Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 27 Ionawr 2021.
Diolch, Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltais â chi ynglŷn â thrafferthion arcedau hapchwarae, ac yn eich ymateb dywedwch fod yn rhaid ichi wneud penderfyniadau anodd ar feini prawf cymhwysedd. Mae'r busnesau hyn, y mae eich Llywodraeth wedi'u categoreiddio fel rhai sydd yr un fath â chasinos neu sefydliadau betio trwyddedig—er nad ydynt—yn cael eu hamddifadu o'r cymorth a roddir i fusnesau hamdden eraill yng Nghymru. Ac er bod busnesau cyfatebol yn yr Alban a Lloegr yn derbyn cymorth, pam y gall neuaddau bingo dderbyn cymorth ond nid arcedau hapchwarae ar y stryd fawr? Weinidog, a wnewch chi drefnu i gyfarfod â chynrychiolwyr y tri busnes yr effeithiwyd arnynt yn fy rhanbarth i er mwyn clywed eu trafferthion? Os caiff y busnesau hyn eu gorfodi i gau, bydd cannoedd o bobl yn colli eu swyddi. Diolch.