Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 26 Ionawr 2021.
Diolch yn fawr, Gadeirydd. Dwi'n hapus iawn heddiw i allu cyhoeddi ein polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Dywedais i yn ôl ym mis Chwefror, wrth gyhoeddi’r fersiwn drafft o’r polisi, ei bod hi'n bwysig inni ddeall bod yr iaith rŷn ni'n ei defnyddio gartref yn effeithio ar ba mor gyfforddus mae'n plant ni'n teimlo wrth ddefnyddio'r iaith honno nes ymlaen yn eu bywydau.
Ein nod ni gyda'r gwaith yma yw cefnogi ac annog pobl sydd â sgiliau Cymraeg, ond efallai sydd heb eu defnyddio'n ddiweddar, i siarad mwy o Gymraeg gyda'u plant nhw—hynny yw, i drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf. Mae'r polisi yma yn canolbwyntio ar sut i ddylanwadu ar hyn. Wrth gwrs, mae'r iaith rŷn ni'n ei siarad gyda'n plant ni—yn wir, pob ymddygiad iaith—yn ganlyniad i lawer o ffactorau gwahanol. Dyw newid ein hymddygiad ddim yn hawdd, yn enwedig unwaith bod patrwm wedi'i sefydlu.
Fel mae'r ffigurau a'n hymchwil ni yn eu dangos, mae yna gartrefi ledled Cymru lle mae yna rieni yn medru siarad Cymraeg ond sydd am sawl rheswm—diffyg hyder, diffyg arfer, teimlad nad yw eu Cymraeg nhw, efallai, ddim yn ddigon da—ddim yn defnyddio’r Gymraeg gyda'u plant nhw. Felly, mae'n rhaid inni wneud popeth rŷn ni'n gallu i helpu iddyn nhw wneud hyn.
Yn ôl ym mis Chwefror, fe wnes i bwysleisio fy mod i am glywed gan deuluoedd fel rhan o'r ymgynghoriad ar y polisi yma—ar gyfer teuluoedd mae'r gwaith y byddwn ni'n ei wneud yn y maes yma wedi'r cwbl. Fel rhan o'r ymgynghoriad a'n hymchwil ni i drosglwyddo’r Gymraeg, rŷn ni wedi clywed gan deuluoedd lle mae rhieni wedi colli eu hyder nhw yn yr iaith. Rŷn ni hefyd wedi clywed barn a phrofiadau rhieni lle taw nhw yw'r unig oedolyn yn y teulu sy'n medru'r Gymraeg. Mae rhai o'r bobl rŷn ni wedi siarad gyda nhw wedi bod drwy’r system addysg Gymraeg eu hunain ond maen nhw eu hunain wedi'u magu mewn teuluoedd di-Gymraeg. Rŷn ni wedi clywed, wedi gwrando ac wedi bwydo'r safbwyntiau hyn i gyd mewn i’r gwaith.
Roedd un rhiant—fe wnaf i ei alw'n Steve—yn siarad Cymraeg ond yn sôn bod ei bartner e ddim. Roedd partner Steve yn teimlo bod rhywbeth ar goll o'i bywyd oherwydd bod dim Cymraeg gyda hi. Doedd hi na Steve ddim am i'w plentyn golli mas. Rŷn ni hefyd wedi clywed gan Lucy. Mae Lucy yn gallu siarad Cymraeg, ac, wrth edrych yn ôl ar ei hamser hi yn yr ysgol, mae'n cofio taw dim ond yn ei harddegau y gwnaeth hi ddechrau ddefnyddio’r Gymraeg oedd ganddi. Mae hi nawr yn oedolyn ac yn fam, ac mae ganddi bersbectif gwahanol ar ei Chymraeg hi. Roedd hi'n awyddus i ddefnyddio Cymraeg gyda'i phlentyn o'r cychwyn cyntaf. Mae'r safbwyntiau gwahanol yma, a llawer mwy, wedi cyfoethogi llunio'r polisi hwn.
Wrth gwrs mae angen i ni helpu rhieni i ddechrau ar eu taith nhw gyda'r iaith drwy roi cyfleoedd iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg, a dyna pam ein bod ni'n cefnogi hynny eisoes drwy waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Mudiad Meithrin a'n partneriaid eraill ni. Ond ffocws y polisi yma yw dylanwadu ar gartrefi lle mae pobl eisoes yn gallu siarad Cymraeg er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio’r iaith gyda'u plant. Bydd hyn yn cyfrannu at gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg ac, yn hollbwysig, dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg, sef dau brif darged Cymraeg 2050.
Does yna'r un peth ar ben ei hun yn mynd i wneud i ragor o bobl ddewis trosglwyddo'r Gymraeg. Mae'r polisi yma yn cyflwyno cyfres o gamau gweithredu i ni eu dilyn dros y ddegawd nesaf er mwyn creu cylch rhinweddol o rieni yn defnyddio'r Gymraeg gyda'u plant, a'u plant nhw wedyn yn yr un modd yn siarad Cymraeg gyda'u plant nhw.
Adeiladu ar sylfaen o waith rŷn ni wedi’i wneud yng Nghymru dros flynyddoedd lawer rŷn ni'n ei wneud, nid ail-greu'r olwyn. Nawr, mae angen inni wthio ffiniau ac arbrofi gyda dulliau newydd o weithio, gan gymryd risgiau o dro i dro, bod yn barod i fethu, ond gan ddysgu o’r methiannau hyn, a hynny heb fwrw bai ar neb. Dim ond drwy wneud hyn mae'n well ac mae ffordd i ni ddeall impact ein gwaith ni.
Rŷn ni am greu awyrgylch o gydweithio rhwng unigolion a sefydliadau lle mae cyfle i bawb rannu. Wedi'r cyfan, does gan neb chwaith fonopoli ar syniadau da. Welwn ni ddim o holl ganlyniadau'n gwaith ni dros nos. Mae beth rŷn ni'n dreial ei wneud yn digwydd dros genedlaethau—dyna holl bwynt y peth. Ond mae'r gwaith o sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol o siaradwyr Cymraeg yn y teulu yn dechrau heddiw. Diolch.