1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth i fusnesau yng Nghaerffili y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio arnynt? OQ56176
Gwnaf, wrth gwrs. Yng Nghaerffili, mae'r gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu mwy na £4.5 miliwn i dros 1,500 o fusnesau ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 61 cynnig gwerth cyfanswm o £478,000 hyd yma.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyfarfod â chynrychiolwyr busnesau yng Nghaerffili ac am yr ymatebion adeiladol a roddodd. Hoffwn holi ynglŷn ag ychydig o faterion sydd wedi deillio o hynny. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae'r busnesau hynny wedi cysylltu â mi unwaith eto, gan fynegi rhai pryderon ynglŷn â’r pecyn ariannol cyfredol. Mae un wedi dweud—stiwdio ddawns yn Ystrad Mynach—na allant gael mynediad at gymorth drwy’r gronfa cadernid economaidd gan nad ydynt yn talu eu staff ar sail talu wrth ennill, er eu bod yn yr un sefyllfa fwy neu lai â busnesau eraill o faint tebyg fel arall. Parc fferm yw un arall a gysylltodd â mi, a dywedodd wrthyf na ellir defnyddio’r gronfa cadernid economaidd i gynnal cyflogau staff er na ellir rhoi’r staff ar ffyrlo am eu bod yn gorfod gofalu am anifeiliaid y parc. Ac mae cynrychiolwyr y sector trin gwallt a harddwch wedi mynegi pryderon pellach i mi am nad ydynt yn gallu cael cymorth drwy rownd gyllido bresennol y gronfa cadernid economaidd er nad ydynt yn gallu agor. Prin yw’r gwahaniaeth yn y sector lletygarwch rhwng bod yn gymwys a pheidio â bod yn gymwys, ac weithiau rwy'n credu bod busnesau’n cwympo ar yr ochr anghywir i'r gwahaniaeth hwnnw, a hoffwn i’r Gweinidog fynd i'r afael â hynny, ac yn enwedig gyda'r rownd gyllido nesaf mewn golwg. Felly, yn y rownd gyllido nesaf, a ellir mynd i'r afael â'r materion hynny i sicrhau y ceir darpariaeth ar gyfer y busnesau hynny? Ac a all ddweud wrthym hefyd, gan fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi £200 miliwn yn y rownd nesaf, pa bryd y bydd manylion y rownd gyllido nesaf honno’n cael eu cyhoeddi?
A gaf fi ddiolch i Hefin David nid yn unig am ei gwestiynau, ond hefyd am y cyfle i gyfarfod ag ef yn ddiweddar a chynrychiolwyr busnesau o Gaerffili? Roeddwn yn credu bod y drafodaeth a gawsom yn werthfawr iawn, ac yn sicr, rydym bob amser yn archwilio sut y gallwn lenwi'r bylchau y mae pobl a busnesau yn cwympo drwyddynt o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nawr, dylwn ddweud yn gyntaf oll fod y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod ag ExcludedUK yn ddiweddar—fy nghyd-Aelod Jane Hutt—i drafod materion a phroblemau y mae miliynau o bobl yn eu hwynebu ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a minnau at y Canghellor yn ddiweddar, gan bwyso arno i sicrhau bod cymorth pellach ar gael i fusnesau ac i bobl sy'n gweithio. Heddiw, efallai y bydd yr Aelodau wedi gweld, yn y cwestiynau i Brif Weinidog y DU, iddo gael ei holi ynglŷn ag ymestyn cymorth i fusnesau a gweithwyr er mwyn sicrhau bod llai o bobl a busnesau yn cwympo drwy’r bylchau, a dywedodd y byddai datganiad yn cael ei wneud cyn bo hir ar yr union fater hwnnw.
Lluniwyd ein pecyn gyda fforddiadwyedd mewn golwg, yn amlwg, ond hefyd gyda'r cyllid sydd ar gael i ni, ac weithiau, bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd. Ond ein nod oedd llenwi cymaint â phosibl o’r bylchau yng nghynlluniau Llywodraeth y DU. Ac o ran rhai o'r enghreifftiau a amlinellwyd gan Hefin, ac yn gyntaf oll y busnes dawns, er na all busnes heb staff a gyflogir ar sail talu wrth ennill gael mynediad at gronfa sectorau penodol y gronfa cadernid economaidd, byddai busnes a chanddo eiddo ardrethol yn gallu sicrhau grant drwy eu hawdurdod lleol o £3,000 neu £5,000 o gyllid y gronfa cadernid economaidd ar gyfer busnesau dan gyfyngiadau. Ac mae hynny hefyd yn berthnasol i'r busnesau yn y sector trin gwallt a harddwch. Nawr, mae Hefin hefyd yn llygad ei le fod y Prif Weinidog, ddydd Gwener diwethaf, wedi amlinellu £200 miliwn ychwanegol a fydd ar gael i gefnogi busnesau yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd manylion y pecyn cymorth ychwanegol hwnnw’n cael eu cyhoeddi cyn bo hir, ymhen ychydig ddyddiau. Yn y cyfamser, dylwn sicrhau'r Aelodau hefyd fod y gronfa ddewisol a weithredir gan awdurdodau lleol yn parhau i fod yn agored i geisiadau. Mae'r gronfa honno'n werth £25 miliwn, ac wedi'i chynllunio i ganiatáu i fusnesau gael grantiau o hyd at £2,000.
