Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd llawer o bwyslais yr wythnos diwethaf ar y targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Clywais eich ymateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben ein bod ni'n gwybod yn eglur pa un a ydych chi wedi cyflawni'r targed hwnnw ai peidio. Dywedasoch yr wythnos diwethaf y bydd gennych chi wybodaeth o ddydd i ddydd yn eich meddiant a allai roi'r darlun diweddaraf i chi. Nid oedd y Gweinidog iechyd yn gallu cadarnhau hynny ddoe yn y gynhadledd i'r wasg, ond a allwch chi roi ymateb syml i ni heddiw, os gwelwch yn dda? A ydych chi wedi cyflawni' targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed yng Nghymru?