Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch, Llywydd dros dro. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fy mwriad y byddai cymwysterau dysgwyr sy'n sefyll arholiadau TGAU, Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gymeradwywyd gan CBAC yn cael eu dyfarnu drwy fodel gradd a bennir gan ganolfannau. Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu fy mlaenoriaeth o gefnogi llesiant a chynnydd dysgwyr yn realiti'r cyd-destun iechyd cyhoeddus a pholisi yr ydym ni bellach yn gweld ein hunain ynddo. Er bod mwy o waith i'w wneud o hyd, gobeithiaf y bydd cyhoeddi'r dull gradd a bennir gan ganolfannau—lle caiff graddau dysgwyr eu pennu gan eu hysgol neu goleg, yn seiliedig ar asesiad o'u gwaith—yn helpu i ddileu pryder dysgwyr. Datblygwyd y ffordd hon ymlaen gan y grŵp cynghori dylunio a chyflawni, ac mae'n rhoi lles dysgwyr a hyder y cyhoedd wrth wraidd ein cynigion.
Yn rhan o'r dull hwn, bydd canolfannau'n gallu defnyddio ystod o dystiolaeth yn ganllaw i'w penderfyniadau, gan gynnwys asesiadau nad ydynt yn arholiadau, ffug arholiadau a phapurau blaenorol wedi'u haddasu a ddarparwyd gan CBAC. Bydd fframwaith asesu i'w cefnogi i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer asesu. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion a cholegau wrth benderfynu pa wybodaeth asesu i'w defnyddio wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar ddysgu'r cynnwys craidd a fydd yn helpu dysgwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy gamau nesaf eu haddysg. Caiff ansawdd y cynlluniau hyn eu sicrhau gan CBAC a byddant yn dangos sut mae'r ganolfan wedi pennu gradd dysgwr. Bydd hefyd yn ofynnol i bob ysgol neu goleg adeiladu ar brosesau sicrhau ansawdd neu eu datblygu, ac fe gânt eu cefnogi i wneud hynny drwy arweiniad gan CBAC.
Ar ôl i'r sicrwydd ansawdd hwn gael ei gwblhau yn y ganolfan, caiff y radd ei chyflwyno i CBAC. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni ystyried sut i hyrwyddo mwy o gysondeb rhwng canolfannau wrth gyflawni ein dull gweithredu. Mae hyn yn cynnwys gofyn iddyn nhw gefnogi Cymwysterau Cymru a CBAC i ddatblygu a nodi'r fframwaith asesu a'r prosesau sicrhau ansawdd a gaiff eu mabwysiadu. Rwy'n cydnabod bod y broses apelio yn destun pryder a diddordeb i ddysgwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd. Gallaf gadarnhau y bydd dysgwyr yn gallu apelio i'w hysgol neu goleg os ydyn nhw'n credu eu bod wedi cael gradd nad yw'n adlewyrchu eu cyrhaeddiad, ac i CBAC os ydyn nhw'n anhapus â'r broses a ddilynir gan eu canolfan. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth glir a hygyrch am apeliadau ar gael, ac yn ystyried cynnig dysgu proffesiynol i ymarferwyr fel bod y prosesau a ddefnyddir yn gyson, yn gydradd ac yn deg.
Yn ogystal ag arbenigedd y prifathrawon a phenaethiaid colegau ar ein grŵp cynghori dylunio a chyflawni, sydd wedi neilltuo cymaint o amser i ddatblygu'r cynigion hyn, bydd y grŵp yn ehangu ei aelodaeth ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach i'w cefnogi yng ngham nesaf eu gwaith. Rhan o'r gwaith hwn fydd ystyried effeithiau unrhyw drefniadau newydd ar gydraddoldeb a llwyth gwaith, ochr yn ochr â datblygu canllawiau, cyfathrebu a dysgu proffesiynol a fydd yn cefnogi ysgolion a cholegau yn eu barn broffesiynol. Rwyf hefyd wedi gofyn i'r grŵp ystyried trefniadau ar gyfer ymgeiswyr preifat fel blaenoriaeth. Rwy'n cydnabod bod rhai ymgeiswyr preifat sy'n pryderu am ganolfannau’n graddio yn ôl eu trefn eu hunain, gan nad oedd pob ymgeisydd preifat yn gallu cael cymhwyster o dan y trefniadau a wnaed y llynedd. Felly, hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad llwyr i sicrhau bod dewis clir iddyn nhw i gefnogi eu cynnydd.
I grynhoi, mae'r dull gradd a bennir gan ganolfannau yn ymddiried yn ymrwymiad athrawon a darlithwyr i flaenoriaethu addysgu a dysgu yn yr amser sydd ar gael, a'u gwybodaeth am ansawdd gwaith eu dysgwyr. Fodd bynnag, mae dysgu cynnwys craidd ac agweddau pob cwrs yn parhau i fod yn eithriadol o bwysig, fel y caiff pob dysgwr ei gefnogi i symud ymlaen gyda sicrwydd i'w camau nesaf a chyda hyder yn y graddau a ddyfarnwyd iddyn nhw. Rydym ni felly wedi ceisio gwneud y dull graddio mor glir â phosib o dan yr amgylchiadau, ond mor syml ac ymatebol â phosib ar yr un pryd.
Rydym yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i ystyried sut y gallan nhw gefnogi dysgwyr drwy'r cyfnod pontio hwn ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu hymroddiad a'u cefnogaeth barhaus. Mae'n hanfodol bod y sector addysg ehangach yn parhau i ddod at ei gilydd fel hyn i gefnogi ein dysgwyr, gan gynnwys drwy gryfhau dyfarniadau proffesiynol drwy gymorth sy'n sicrhau trefniadau cyson a thryloyw. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn ystyried y dull o ymdrin â chymwysterau eraill i Gymru'n unig, gan gynnwys y dystysgrif her sgiliau, Sgiliau Hanfodol Cymru a chymwysterau galwedigaethol cymeradwy. Mae hefyd yn gweithio'n agos â chyd-reoleiddwyr y DU i sicrhau dull gweithredu a thegwch cyson i ddysgwyr Cymru sy'n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol sydd hefyd ar gael mewn gwledydd eraill.
Wrth i ni barhau i weithio'n gyflym i ddatblygu ein cynigion, rwy'n annog dysgwyr, athrawon a darlithwyr i barhau i ganolbwyntio ar ddysgu ym meysydd craidd eu cyrsiau yn ystod yr wythnosau nesaf. Y dysgu hwn a datblygu sgiliau a gwybodaeth gysylltiedig a fydd yn parhau i agor drysau i ddysgwyr yn y dyfodol, hyd yn oed ar ôl dyfarnu'r cymhwyster ei hun. Hoffwn ddiolch i bob dysgwr a gweithiwr addysg proffesiynol am barhau i fod mor hyblyg a pharod i addasu wrth ymateb i'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Diolch, Llywydd dros dro.