Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 26 Ionawr 2021.
Dr Eilir Hughes oedd hwn, un o'r ymarferwyr y cyfeiriodd Siân Gwenllian atyn nhw, sydd wedi gwneud cymaint i ddarparu gwasanaethau arloesol yn y rhan honno o Gymru. Dyma a ddywedwyd: 'Roedd gweld y llawenydd yr oedd pobl yn ei deimlo o dderbyn y brechlyn yn brofiad gwirioneddol anhygoel a gostyngedig i'w weld. Mae gen i barch anhygoel at bawb a wnaeth i hyn ddigwydd a llwyddo. Tîm o 50 o bobl yn darparu dros 1,000 o frechlynnau mewn dau ddiwrnod; gwaith gwych gan y staff gweinyddol, yr heddlu, staff y cyngor a chymaint o rai eraill yn goresgyn eira annisgwyl ac ni wastraffwyd yr un dos. Pen Llŷn ar ei orau.'