawr 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Medi 2019 gofynnais i chi nodi cyfrifoldebau disgwyliedig arweinydd newydd yr adolygiad tlodi plant. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y canfyddiadau allweddol yn deillio o'u gwaith?
Wel, Llywydd, mae llawer iawn wedi digwydd ers i'r Aelod ofyn y cwestiwn hwnnw i mi, yn enwedig ymyrraeth argyfwng pandemig byd-eang. Yn yr argyfwng, mae'r Cabinet cyfan wedi cymryd diddordeb uniongyrchol mewn ymdrin â thlodi plant yma yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y camau ymarferol hynny y gallwn ni eu cymryd sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd a fyddai fel arall yn cael eu tynnu oddi wrthyn nhw neu i ychwanegu arian at eu hincwm wythnosol. Mae hwnnw yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth gyfan. Fe'i harweinir gan fy nghyd-Weinidog Julie James, ond ar draws y Llywodraeth gyfan rydym ni wedi neilltuo'r cyfrifoldebau sydd gennym ni a'r cyllidebau sydd gennym ni i gynnig y cymorth ymarferol y gallwn ni ei ddarparu yma yng Nghymru.
Mae sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru wedi galw arnoch chi i gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tlodi plant, ac mae'n destun gofid mai dim ond nawr y maen nhw'n cael eu cyhoeddi o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth. Fodd bynnag, maen nhw'n ddadlennol iawn. Nid yn unig y maen nhw'n groes i bolisi eich Llywodraeth eich hun, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni ym Mhlaid Cymru ac eraill wedi bod yn ei argymell. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw, a dyfynnaf, nad yw llawer o'r rhai sydd mewn angen yn gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim, a'i ganfyddiad canolog, fel y mae'n mynd ymlaen i'w ddweud, yw:
Yr awgrym mwyaf cyffredin oedd yr angen i ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc.
Prif Weinidog, pam ydych chi'n dal i wrthsefyll yr argymhelliad hwn?
Wel, dydyn ni ddim yn gwrthsefyll yr argymhelliad. Llywydd, bydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud i gymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn golygu y bydd miloedd yn fwy o blant yng Nghymru yn gallu manteisio ar brydau ysgol am ddim na'r hyn a oedd yn wir o dan y drefn gymhwysedd flaenorol. Felly, mae'n gwbl anwir i ddweud nad ydym ni wedi cymryd i ystyriaeth yr hyn a ddyfynnwyd yn gwbl deg gan yr Aelod fel rhywbeth nad yw'n bolisi gan y Llywodraeth, ond ein barn ar yr awgrymiadau a wnaed i ni yn ystod yr adolygiad. Nawr, daeth yr adolygiad i ben cyn i'r pandemig byd-eang ddechrau. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu ar sicrhau'r incwm mwyaf posibl ar gyfer tlodi plant. Rhan o'r cynllun hwnnw a wnaeth ein harwain ni i fuddsoddi £52 miliwn ychwanegol mewn prydau ysgol am ddim yn y flwyddyn ariannol gyfredol i sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn parhau i gael eu darparu yn ystod gwyliau ysgol yma yng Nghymru. Mae'n ymateb uniongyrchol iawn i'r sylwadau a gasglwyd yn ystod yr adolygiad.
Wrth gwrs, mae'r camau sydd wedi eu cymryd nawr yn ystod y pandemig i'w croesawu, ond mae'r comisiynydd plant wedi gwneud y pwynt bod angen i ni weld yr adolygiad, sy'n edrych ar yr hyn y gellir ei wneud y tu hwnt i'r uniongyrchol, yn cael ei droi yn gynllun gweithredu pendant. Mae llawer o bobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth leiaf hael o ran prydau ysgol am ddim ledled y DU. Mae polisi eich Llywodraeth, fel y nododd y grŵp gweithredu ar dlodi plant, yn golygu bod 70,000 o blant sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru wedi'u hallgáu ar hyn o bryd, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru, ynghyd â llawer o'r rheini a ymatebodd i'r adolygiad hwn—elusennau, pobl ifanc, awdurdodau lleol—wedi dadlau dros ymestyn prydau ysgol am ddim ar unwaith i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol. Rydym ni'n gwybod eich bod chi wedi cyfrifo costau hynny, Prif Weinidog, oherwydd dywedasoch wrthym ni yr wythnos diwethaf, ond beth yw'r gost hirdymor o ganiatáu i dlodi plant barhau? Bydd plant Cymru yn flaenoriaeth yn ein maniffesto ni—a allwch chithau ddweud hynny hefyd, Prif Weinidog?
