Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 26 Ionawr 2021.
Nid wyf i o'r farn ein bod wedi gwastraffu miliynau o frechlynnau oherwydd y dewisiadau polisi a wnaethom ni, ond rwyf am ddechrau gyda'ch pwynt chi am beidio â rhoi'r bai ar yr eira. Roedd yr eira'n elfen amlwg—elfen amlwg—ddydd Sul a dydd Llun, a chafodd effaith sylweddol. A'r ffigurau a gyhoeddwyd gennym, y 52.8 y cant y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfeirio ato—mae o leiaf cymaint â hynny wedi cael y brechlyn. Ac, fel y dywedais wrth roi ateb i Angela Burns, fe wyddom fod bwlch cyn inni gael data sydd wedi eu diweddaru, ond mae'n amlwg ein bod yn annhebygol o gyrraedd—nad ydym yn mynd i gyrraedd y 70 y cant, pan gaiff hynny i gyd ei gysoni ar gyfer diwedd dydd Sul. Mae hynny'n fater o fod yn onest ac yn agored gyda phobl, ac rwy'n credu na fydd y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn synnu o gwbl fod yr eira a welsom mewn rhannau helaeth o'r wlad wedi cael effaith.
O ran preswylwyr cartrefi gofal, mae o leiaf 67 y cant wedi cael eu brechu eisoes—unwaith eto, yr un materion ynghylch data. Mae'n wir hefyd, o ran rhai cartrefi gofal—rydym ni wedi gorfod gweithio drwy rai o'n cwestiynau polisi am gartrefi gofal rhybudd coch, lle mae ganddyn nhw nifer o achosion cadarnhaol. Rydym mewn sefyllfa fwy sefydlog erbyn hyn sy'n cael ei chymhwyso bellach yn gyson ledled y wlad. Dyna pam y gallwn ni fod yn hyderus bod pob bwrdd iechyd yn gweithio drwy'r rhain fel y prif grŵp blaenoriaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr holl gartrefi hynny'n cael eu cynnwys erbyn diwedd y mis hwn—yr holl gartrefi hynny lle mae'n bosibl cael mynediad iddynt. Mae dull o asesu risg yn cael ei ddefnyddio, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, felly, pe byddai unrhyw achosion cyfredol, yn cynnwys cyfran sylweddol o blith staff a phreswylwyr y cartref, yna fe allai hynny olygu na all y rhaglen frechu ddigwydd yn y cartref hwnnw. Rwy'n credu y byddai pawb yn deall pam. Ond rydym wedi edrych ar asesiadau risg lle ceir un neu ddau achos mewn cartref a'r hyn a olygir gan hynny ar gyfer sicrhau bod y brechlyn yn cael ei ddarparu'n fwy cyffredinol. Felly, rydym wedi gweithio drwy hynny, ac rydym yn credu ein bod mewn sefyllfa erbyn hyn, unwaith eto, i gael cyfradd wirioneddol o hyder i gyflawni'r disgwyliad y cyfeiriais i ato erbyn diwedd y mis, sef cwblhau brechu'r rhan hon o'r boblogaeth.