Diolch, Weinidog. Gan ehangu ar y cwestiwn hwnnw, hoffwn ofyn i chi am fusnesau sy'n cwympo drwy'r bylchau gan fod cryn dipyn o fusnesau’n cwympo drwy'r bylchau o hyd. Felly, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion a'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud yn ei gylch. A gaf fi ofyn i chi'n benodol ynghylch cymorth i bobl hunangyflogedig sy'n gweithio gartref ac sydd wedi sefydlu busnesau newydd yn ddiweddar? Mae etholwr a sefydlodd fenter busnes newydd ym mis Tachwedd 2019 wedi cysylltu â mi, ac ar ôl iddo gyflawni'r hyfforddiant priodol roedd angen iddo’i wneud, roedd yn bwriadu dechrau masnachu yn y busnes hwnnw yn gynnar yn 2020. Fodd bynnag, ni allai hyn ddigwydd gan ei fod yn galw am ymweld â chartrefi pobl, rhywbeth a oedd wedi’i wahardd, yn amlwg, dan y rheoliadau coronafeirws. O ganlyniad, ni wnaeth unrhyw elw ac aeth i ddyled sylweddol o ganlyniad i sefydlu ei fusnes. Tybed pa gymorth rydych yn ei roi i fusnesau fel ei fusnes ef a fu’n anlwcus iawn o ran yr adeg y gwnaethant ddechrau eu busnes wrth gwrs.
A gaf fi ddiolch i Laura Jones am dynnu sylw at yr achos penodol hwnnw? Ac yn amlwg, os gwnaiff Laura Anne Jones ysgrifennu ataf gyda rhywfaint o'r manylion, fe roddaf ystyriaeth benodol iddo hefyd i weld a allwn fod o gymorth. Ond yn gyffredinol, o ran busnesau newydd, gwnaethom ddarparu grantiau yn ystod y pandemig ar gyfer busnesau newydd er mwyn eu diogelu, ac yng Nghaerffili ei hun, mae 84 o grantiau wedi'u rhoi i fusnesau newydd, gwerth cyfanswm o fwy na £200,000, ac mae hynny’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fusnesau newydd. Ac ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cymorth pellach i fusnesau newydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf fel rhan o'r pecyn cymorth cyffredinol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog.
Fel y nododd y Gweinidog, rydym yn cydnabod mai’r cymorth a gynigiwyd i fusnesau Cymru yw’r mwyaf hael o holl Lywodraethau'r DU. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw'r cyllid sydd ar gael i fusnesau Cymru yn ddigon, hyd yn oed gyda chymorth Llywodraeth y DU, o ystyried nifer y busnesau ar draws pob sector sydd naill ai'n cau'n barhaol neu sy'n cael gwared ar swyddi ar raddfa frawychus, fel y gwelwyd wrth i dri safle manwerthu mawr ynghanol y dref ym Mhont-y-pŵl gau yn ddiweddar. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg mai'r unig bosibilrwydd o atal y niwed trychinebus hwn i economi Cymru yw dod â'r cyfyngiadau symud i ben. A all y Gweinidog roi unrhyw syniad pryd y bydd hyn yn digwydd fel y gall y rheini sydd mewn sefyllfaoedd economaidd enbyd weld rhywfaint o oleuni ar ben draw’r twnnel?
A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiwn a dweud, yn anad dim, fod yr hyn rydym yn ei wynebu’n fyd-eang yn argyfwng na welwyd mo'i debyg o'r blaen? Nid ydym erioed wedi wynebu pandemig o'r fath yn ystod ein hoes, ac felly nid yw'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau, er ei fod wedi bod yn sylweddol, yn ddigon i wneud iawn am lawer o'r costau ychwanegol a’r refeniw y byddai busnesau wedi'i golli yn ystod y pandemig. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau eisiau bod ar agor, fel y credaf y byddai'r holl Aelodau'n ei gydnabod, yn hytrach na chael eu gorfodi i gau oherwydd cyfyngiadau symud.
Mae'r cynllun ar gyfer dod allan o gyfyngiadau symud yn eithaf clir o ran ble mae angen inni fod mewn perthynas â phrofion positif a chyfraddau heintio. Ond yn y cyfamser, rydym yn barod i gefnogi pob busnes yn ystod y cyfyngiadau symud hyn i sicrhau y gallant oroesi. Unwaith eto, mewn perthynas ag ardal Caerffili, ceir rhai enghreifftiau rhagorol o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi busnesau a diogelu swyddi dros y misoedd diwethaf—busnesau fel Bergstrom, IG Doors, Hydro Sapa, MII Engineering. Rhwng y busnesau hynny, rydym wedi gallu dyfarnu mwy nag £1 filiwn mewn grantiau a diogelu bron i 1,000 o swyddi. Mae hynny'n gyflawniad gwych i Gaerffili ac mae'n dangos sut y mae Llywodraeth Cymru, ym mhob rhan o Gymru, yn camu i'r adwy i ddiogelu cyflogaeth er mwyn cynnal gobeithion pobl ar gyfer y dyfodol.