Llywydd, mae'n amlwg yn hurt i awgrymu mai ein dull o ymdrin â phrydau ysgol am ddim yw'r lleiaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf un yn y Deyrnas Unedig i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol. Rydym ni wedi gweld y ffordd y cafodd Llywodraeth y DU ei llusgo yn cicio ac yn sgrechian i'r un sefyllfa o ganlyniad i ymgyrchoedd, ymgyrchoedd yn nodi'r camau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn ôl yn yr hydref. Rwyf i wedi cael cyfle i drafod yn uniongyrchol gyda'r comisiynydd plant yr adroddiadau y mae hi ei hun wedi eu darparu ar, er enghraifft, costau'r diwrnod ysgol, gan gynnwys prydau ysgol am ddim. Mae ein cynllun gweithredu ar sicrhau'r incwm mwyaf posibl yn tynnu'n helaeth iawn ar argymhellion y comisiynydd. Dyna pam yr ydym ni wedi dyblu a dyblu eto nifer yr adegau yn ystod gyrfa ysgol person ifanc y gall plentyn gael yr hyn a arferai gael ei alw yn grant gwisg ysgol ac y gellir ei ddefnyddio bellach, wrth gwrs, at amrywiaeth lawer ehangach o ddibenion. Dyna'r camau ymarferol y gallwn ni eu cymryd, a phan fo'r Llywodraeth hon yn dweud y byddwn ni'n gwneud rhywbeth, byddwn ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn ymarferol, y bod modd ei gyflawni a'i fod yn fforddiadwy, ac mae'r rheini'n rhwymedigaethau sydd, yn fy marn i, yn disgyn ar unrhyw blaid sy'n ceisio bod yn rhan o Lywodraeth. Edrychaf ymlaen at weld ei blaid ef yn gallu esbonio nid yn unig sut y maen nhw'n mynd i ddarparu prydau ysgol am ddim i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy'n cael credyd cynhwysol, ond ochr yn ochr â phopeth arall y mae ei blaid yn honni ei bod yn gallu ei ddarparu. Yna bydd pobl yn gwybod eu bod nhw'n cael cynnig cyfrifol, nid cynnig sydd wedi'i gynllunio dim ond i ddenu pennawd.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd llawer o bwyslais yr wythnos diwethaf ar y targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Clywais eich ymateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben ein bod ni'n gwybod yn eglur pa un a ydych chi wedi cyflawni'r targed hwnnw ai peidio. Dywedasoch yr wythnos diwethaf y bydd gennych chi wybodaeth o ddydd i ddydd yn eich meddiant a allai roi'r darlun diweddaraf i chi. Nid oedd y Gweinidog iechyd yn gallu cadarnhau hynny ddoe yn y gynhadledd i'r wasg, ond a allwch chi roi ymateb syml i ni heddiw, os gwelwch yn dda? A ydych chi wedi cyflawni' targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwyf i eisoes wedi rhoi ateb i'r cwestiwn hwnnw y prynhawn yma. Gwn fod llawer o bwyslais yr wythnos diwethaf ar bethau eraill hefyd, ond mae angen i'r Aelod wrando ac yna byddai'n gwybod bod ei gwestiwn wedi cael ei ateb eisoes. Mae'r data yn dal i ddod i mewn, ond mae'r ffigurau sydd gennym ni yn dangos bod 72 y cant o bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal eisoes wedi cael eu brechu. Nid dim ond cynnig brechiad yw hynny—eisoes wedi'u brechu yw hynny. Ni fyddwn ni'n cyrraedd y 70 y cant ar gyfer pobl dros 80 oed oherwydd yr ymyriad i'r rhaglen frechu a ddigwyddodd ddydd Sul a bore dydd Llun. Nid wyf i'n fodlon gwneud pobl dros 80 oed i deimlo dan bwysau i ddod allan i gael eu brechu pan fyddan nhw eu hunain yn penderfynu nad yw'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Bydd pob un o'r bobl hynny wedi cael cynnig cyfle arall i gael eu brechu erbyn diwedd dydd Mercher. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r hyn y dywedasom y byddem ni'n ei gyflawni, sef gwneud cynnig o frechiad i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf erbyn canol mis Chwefror.
