Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolchaf i Lynne Neagle. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod ag amrywiaeth o oblygiadau andwyol i'r GIG, yn y byrdymor ac yn y tymor hir. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda GIG Cymru i liniaru'r rhwystrau newydd hyn ar adeg pan fo'r gwasanaeth eisoes o dan bwysau enfawr o'r argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang.