Rhaglen Cyflwyno Brechiadau yn Arfon

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y rhaglen cyflwyno brechiadau yn erbyn COVID-19 yn Arfon? OQ56197

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:12, 26 Ionawr 2021

Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Ar 11 Ionawr, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth frechu genedlaethol, gyda cherrig milltir a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni. Yn Arfon, mae pob un o’r practisau gofal sylfaenol yn barod i roi’r brechlyn. Mae un o’r tair canolfan brechu torfol yn y gogledd wedi’i lleoli ym Mangor.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:13, 26 Ionawr 2021

Diolch ichi. Roedd hi'n fraint cael mynd â mam, sy'n 92 oed, am ei brechiad cyntaf i'r digwyddiad mawr ym Mhen Llŷn dros y Sul. O ganlyniad i ymdrechion gwych arweinwyr meddygol lleol ac er gwaethaf llu o rwystrau biwrocrataidd ac eira, fe lwyddwyd i frechu 1,200 o bobl. Mae meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn gwneud gwaith arwrol ym mhob cwr o Gymru, a mawr ydy'n diolch ni iddyn nhw.

Gaf i gyfeirio'ch Llywodraeth chi at un broblem sylweddol sydd angen ei datrys? Dydy systemau technoleg gwybodaeth y gwahanol haenau ddim yn siarad efo'i gilydd, ac mae hyn yn creu dryswch. Er enghraifft, dydy meddygon teulu ddim yn gallu gweld pa rai o'u cleifion nhw sydd wedi cael apwyntiad brechu i un o'r canolfannau brechu mawr, ac mi all hynny olygu bod rhai pobl yn cael dau apwyntiad a bod brechlyn gwerthfawr yn cael ei wastraffu. Un enghraifft ydy hynny. Fedrwch chi ffeindio a oes yna ddatrysiad cyflym i'r problemau IT yma? Maen nhw wedi dod i'm sylw i yn Arfon, ond maen nhw'n debygol o fod yn gyffredin ar draws Cymru.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 26 Ionawr 2021

Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol. Mae'n grêt i glywed bod ei mam hi wedi cael ei brechu, a dwi wedi bod yn darllen dros y penwythnos popeth sydd wedi bod yn digwydd yn Arfon ac ar y Llŷn. Dwi'n mynd i gyfeirio mewn munud at rywbeth dwi wedi ei weld gan Dr Eilir Hughes, y person sydd wedi bod yn arwain yr ymdrech ar y Llŷn. Ond, jest i ddweud ar y system technoleg gwybodaeth, mae pethau yn digwydd mor gyflym ac mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn trio datrys y problemau sydd wedi digwydd. Maen nhw'n digwydd achos mae pob un yn gwneud eu gorau glas i wneud popeth o fewn eu gallu i roi brechiad i bobl ledled Cymru. Mae pethau yn y gogledd wedi arwain yr ymdrech yna hefyd, so dwi'n gallu dweud wrth Siân Gwenllian ein bod yn ymwybodol o'r problemau, ac mae pobl yn gweithio'n galed i drio gwella pethau. Dwi jest eisiau defnyddio un o'r brawddegau a welais i gan Dr Eilir Hughes ar ddiwedd y penwythnos. Mae hi yn Saesneg, Llywydd, a dwi jest yn mynd i'w ddarllen e mas, achos mae'n dangos yr ysbryd a'r ymdrech y mae pobl yn ei wneud.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:16, 26 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Dr Eilir Hughes oedd hwn, un o'r ymarferwyr y cyfeiriodd Siân Gwenllian atyn nhw, sydd wedi gwneud cymaint i ddarparu gwasanaethau arloesol yn y rhan honno o Gymru. Dyma a ddywedwyd: 'Roedd gweld y llawenydd yr oedd pobl yn ei deimlo o dderbyn y brechlyn yn brofiad gwirioneddol anhygoel a gostyngedig i'w weld. Mae gen i barch anhygoel at bawb a wnaeth i hyn ddigwydd a llwyddo. Tîm o 50 o bobl yn darparu dros 1,000 o frechlynnau mewn dau ddiwrnod; gwaith gwych gan y staff gweinyddol, yr heddlu, staff y cyngor a chymaint o rai eraill yn goresgyn eira annisgwyl ac ni wastraffwyd yr un dos. Pen Llŷn ar ei orau.'