– Senedd Cymru am 5:34 pm ar 27 Ionawr 2021.
Felly, dwi'n gofyn i gyflwynydd y ddadl fer honno i'w chyflwyno hi, a dwi'n galw felly ar Laura Anne Jones.
Parhewch, mae eich meic ar agor nawr. O, roedd eich meic ar agor cynt, felly—. Dyna chi.
Mae fy meic ar agor nawr. Mae'n ddrwg gennyf, fe gymerodd hynny beth amser. Diolch, Lywydd. Dadl yw hon ar baratoi at y dyfodol, am gaeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru. Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno y gall Jack Sargeant a Rhun ap Iorwerth gael amser i gyfrannu at y ddadl, a diolch iddynt ymlaen llaw am eu cyfraniadau.
Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd cymryd rhan mewn chwaraeon i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon tîm yn hybu iechyd a lles, yn adeiladu hyder, yn meithrin disgyblaeth i weithio fel tîm, ac mae'n helpu i gynnal iechyd meddwl. Mae angen i'r Llywodraeth hon ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion o bob gallu yn y byd chwaraeon a phob rhan o Gymru, boed drefol neu wledig, yn gallu gwneud defnydd hawdd o gyfleusterau chwaraeon drwy gydol y flwyddyn ac ym mhob tywydd yn agos at ble maent yn byw.
I'r rhai sydd angen eglurhad ynglŷn â'r hyn rwy'n sôn amdano, pan fyddaf yn sôn wrth rai pobl am 3G a 4G maent yn meddwl fy mod i'n siarad am signal ffôn, ac mae hynny'n ddigon teg; nid yw pawb yn dwli ar chwaraeon fel fi. Rwy'n sôn am gaeau chwaraeon porfa artiffisial, y gwahanol lefelau a'r gwahanol drwch ac ansawdd at ddefnydd proffesiynol neu gymunedol. Fodd bynnag, nid oes raid eich bod yn dwli ar chwaraeon i gydnabod pwysigrwydd cynyddol cyfleusterau o'r fath, sydd, fel gyda llawer o bethau, wedi cael ei amlygu gan y pandemig hwn. Mae'n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i annog a hwyluso pethau i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon.
Cyn gynted ag y daw'n aeaf, rhaid i lawer o gyfleoedd chwaraeon ddod i ben am fod y tywydd yn effeithio ar ein caeau chwaraeon a'n gallu i hyfforddi neu chwarae gemau. Pan oeddwn yn ysgrifennydd clwb pêl-droed iau lleol, y rhwystr mwyaf i atal plant rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gydol y gaeaf oedd y tywydd a'i effaith ar y caeau chwaraeon porfa go iawn. Mae'r broblem fawr wedi sbarduno ymchwydd yn nifer y caeau pêl-droed porfa a gafodd eu troi'n gaeau chwaraeon trydedd genhedlaeth y gall y gymuned gyfan eu mwynhau heb boeni am ddifrodi'r cae. Nid yw'r straen i lawer iawn o glybiau o orfod canslo hyfforddiant a gemau'n barhaus drwy gydol misoedd y gaeaf, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae cyfleusterau'n wael, yn ddigon da yn 2021.
Mae'n wir fod caeau chwaraeon artiffisial o ansawdd gwael yn y 1980au wedi creu stigma sy'n anodd ei ddileu, ond mae caeau chwaraeon synthetig wedi cyrraedd safon lawer uwch bellach na'r hyn a welid pan ddaethant yn boblogaidd am y tro cyntaf, ac mae hynny'n newyddion gwych i chwaraewyr a hyfforddwyr ac mae'n gorfodi gweithgynhyrchwyr i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau ansawdd. Mae'r cynnydd ym mhoblogrwydd timau pêl-droed llai nag unarddeg bob ochr yn golygu y bydd cyfran enfawr o chwaraewyr ifanc bellach yn datblygu eu sgiliau ar gaeau chwaraeon synthetig. O'r herwydd, mae llawer wedi arfer â'r cysondeb y mae gwasanaethau artiffisial yn ei gynnig ac mae llawer o'n trefi'n elwa o hynny, ond yn anffodus, nid yw hynny'n wir am lawer o'n hardaloedd gwledig. Heddiw, mae caeau chwaraeon porfa artiffisial yn gallu rhagori ar yr amodau chwarae a geir ar borfa naturiol, yn hytrach na dim ond eu hefelychu. Yn ogystal â'r cysondeb, mae'n well gan hyfforddwyr yr arwynebau hyn am eu bod yn efelychu'r ffordd y mae peli'n bownsio ac yn symud dros arwyneb naturiol.