O ran yr amser i gynyddu'r capasiti, wel, â phob parch, nid oedd modd ysgogi ein holl gapasiti pan oedd y cyflenwadau yn llawer llai, pan oedd gennym broblemau o ran defnyddio brechlyn Pfizer. Ar y dechrau, nid oeddem yn gallu gweinyddu'r brechlyn yn effeithiol mewn gofal sylfaenol, nid oeddem yn gallu gweinyddu'r brechlyn i breswylwyr cartrefi gofal. Ac rydych chi'n cofio'r achos anffodus pan ddywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr ei fod ef yn credu bod preswylwyr wedi cael eu gadael ar ôl. Nid dyna ddigwyddodd o gwbl. Mae'n drueni na chafodd y sylwadau hynny eu cywiro. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn o fod â chyflenwad llawer mwy sylweddol, gyda chymysgedd o frechlynnau. Rydym mewn sefyllfa i wneud defnydd gwahanol a mwy hyblyg o frechlyn Pfizer, ac felly mae ein seilwaith ni'n wahanol ac mae'n well nawr. Mae'n llawer mwy sylweddol. Y cyflenwad yw'r ffactor sy'n llesteirio. Pe byddai gennym ni fwy hyd yn oed o frechlyn AstraZeneca nag sydd gennym ni heddiw, fe allem fanteisio i'r eithaf wedyn nid yn unig ar y capasiti sy'n bodoli o fewn practisau cyffredinol, ond fe allem ddefnyddio'r rhwydwaith sylweddol sydd mewn fferylliaeth gymunedol, fel rydym ni'n awyddus i'w wneud. Er hynny, mae practisau cyffredinol, gan weithio gyda'i gilydd, yn gallu darparu'r cyflenwadau o frechiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn effeithiol. Ac felly rydym yn edrych ar sut y gallwn gael y cyfuniad hwnnw o ganolfannau brechu torfol sy'n defnyddio sgiliau pobl sy'n gallu gweinyddu brechiadau hefyd yn ein tîm gofal sylfaenol ehangach a sut y byddwn ni'n defnyddio llawer mwy ar ein gweithlu parod a phroffesiynol iawn—sy'n ddibynadwy, yn hollbwysig iawn—gweithlu dibynadwy mewn fferylliaeth gymunedol, gan ein bod yn disgwyl gweld cynnydd yn y cyflenwadau eto yn yr wythnosau i ddod.
Nawr, o ran ein cyfran ni o'r cyflenwad brechlynnau, mae'r cwestiwn hwn yn cael ei ofyn i mi'n rheolaidd gennych chi a chyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru, ac rwyf innau'n rhoi'r un ateb yn rheolaidd, sef ein bod ni'n cael ein cyfran ni yn ôl ein poblogaeth, ac mae hynny'n parhau i fod yn wir. Mae'n dal i fod yn wir ein bod ni'n cael ein cyfran ni yn ôl maint ein poblogaeth. Mae'n dal i fod yn wir, yn y cyfarfod wythnosol a gaf i erbyn hyn gyda Gweinidog brechlynnau'r DU, mai hwn yw'r pwnc cyson yn ein trafodaethau ni i wneud yn siŵr y ceir sicrwydd parhaol o ran lefel y brechlynnau y bydd ei hangen i gyrraedd carreg filltir canol mis Chwefror ar gyfer y pedwar grŵp blaenoriaeth—y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Er mwyn i hynny ddigwydd, fe wyddom y bydd angen mwy na'n cyfran ni yn ôl y boblogaeth os mai dim ond digon i wireddu hynny sydd o fewn y DU. Felly, dyna ran o'n her ni, dyna ran o'r hyn yr wyf i wedi ei godi'n rheolaidd, ac fe geir sicrwydd dro ar ôl tro y bydd yr holl gyflenwadau hynny ar gael mewn pryd i allu cyflawni'r garreg filltir erbyn canol mis Chwefror. Ac yng Nghymru, rydym ni'n darparu ein cyflenwadau ni o'r brechlyn ar sail y gyfran o'r boblogaeth ym mhob un o'n byrddau iechyd.
Ac fe fyddwch wedi gweld rhai o'r sylwadau cyhoeddus a'r sylwebaeth gyhoeddus a adroddwyd yn eang am rai o'r materion sensitif ynghylch cyflenwad a gweithgynhyrchu brechlynnau rhwng y DU a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae yna elfen o sensitifrwydd masnachol, a dyna pam nad ydym wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth heddiw am y stociau sydd gennym ni o frechlynnau. Ac rwyf i wedi egluro fy mod i'n dymuno bod mewn sefyllfa lle gallwn ni gael cyhoeddiad cyffredin rhwng gwahanol rannau'r DU i fod yn agored ynglŷn â'r cyflenwadau o frechlynnau sydd gennym yn ein meddiant. Rydym yn ystyried gweithredu hynny ar draws y pedair gwlad. Rwy'n parchu'r ffaith fod yna sensitifrwydd masnachol ar hyn o bryd sy'n golygu nad ydym mewn sefyllfa i wneud hynny heddiw. Ond rwy'n awyddus i wneud hynny cyn gynted â phosibl, oherwydd rwy'n cydnabod mai da o beth yw tryloywder er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a pham.