Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 26 Ionawr 2021.
Un—hwnnw ym Mhenllyn yr wythnos cyn diwethaf, dwi'n cymryd rydych chi'n cyfeirio ato fo. Mae gennym ni dros 600 o fferyllfeydd cymunedol. Mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n dod yn rhan o'r broses frechu mor fuan â phosib. Maen nhw eisiau cymryd rhan. Mi wnaeth fferyllydd yn fy etholaeth i, yn y Fali, digwydd bod, gysylltu yn y dyddiau diwethaf yn dweud, 'Rydyn ni eisiau gwneud. Mae gennyn ni le, rydyn ni wedi ein hyfforddi i wneud, gadewch inni wneud.' Ac os caf i ddweud, y neges glir dwi yn ei chlywed ydy: 'Mi allwn ni wneud llawer mwy pe baen ni'n cael mwy o'r brechiad.' Rŵan, dwi wedi gofyn dro ar ôl tro ar ôl tro am ddata ar faint o'r gwahanol frechiadau sydd wedi cael eu rhannu i bedair cenedl y Deyrnas Unedig, faint wedyn sy'n cael eu rhannu o bob un i bob bwrdd iechyd yma. Dwi'n gofyn eto. Rydych chi wedi sôn am bwysigrwydd tryloywder yn eich cyflwyniad chi. Rhowch y tryloywder inni yn fan hyn fel ein bod ni'n gallu gweld unrhyw anghyfartaleddau neu flocs yn y system. Mae o'n wybodaeth, mae o'n ddata cwbl, cwbl sylfaenol.
Yn olaf, dwi eisiau tynnu sylw at y pryderon diweddaraf am y newid polisi hwnnw a fu fel bod hyd at 12 wythnos o oedi rhwng dau ddos y brechiad Pfizer yn hytrach na'r tair wythnos gwreiddiol. Mae yna fwy o bryderon wedi'u tynnu i'm sylw am hyn: poeni y gallai hynny fod yn effeithio a thanseilio effeithlonrwydd y brechiad i'r graddau eich bod chi'n gorfod dechrau o'r dechrau pan fo'n cyrraedd at y 12 wythnos. Dwi'n deall y syniad o roi rhywfaint o warchodaeth i fwy o bobl—wrth gwrs fy mod i'n deall hynny—ond ydych chi'n barod i wynebu'r posibilrwydd y gallai, i bob pwrpas, filiynau o frechiadau wedi cael eu gwastraffu oherwydd y newid polisi hwnnw?