5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (polisi trosglwyddo yn y teulu)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 26 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:11, 26 Ionawr 2021

Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad yma. Rwyf wedi bod yn dweud bod dewis iaith yn ddewis anymwybodol yn aml, yn bersonol iawn, ac yn bownd o barhau er gwaethaf unrhyw bolisi os dydyn ni ddim yn wynebu hynny. Felly, rwy'n falch o weld y symudiad hwn tuag at well ddealltwriaeth o le iaith mewn deinameg deuluol. Ac wrth edrych ar argymhellion y polisi, dwi'n troi at yr ail, y ddeinameg deuluol honno, yn hytrach na chaffael iaith strwythurol. Rwy'n amau bod y 'pwy' ym mhob teulu mor ddylanwadol â'r 'sut'. Mae yna nifer o argymhellion yn ymwneud â methodoleg ymchwil bellach. Yn sicr, mae angen carfan o fwy na 60 o deuluoedd arnoch chi ar gyfer hyn. Ond a yw hi o reidrwydd yn broses ymwthiol sy'n cael ei hawgrymu? Sut ydych chi'n bwriadu rheoli hynny mewn ffordd sensitif, a beth ydych chi wedi'i ddysgu yn barod am y broses o weithio gyda'r 60 o deuluoedd hyn?

Roeddwn hefyd yn falch o weld yn lansiad yr ymgynghoriad llynedd gydnabyddiaeth mai'r system addysg sy'n sicrhau caffael sgiliau'r Gymraeg, ond nid yw hynny'n sicrhau ei bod yn cael ei throsglwyddo, ac mae'r adroddiad yn dweud hynny. Dwi ddim am ailedrych ar brofiad dysgwyr heddiw, ond gallwn gytuno nad yw bob amser wedi bod yn un cadarnhaol. Ar gyfer ein cenhedlaeth bresennol o oedolion ifanc sydd wedi cael profiad gwael o ddysgu Cymraeg, neu sydd ddim wedi mwynhau eu hysgol cyfrwng Cymraeg, beth allwn ni ddweud wrthyn nhw nawr i'w helpu nhw dros y rhwystr emosiynol hwnnw, mewn ffordd? Achos mae'n ddigon i bobl fel fi sydd wedi bod yn benderfynol o'r cychwyn cyntaf y dylai fy mhlant i gael yr hyn na drosglwyddodd fy rhieni i fi, sef dwyieithrwydd—roeddwn i am lynu wrtho. Ond beth allwch chi ei newid nawr yn y tymor presennol, yn y neges i rieni newydd gydag amlygiad negyddol i'r Gymraeg fod dwyieithrwydd werth y gwaith caled, ac mae wedi bod yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n dysgu gartref ar hyn o bryd?

Hyfforddiant athrawon—rwy'n chwilfrydig iawn clywed mwy am le mae'r proffesiwn addysg yn mynd i ffitio i mewn fan hyn o safbwynt seicoleg trosglwyddo'r iaith, achos mae hyn yn fy nharo i fel achos o physician heal thyself weithiau. A gyda llawer mwy o athrawon yn ein hysgolion a cholegau sydd â sgiliau Cymraeg nag sy'n barod i ddysgu Cymraeg, neu ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, sut ydych chi'n gweld yr argymhelliad penodol hwn yn y polisi yn gweithio?

Ac, yn olaf, roeddwn yn siarad â rhywun sy'n arwain y cynllun mentora ieithoedd rhyngwladol sy'n cael ei redeg gan rai o'n prifysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd, a gwnaeth hi'r pwynt bod angen lleoedd diogel i oedolion sydd â rhywfaint o wybodaeth a sgil i wneud camgymeriadau, ac rŷch chi jest wedi canolbwyntio ar hynny yn eich sylwadau olaf yna. Gall y teulu fod yn un o'r lleoedd hynny, a dim ond ffordd arall o chwarae gyda'r iaith yw gwneud camgymeriadau. Mae chwarae gyda'r Gymraeg fel hyn yn gallu helpu plant â phatrymau iaith a'u hannog nhw i ofyn cwestiynau heb feirniadaeth, heb sôn am godi hyder oedolion. Felly, beth yw'ch meddyliau ehangach am leoedd diogel i oedolion chwarae gyda'r iaith y tu allan i'r cartref? Ac os gallaf, rwyf yn argymell ein polisi ni tipyn bach, os hoffech chi wybod mwy. Diolch.