Comisiynais ymchwil i'r angen a'r awydd am gaeau chwaraeon porfa artiffisial pan ymunais â'r Senedd y llynedd, a gwnaed y gwaith gan gyn bêl-droediwr Cymru a oedd â gwybodaeth a mynediad at bobl ar bob lefel o bêl-droed a chwaraeon a fyddai'n elwa o gael caeau caeedig o'r fath mewn clwb yn agos at ble roeddent yn byw. Roedd yr ymateb yn rhyfeddol ac yn ddiymwad, o glybiau chwaraeon iau ar lawr gwlad i reolwr tîm Casnewydd, Michael Flynn. Roedd yr angen am hyfforddiant a chyfleusterau chwarae pob tywydd yn amlwg. Bydd plant a phobl ifanc yn gallu chwarae drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau dilyniant yn eu lefelau ffitrwydd, o iechyd meddwl drwy chwarae chwaraeon a gweld eu ffrindiau, i ddysgu sgiliau allweddol, byddant yn gallu chwarae chwaraeon yn ystod misoedd y gaeaf, gan nad yw llawer o deuluoedd yn gallu cludo'u plant dros y pellter sydd angen ei deithio i gyfleusterau mewn trefi lleol y byddai'n rhaid i glybiau eu llogi, neu weld eu plant yn methu chwarae chwaraeon. Bydd yn sicrhau nad yw caeau pêl-droed a rygbi porfa arferol yn cael eu difetha drwy orchwarae pan fyddant yn ceisio chwarae yn y tywydd gwlyb a'r llaid. Mae oedolion hefyd am barhau i chwarae drwy gydol misoedd y gaeaf. Mae'n hanfodol i'n clybiau is-gynghrair eu bod yn parhau i hyfforddi a chwarae ac i'n holl gynghreiriau ledled Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae ceisio ail-drefnu gemau'n drysu trefniadau ac yn creu trafferthion parhaus i glybiau chwaraeon.
Ar gyfer chwaraeon proffesiynol, byddai'n golygu eu bod ar yr un lefel â gweddill y DU a'r byd ac yn rhoi'r cyfleoedd gorau posibl inni ddatblygu plant yn sêr chwaraeon Cymru yn y dyfodol. Gallai clybiau proffesiynol chwarae a hyfforddi ym mhob tywydd drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau y gall gemau ddigwydd ac y gall clybiau ddatblygu academïau heb orfod poeni am gaeau chwaraeon.
Gallai gosod caeau 3G greu ffynonellau incwm newydd a mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel. Gellir chwarae ystod eang o chwaraeon ar y caeau 3G diweddaraf hyn yn ogystal â phêl-droed, sy'n golygu y gall clybiau cymunedol ddarparu cyfleusterau aml-chwaraeon, gan greu canolfannau hanfodol a fyddai'n sicr yn cael eu llogi'n llawn drwy gydol y flwyddyn, yn ôl y dystiolaeth a gasglais, gan fod cymaint o angen y cyfleusterau pob tywydd hyn.
Fel gydag unrhyw wariant ariannol, bydd angen i glybiau chwaraeon edrych ar y cyfnod ad-dalu a'r elw ar y buddsoddiad wrth ystyried porfa artiffisial. Rwy'n gwybod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Hoci Cymru, Undeb Rygbi Cymru, yn gweithio ar y cyd â Chwaraeon Cymru, wedi sefydlu gweledigaeth a model y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer datblygu clybiau a chynyddu nifer y rhai sy'n cymryd rhan drwy arwynebau chwarae wedi'u lleoli'n briodol ac addas i'r diben. Rwyf wedi cael sgwrs gyda'r sefydliadau hynny sy'n cytuno'n llwyr fod angen dybryd i Gymru fuddsoddi mewn mwy o gaeau chwaraeon 3G a 4G at ein defnydd cymunedol a phroffesiynol. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sefydlu targed o 100 o gaeau chwaraeon 3G yng Nghymru erbyn 2024. Mae hyn i'w groesawu'n fawr, ond ymhle? Byddwn yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau ei bod yn cyflwyno—i gael mwy o gaeau chwaraeon, ac i fynd ymhellach ar gyfer pob rhan o Gymru. Mae angen iddi fynd ymhellach i sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa o ehangu'r nifer o gaeau chwaraeon porfa artiffisial, gan eu bod i'w gweld yn bennaf mewn ardaloedd trefol ac yn ne Cymru ar hyn o bryd.
Lywydd, fel y gallwch ddweud, rwy'n credu'n angerddol yn y manteision o fuddsoddi mewn cyfleusterau 3G a 4G pob tywydd ar gyfer chwaraeon cymunedol a'n clybiau cynghrair, ac i gymunedau eu mwynhau. Mae cynifer o fanteision i'n gwlad; o ran chwaraeon, ond hefyd o ran y manteision iechyd meddwl i bobl hen ac ifanc. Byddai'n diwygio rygbi, pêl-droed a chwaraeon eraill ar lawr gwlad yn llwyr ar gyfer pob oedran a phob gallu. Byddai'n rhoi cyfle cyfartal i'n chwaraewyr proffesiynol ddatblygu eu gêm, gan sicrhau nad ydym yn colli sêr y dyfodol i Loegr oherwydd bod y cyfleusterau gymaint yn well dros y ffin. Mae'n bryd i Gymru ddal i fyny.
