Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, fe wnaethom ni gyhoeddi'r cyntaf o'n hadroddiadau ni yn rhoi crynodeb o'r cynnydd yn erbyn ein cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol. Byddant yn cael eu cyhoeddi bob dydd Mawrth o hyn ymlaen. Mae'r adroddiadau hyn yn ychwanegol i'r data gwyliadwriaeth a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddyddiol ac yn wythnosol fel ei gilydd, a'r data gweithredol sy'n cael eu cyhoeddi gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru o heddiw ymlaen, y byddwn ni'n eu cyhoeddi bob dydd Mawrth o hyn ymlaen.
Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw, mae GIG Cymru wedi brechu bron 290,000 o bobl ledled Cymru, sef ychydig dros 9 y cant o'r boblogaeth. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghyflymder gweinyddu'r brechlyn yma yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Y rheswm am hyn yw ein bod wedi gweld cynnydd yn y cyflenwad o frechlynnau, yn enwedig ers gallu defnyddio brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ddechrau'r mis, ac oherwydd bod ein seilwaith ni o ran gweinyddu brechiadau yn parhau i ehangu.
Fe wnaethom gyrraedd dau nod yn ein strategaeth frechu yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fe wnaethom gynnig y dos gyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae dros 65 y cant wedi manteisio ar hynny bellach. Fe wnaethom yn well na'r nod a oedd gennym ar gyfer mis Ionawr, sef mwy na 250 o bractisau cyffredinol yn gweinyddu'r brechlyn. Yr wythnos ddiwethaf, roedd dros 300 o bractisau yn ymroi i'r gwaith o redeg clinigau brechu, a hyd at ddoe roedd o leiaf 329 yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn gwneud cynnydd mawr tuag at y nod terfynol, sef cynnig y brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal erbyn diwedd y mis.
Ar hyn o bryd, rydym yn brechu tua 1,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal bob dydd ar gyfartaledd. Mae o leiaf dros 11,000 o breswylwyr cartrefi gofal, sef tua 67 y cant o'r grŵp blaenoriaeth hwn, wedi cael eu dos gyntaf nhw o'r brechlyn erbyn hyn. Mae dros 74 y cant o staff cartrefi gofal wedi derbyn eu dos gyntaf. Ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, fel y dywedais i, roedd yna dros 300 o bractisau cyffredinol yn rhedeg clinigau brechu. Rydym wedi rhagori ar ddisgwyliad y cynllun o 250 o bractisau. Mae ein dull ni'n cwmpasu pob ymarferwr gofal sylfaenol proffesiynol, gan gynnwys deintyddion, optometryddion a fferyllwyr, wrth weinyddu'r brechlyn. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot y fferyllfeydd cymunedol, canolfannau brechu cymunedol ac, o'r penwythnos diwethaf, glystyrau o bractisau meddygon teulu sy'n rhedeg clinigau mewn cymunedau lleol. Fe glywsom ni ychydig yn gynharach am yr enghraifft arbennig yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn. Roedd hwnnw'n un o dri chlinig clwstwr meddygon teulu a oedd yn rhedeg y penwythnos diwethaf ac fe amcangyfrifwyd eu bod wedi rhoi 3,000 o frechlynnau dros y penwythnos rhyngddyn nhw, a llawer o'r rheini, wrth gwrs, i grŵp blaenoriaeth y bobl dros 80 oed.
Fe wn y bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn awyddus i gael gwybod a thrafod eto a wnaethom ni frechu 70 y cant o'r bobl dros 80 oed a'r rheini mewn cartrefi gofal erbyn y penwythnos. Nid ydym yn credu inni gyrraedd hynny'n union. Roedd cau canolfannau ac aildrefnu apwyntiadau oherwydd y tywydd mawr yn ffactor allweddol yn hynny. Yr hyn sy'n eglur a diamwys, serch hynny, yw'r ymdrech arwrol sydd ar gerdded, gyda nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn cynyddu bob dydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, ac rwy'n dymuno diolch i bob unigolyn sy'n gysylltiedig â hynny am ei ymrwymiad i'r ymgyrch genedlaethol gyfredol hon.
Mae'r Aelodau yn ymwybodol y bu'n rhaid cau canolfan oherwydd y tywydd garw dros y penwythnos yn ardal Cwm Taf, ac yn ardal bae Abertawe hefyd. Fe gaewyd canolfannau am resymau diogelwch ac fe ad-drefnwyd yr apwyntiadau brechu. Fe ohiriodd nifer o bractisau meddygon teulu apwyntiadau'r penwythnos hefyd tan ddechrau'r wythnos hon, a dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Mae'r Aelodau wedi clywed hefyd am giwiau yn ffurfio y tu allan i ganolfan frechu yn Abertawe nos Wener. Yn anffodus, roedd hyn o ganlyniad i rywun ag angen triniaeth feddygol frys yn syth ar ôl cyrraedd y ganolfan. Mae staff y GIG yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl giwio am eu hapwyntiadau i gael eu brechu, ond weithiau, fel rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn deall, fe all argyfyngau daro. Er bod y GIG yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y seilwaith i frechu yn gadarn, mae'r materion hyn yn ein hatgoffa ni am ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni a all effeithio ar gyflawni ein hamcanion ni. Nid oes amheuaeth, er hynny, ein bod ni'n gweld cynnydd mawr ac mae pethau'n cyflymu drwy'r amser.