Economi Gorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:30, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, wrth gwrs, rydym wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ers dechrau pandemig COVID-19, gwerth mwy na £2 biliwn, ac mae £1.7 biliwn o’r swm hwnnw bellach yng nghyfrifon busnesau. Yn ne-orllewin Cymru, mae'r gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £12.4 miliwn i dros 3,600 o fusnesau, ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 268 cynnig gwerth cyfanswm o £2.8 miliwn hyd yn hyn.