Dydych chi ddim wedi cyflawni eich ymrwymiad, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedasoch yn hollol eglur, a dywedodd eich Gweinidog iechyd yn hollol eglur—gwybodaeth a gynigiwyd gennych chi fel Llywodraeth oedd honno—y byddai pawb dros 80 oed, 70 y cant o'r garfan honno, yn cael eu brechu erbyn diwedd yr wythnos. Clywais yn uchel ac yn eglur beth oedd yr ymateb, ond ni wnaethoch chi roi ateb eglur. Rydych chi wedi egluro hynny—rydych chi wedi methu eich targed. Mae hynny'n syml; mae pobl yn deall hynny. Ddoe, er enghraifft, gallwn ddweud bod Llywodraeth y DU wedi brechu pedwar o bob pump o bobl 80 oed—80 y cant. Maen nhw wedi cyflawni eu targed. Yr hyn yr ydym ni'n ei weld yn gyson yw targedau yn cael eu methu gan eich Llywodraeth chi, ac rydym ni'n gweld loteri cod post yn cychwyn yma yng Nghymru. Ddydd Gwener diwethaf, er enghraifft, roedd meddygfa yn y Barri a oedd â 350 o bobl dros 80 oed wedi'u cofrestru yno, ond dim ond 50 o unigolion oedd wedi cael cynnig y brechlyn ac wedi cael y pigiadau. Mae hynny yn dangos yn eglur bod gwahaniaeth o ran rhoi y brechlyn ac o ran i ba raddau y mae'r brechlyn ar gael mewn rhai ardaloedd, ac mewn ardaloedd eraill roedd y Gweinidog iechyd yn sôn am bobl dros 70 oed yn cael eu galw i gael y brechiad. A allwch chi gadarnhau pa fesurau yr ydych chi'n eu cymryd i ddal i fyny â chyflwyniad y brechlyn ac, yn y pen draw, i wneud yn siŵr nad oes loteri cod post yn dod i'r amlwg ledled Cymru?
Wel, mewn gwirionedd, Llywydd, bydd yn rhaid i'r Aelod wneud yn well na hynna. Dyma fe eto yn ei gyfrifoldebau y mae wedi ailafael ynddynt. Nid oes loteri cod post yma yng Nghymru; mae ymdrech enfawr ym mhob un rhan o Gymru, ar draws y gwasanaeth iechyd cyfan, i frechu cynifer o bobl â phosibl cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Mae'r ffigurau o'r wythnos diwethaf yn dangos pa mor llwyddiannus y bu'r ymdrech honno. Yn hytrach na beirniadu o'r ymylon, byddai'r bobl hynny yn gwerthfawrogi rhyw fymryn yn unig o gefnogaeth gan yr Aelod yn hytrach na thanseilio eu hymdrechion, sef ei nodwedd allweddol, wrth gwrs, drwy gydol yr argyfwng coronafeirws.
Wel, unwaith eto, nid yw'r Prif Weinidog yn edrych ar y ffeithiau sydd ger ei fron. Mae popeth yr wyf i wedi ei ddyfynnu iddo heddiw yn ffeithiau—am ymrwymiad y Llywodraeth ei hun i frechu oddeutu 70 y cant o bobl dros 80 oed erbyn diwedd yr wythnos; y ffaith fod y feddygfa honno yn y Barri wedi nodi bod 350 o bobl dros 80 wedi'u cofrestru â nhw a dim ond 50 sydd wedi cael y pigiadau; y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr—mae 50,000 yn fwy o bobl wedi'u brechu yn Lloegr, fel cyfran o'r boblogaeth, nag yng Nghymru erbyn hyn. Mae hynny yn cyfateb i dref y Barri. Mae angen lefel o frys o ran cyflwyno'r brechlyn hwn. Rydych chi eich hun ar y cofnod yn sôn nad yw'n sbrint. Mae pobl Cymru eisiau gwybod bod y cyflymder a'r cyflwyniad yn dal i fyny â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan fyddwch chi'n pennu targed i'ch hunan, mae'n rhaid i chi gyflawni'r targed. Rwyf i wedi ymdrin â ffeithiau heddiw; rydych chi wedi ceisio tynnu sylw oddi wrth y rheini yn gyson, Prif Weinidog. Byddai'n llawer gwell pe byddech chi, pan eich bod chi wedi gwneud ymrwymiad, yn glynu ato. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i gau'r bwlch poblogaeth hwnnw sydd wedi agor gyda Lloegr o 50,000 o bobl? Fel y dywedais, mae hynny yn dref o faint y Barri yn cael ei brechu, ac mae hynny yn hollbwysig, Prif Weinidog.
Gadewch i mi roi ychydig o ffeithiau i'r Aelod. Ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf, roeddem ni wedi llwyddo i frechu 162,000 o bobl yng Nghymru. Y dydd Mawrth yma, mae hynny wedi codi i 290,000 o bobl. Dyna'r gyfradd gyflymaf o gynnydd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ddydd Llun diwethaf, fe wnaethom ni frechu 10,000 o bobl; y dydd Llun yma, fe wnaethom ni frechu bron i 20,000 o bobl. Dyna gyflymder y cyflwyniad yma yng Nghymru—cyflymder sydd ar frys, cyflymder sy'n ymroddedig, cyflymder sy'n llwyddo. Efallai y bydd ef eisiau ei fychanu. Mae'n arwain plaid Geidwadol yng Nghymru sydd wedi dychwelyd i'w theip pedwaredd ganrif ar bymtheg: ar gyfer Cymru, gweler Lloegr. Nid yw'n ddigon da, nid yw'n dderbyniol a bydd yn rhaid iddo ef wneud yn well na hynny.
Cwestiwn 3, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Ydw i ymlaen? Ydw.
Ydych, mi ydych chi. Ewch ymlaen.