Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 27 Ionawr 2021.
Diolch ichi am yr ateb, oherwydd mynd ar ôl dyfodol porthladd Caergybi oeddwn i eisiau ei wneud. Mae'n amlwg yn destun gofid yn sgil y newid rydyn ni wedi ei weld yn yr wythnosau diwethaf, gyda busnes ar y route o Gaergybi i Ddulyn wedi haneru o beth fyddem ni fel arfer yn ei weld ar yr adeg yma. Mae Stena Estrid hefyd, wrth gwrs, wedi cael ei symud i route o Ddulyn i Cherbourg, er ei bod hi nôl, mae'n debyg, yr wythnos yma am gyfnod byrhoedlog; mae'n debyg yn y tymor hirach y bydd hi ddim. Felly, mae yna gonsérn, wrth gwrs, ynglŷn â'r effaith hirdymor ar y porthladd. Yr hyn dwi eisiau gofyn yw beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo gyda'r gwaith o hwyluso'r defnydd o'r porthladd pan mae'n dod i weithio gyda chwmnïau sy'n symud nwyddau, busnesau a, pan ddaw'r amser, teithwyr hefyd. Oherwydd mae angen gwarchod dyfodol y porthladd, wrth gwrs, ond mae e yn gwneud cyfraniad pwysig nid dim ond i economi Ynys Môn ond i economi gogledd Cymru gyfan.