Fe'm digalonnwyd pan glywais ychydig flynyddoedd yn ôl wrth wneud cais am gae chwarae fy hun fod yr arian wedi dod i ben ar gyfer cyflwyno'r caeau chwaraeon 3G a 4G hyn. Nid wyf am wneud hwn yn fater pleidiol o gwbl mewn gwirionedd, ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd y Llywodraeth i gyflwyno'r caeau chwaraeon hyn ymhellach. Ond rwy'n gofyn i'r Llywodraeth hon a'r nesaf fuddsoddi'n helaeth a buddsoddi'n gyflym i gyflwyno rhaglen ar gyfer sicrhau caeau chwaraeon 3G a 4G pob tywydd ar gyfer cynifer o rannau o Gymru â phosibl, caeau chwaraeon sy'n hawdd i bob cymuned eu cyrraedd, mynediad at chwaraeon 3G a 4G i bawb ym mhob rhan o'n gwlad, gan ganolbwyntio'n benodol ar ardaloedd gwledig, a dull cydgysylltiedig o gefnogi ein his-gynghreiriau gyda'r cyfleusterau hynny, fel y gallwn gefnogi'r broses ar yr un pryd o greu mwy o academïau a mwy o gyfleoedd i'n pobl ifanc allu rhagori mewn chwaraeon. Rwy'n gofyn i bawb ohonoch gefnogi hyn. Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am ganiatáu imi siarad yn y ddadl fer bwysig hon. Rwyf finnau hefyd yn angerddol iawn, fel Laura, ynglŷn â gwella cyfleusterau chwaraeon, nid yn unig yn fy nghymuned i ond ledled Cymru, a gwn am y gwahaniaeth y gall caeau chwaraeon artiffisial ei wneud.
Cymuned sydd ag achos go iawn dros ddatblygu caeau chwaraeon artiffisial yw Bwcle yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae ganddynt glwb pêl-droed anhygoel ag iddo gefnogaeth gref yn lleol, sef tîm Bwcle. Maent wedi cael brwydrau enfawr dros y blynyddoedd gyda phroblemau'n ymwneud â draenio, ac ni fyddai'n anghyffredin mewn tymor arferol i'r tîm ohirio'r rhan fwyaf o'u gemau cartref oherwydd y broblem. Ac mae hon yn broblem go iawn ym Mwcle, fel y mae ar draws etholaethau a chymunedau eraill ledled Cymru.
Lywydd, rwyf wedi cyfarfod â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru a byddaf yn defnyddio'r cyfnod ar ôl COVID i annog y sefydliadau hyn i gefnogi cae chwaraeon artiffisial ar gyfer Bwcle, ochr yn ochr â'r awdurdod lleol a'r cynghorwyr lleol. Ond rwy'n credu bod Laura Anne Jones wedi gwneud pwynt da yn ei chyfraniad, a byddaf yn annog y Gweinidog sy'n gyfrifol heddiw, y Dirprwy Weinidog chwaraeon, i gefnogi'r prosiectau hyn, ond byddaf hefyd yn annog y Gweinidog yn y dyfodol a fydd yn gyfrifol am y mathau hyn o ddatblygiadau i gefnogi ac i ddefnyddio'u dylanwad ar ran y datblygiadau cymunedol hyn, sydd mor bwysig i gynifer o bobl.
Lywydd, wrth orffen, mae angen cae ar Bwcle, ac nid ar gyfer pêl-droed ar ddydd Sadwrn yn unig; mae ar gyfer cymuned gyfan, drwy'r wythnos, drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n rhaid i bawb ohonom wneud popeth yn ein gallu i gyflawni hyn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cyfle gan Laura i ddweud gair neu ddau. Mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon i. Mae adnoddau bob-tywydd mor, mor bwysig. Dwi wedi chwarae ac wedi hyfforddi ar gaeau 3G, gan gynnwys chwarae i'r Senedd ar Barc yr Arfau Caerdydd, ac mae'r cae 3G yn Llangefni wir wedi ein galluogi ni fel clwb rygbi i hyfforddi ieuenctid reit trwy'r tywydd gwaethaf mae Ynys Môn yn gallu taflu atom ni. Ond mae'n rhaid i ni gael mwy o adnoddau fel hyn. Dwi wedi bod yn gwneud cymaint â gallaf i drio tyfu cefnogaeth a chael buddsoddiad i gaeau 3G newydd yn Amlwch a Chaergybi. Mae yna fenter gymunedol yn gwneud gwaith gwych yn Amlwch. Mae yna gynllun i Gaergybi rŵan, er nid cae maint llawn—dwi'n cario ymlaen i wthio tuag at gael yr adnoddau gorau posib ar gyfer y dref. Felly, gadewch i ni wir blaenoriaethu, gadewch i ni weld y Llywodraeth wir yn blaenoriaethu, buddsoddi mewn adnoddau pob tywydd am eu budd iechyd a'u budd cymunedol nhw.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Dafydd Elis-Thomas.
