Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn y man i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf o ran brechu COVID-19. Yn ail, mae teitl y datganiad ar hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn teuluoedd—y polisi trosglwyddo o fewn teuluoedd—wedi'i ddiweddaru. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.