Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 26 Ionawr 2021.
Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn ynghylch ymwelwyr iechyd. Cefais i ateb gan y Gweinidog Iechyd heddiw i gwestiwn ysgrifenedig yr oeddwn i wedi'i gyflwyno, ac ni chefais ateb uniongyrchol o ran a oes unrhyw ymwelwyr iechyd wedi eu hadleoli yn y gwasanaeth iechyd oherwydd y pandemig. Dywedodd ef yn yr ateb hwnnw i asesu risg unrhyw ystyriaethau ar gyfer adleoli gan y byrddau iechyd, ond ni ddywedodd a oedd yn digwydd ai peidio. Nawr, rwy'n gwybod bod llawer o rieni'n ei chael hi'n anodd cysylltu â'u hymwelwyr iechyd, felly hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a all fanylu a yw'r adleoliadau hynny wedi digwydd, a sut, ac a yw hynny'n golygu bod diffyg felly o ran helpu rhieni newydd yma yng Nghymru.
Mae fy ail gais am ddatganiad yn ymwneud â'r siafft lo a oedd wedi hollti yn Sgiwen yn fy rhanbarth i, a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf. Rwy'n nabod un o'r menywod, y digwyddodd hynny i'w thŷ hi, Samira Jeffreys, yn dda iawn, a chollodd hi bopeth. Rwy'n gwybod y byddwn ni'n cael sesiwn friffio fel ASau ddiwedd yr wythnos gan yr Awdurdod Glo, ond hoffwn i ddeall beth ydych chi'n ei wneud yn Llywodraeth Cymru i archwilio'r holl hen siafftiau glo hynny i sicrhau nad ydym ni'n gweld hyn yn digwydd ledled de Cymru, yn enwedig lle mae gennym hen gymunedau glofaol, ac i sicrhau eich bod yn helpu'r bobl hynny y mae'r drasiedi hon wedi effeithio arnyn nhw?