Gaf i ddiolch yn fawr, yn gyntaf, i Laura Anne?
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n amserol iawn. Mae'n amserol i mi, fel y Gweinidog chwaraeon presennol, ond mae hefyd yn amserol yn yr argyfwng hwn, oherwydd nid oes dim wedi dangos yn fwy eglur pa mor bwysig—hanfodolrwydd, ddywedwn i, yr angen hanfodol—am ymarfer corff, ac i roi dewis o ymarfer corff i bobl, na'r argyfwng rydym wedi bod drwyddo.
Fe wnaf ateb gyda fy araith weinidogol ffurfiol braf yn Gymraeg. Rwy'n gwybod na fyddwch yn gwrthwynebu hynny, oherwydd rydych wedi arfer gwrando arnaf drwy gyfieithiad, ac yn ôl pob tebyg, fe fydd yn swnio'n well nag y swniaf yn y gwreiddiol.
Fel y dywedais i, mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol, ac mae chwaraeon wedi cael eu heffeithio yn arbennig. Roeddwn i'n falch o allu cyhoeddi'r pecyn yn gynharach yr wythnos yma o £17 miliwn, sy'n golygu y bydd yna gyfanswm cyllid ar gyfer y sector chwaraeon o £40 miliwn ers dechrau'r argyfwng yma. Rydym ni yn gyfan gwbl gefnogol fel Llywodraeth i'r hyn a ddywedwyd yn gynharach yn y ddadl yma.
Mae gan Gymru ar hyn o bryd, yn ôl ffigyrau Chwaraeon Cymru—ac maen nhw wastad yn gywir—84 o gaeau 3G maint llawn, a 77 o gaeau gyda thywarch artiffisial hoci maint llawn, a 116 o gaeau artiffisial eraill. Ond dwi ddim yn siŵr os mae 'caeau artiffisial' yw gair dwi'n ei hoffi yn Gymraeg neu Saesneg, achos caeau bob tywydd ydy'r rhain. Maen nhw'n dal yn feysydd chwarae, felly ddylem ni ddim yn eu galw nhw caeau—meysydd chwarae bob tywydd rydw i am eu galw nhw. Mewn tywydd fel sydd gyda ni yng Nghymru, mae hynny'n hanfodol. Mae'n rhaid inni gael cyfleusterau cyfoes er mwyn sicrhau bod cyfranogaeth pobl ym mhob tywydd mewn chwaraeon yng Nghymru yn gallu digwydd.
Felly, mae'r buddsoddiad rydym ni wedi'i wneud yn barod ar gaeau yn dangos y posibiliadau. Mae gyda ni ar hyn o bryd grŵp cyfleusterau, fel y gwyddoch chi, grŵp cyfleusterau chwaraeon cydweithredol, sy'n cael ei arwain gan Chwaraeon Cymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru, yr undeb rygbi a Hoci Cymru, i sefydlu arwynebau chwarae artiffisial—dwi newydd wrthod y gair yna, felly gwnaf ei newid o—arwynebau chwarae penodol pob tywydd ledled Cymru. Yn ogystal â'r £3 miliwn a fuddsoddwyd pan sefydlwyd y grŵp yma, mae yna £731,000 ychwanegol wedi'i fuddsoddi mewn caeau tywarch ledled Cymru trwy gymorth y gronfa cyfalaf newydd gwerth £5 miliwn a gyhoeddwyd gen i y llynedd. Mae hynny'n golygu bod Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi gallu cefnogi'r 77 o gaeau pêl-droed artiffisial, efo targed o 100, fel y clywsom ni, erbyn 2024.
Felly, beth sy'n rhoi llawenydd mawr i mi heno yw bod yna gefnogaeth tair plaid i'r project yma. Os gallaf i wneud un peth ar ddiwedd fy nhymor fel Gweinidog chwaraeon, sicrhau bod chwaraeon wastad yn fater y bydd pob plaid yng Nghymru yn ei gefnogi heb ddadlau amdano, a hefyd yn cefnogi'r modd y gallem ni ddatblygu ein projectau. Felly, dwi'n ddiolchgar i Jack Sargeant, Rhun ap Iorwerth a Laura am eu cyfraniad i'r ddadl yma. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, a dyna ni, dyna ddod â'n gwaith ni am y dydd heddiw i ben. Prynhawn da, bawb.